Basis yng Nghymru: Adeiladu Tîm
You can read this in English here.
Tirwedd wahanol
Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu eu heriau unigryw eu hunain — boed hynny yn bodloni gofynion y Gymraeg, addasu i fuddiannau cystadleuol Senedd Cymru a San Steffan, neu ymateb i anghenion cymunedau gwledig ac ôl-ddiwydiannol sylweddol Cymru, i enwi ond ychydig o enghreifftiau.
Mae rhaid bod rhai o’r heriau y mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn eu hwynebu yn teimlo fel mynyddoedd i’w dringo. Er enghraifft, mae bron i draean o blant Cymru mewn tlodi, y gyfradd uchaf o dlodi plant o unrhyw wlad yn y DU, ond yn anffodus ystadegyn a nodwyd cyn yr argyfwng costau byw presennol yw hwn. Yn nhirwedd gymdeithasol-wleidyddol Cymru, byddai her o’r fath yn cyfateb i’r Wyddfa.
Nid yw’r datrysiadau i lawer o’r heriau a wynebir gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn amlwg. Nid oes ‘un ateb cywir’ ar gyfer datrys tlodi plant. Pe bai yna, byddai’r broblem hirsefydlog hon eisoes wedi’i datrys.
Y dull traddodiadol o ddatblygu a gweithredu datrysiadau i broblemau fel hyn yw gwneud cynllun, gwneud rhywfaint o ddadansoddi, dylunio datrysiad a’i roi ar waith. Er bod y dull llinynol hwn yn edrych yn dda ar bapur, nid yw’n cydnabod bod systemau cymhleth yn anrhagweladwy. Er y gallai gymryd milenia i ddaearyddiaeth ffisegol Cymru i newid, mae ei thirwedd gymdeithasol-wleidyddol yn newid yn gyflym ac yn gyson: er 2015 rydym wedi cael dau Brif Weinidog gwahanol yng Nghymru, tri etholiad cyffredinol yn y DU, Brexit, pandemig, a ninnau yn wynebu argyfwng costau byw ar hyn o bryd. Mae newidiadau fel hyn yn golygu y gall y cynllunio hirdymor sy’n gysylltiedig â’r dull ‘Rhaeadr’ fynd yn hen ffasiwn ac yn anaddas i’r diben yn gyflym.
Mae Basis wedi arloesi defnydd dull mwy Agile o weithredu newid mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae Agile yn ddull ailadroddol o gyflawni newid sy’n gwerthfawrogi cyfathrebu ac adborth dynol, addasu i newid, a chynhyrchu canlyniadau defnyddiadwy. Dyma sylfaen ein dull ni o wella gwasanaethau.
Fel sefydliad, mae Basis wedi ymrwymo i helpu gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael â phroblemau blêr gan ddefnyddio dull mwy Agile. Yn ystod y tair blynedd diwethaf rydym wedi cael tipyn o lwyddiant yn cymhwyso’r ffordd hon o weithio mewn ystod eang o feysydd, yn amrywio o iechyd a gofal cymdeithasol i allgáu digidol. Eleni rydym am wneud mwy o’r gwaith hwn a chynyddu ein heffaith yng Nghymru.
Tîm Cymru
Yn yr un modd ag y mae daearyddiaeth go iawn Cymru yn wahanol i’w chymydog mwy gwastad yr ochr draw i glawdd Offa, mae tirwedd gymdeithasol-wleidyddol Cymru yr un mor wahanol — ac mae angen cymorth ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sy’n gwerthfawrogi’r ffaith honno.
Rydym am fod yn sefydliad sy’n parchu cyd-destun unigryw Cymru — un sy’n darparu gwasanaethau yn y Gymraeg, sy’n addasu ein hyfforddiant i fod yn berthnasol i’r cyd-destun Cymreig, ac sydd yn y pen draw yn cael effaith ar yr heriau penodol y mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn eu hwynebu. Yn syml, rydym eisiau bod yn sefydliad sydd wir yn deall Cymru.
I wneud hyn, mae Basis wedi bod yn adeiladu tîm penodol i Gymru. Joe, rheolwr Basis, a siaradwr Cymraeg a aned ac a fagwyd yng Nghwmbrân, sydd wedi bod yn gyrru’r ymdrech hon i adeiladu tîm Basis yng Nghymru. Dros flwyddyn yn ôl, bu Joe yn rhannu am waith Basis yng Nghymru, ac yn sôn am ei uchelgais i gyflogi siaradwyr Cymraeg i gefnogi gwaith pellach yng Nghymru. Cafwyd llawer o gynnydd yn barod.
Roedd y ddau intern diwethaf a gyflogwyd gan Basis, Alys a Scott, ill dau yn Gymry Cymraeg — mae Alys bellach yn weithiwr parhaol gyda Basis. Fi yw’r person diweddaraf a gyflogwyd yn barhaol gan Basis, Cymro Cymraeg a aned yng Nghaerdydd. Yn arwyddocaol, oherwydd diwylliant gweithio o bell Basis, rydym i gyd wedi gallu byw a gweithio yng Nghymru.
Dros y misoedd diwethaf, mae’r Gymraeg wedi bod yn seinio drwy swyddfa rithwir Basis. Mae Joe hyd yn oed wedi cyflwyno hen system deilyngdod ei ysgol, sef ‘tocyn iaith’, a roddir pan fo rhywun yn defnyddio Cymraeg rhagorol (er am ryw reswm, y mae fel petai’n dyfarnu’r teilyngdod hwn iddo’i hun yn unig!). Mae hi wedi bod yn bleser siarad a gweithio yn y Gymraeg yn ddyddiol, rhywbeth rwyi’n ymwybodol sydd ddim yn wir yn y rhan fwyaf o sefydliadau preifat (hyd yn oed yng Nghymru).
Gwyddom nad yw dod o Gymru neu fod yn siaradwyr Cymraeg o reidrwydd yn ein gwneud yn well o ran cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Yr hyn y mae’n ei olygu, fodd bynnag, yw ein bod yn deall yr heriau unigryw y mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn eu hwynebu, ac am eu gweld yn cyflawni newid ystyrlon — oherwydd mae hefyd yn ystyriaeth bwysig i ni.
Fe fyddwn ni’n ysgrifennu mwy am Gymru, a’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma. Os ydych chi am ddilyn y sgwrs hon, gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o ffyrdd i wneud hynny yma.