Basis mewn diwrnod

Owain James
Basis
Published in
4 min readFeb 15, 2022
Photo by Andrew Masters on Unsplash

You can read this story in English here.

Awstriad, consuriwr, a seiclwr proffesiynol. Nid dechreuad jôc mo hwn, ond rhai o’r bobl y cyfarfûm â hwy ar fy niwrnod cyntaf o weithio i Basis.

Yr Awstriad dan sylw oedd Katharina, fy ‘hyfforddwr’, sy’n fy helpu i setlo i fywyd yn Basis. Ac mae yna sawl peth i ddod i arfer â nhw. I ddechrau, cyfarfu Katharina a minnau ar fy more cyntaf ym Mhencadlys Rhithwir Basis: swyddfa ddigidol ar gyfer defnydd mewnol Basis, ar lwyfan Welo. Gallwch gynnal galwadau ac anfon negeseuon sydyn, fel y gallech ddisgwyl, ond mae’r gofod wedi’i osod i efelychu amgylchedd swyddfa go iawn, gyda gwahanol ardaloedd wedi’u neilltuo ar gyfer dibenion gwahanol: ystafelloedd cynadledda ar gyfer cyfarfodydd tîm mawr, meinciau picnic i roi gwybod i bawb eich bod yn bwyta, ac ystod o fannau ar gyfer gwaith unigol neu grŵp bach. Fel swyddfa go iawn, gallwch chi bicio draw a sgwrsio ag aelodau eraill o’r tîm ar hap (sy’n ddefnyddiol iawn i aelod newydd o staff sydd â llawer o gwestiynau!), ond ar yr un pryd gallwch chi ddal i fwynhau buddion gweithio o bell (i ddechrau, does dim cymudo i’r swyddfa hon)! Mae fy amser yn Basis eisoes wedi agor fy llygaid i bosibiliadau newydd i weithio o bell. Fel un sy’n hoffi cadw i’m rhigol, rwyf eisoes wedi dod o hyd i’m man arferol ym Mhencadlys Rhithwir Basis, ar un o’r soffas lliw hufen yng nghanol y swyddfa, wrth ymyl coeden fawr.

Pencadlys Rhithwir Basis

Ond nid oedd fy niwrnod cyntaf yn gwbl rithwir. O ganol dydd, cynhaliwyd fy anwythiad mewn person. Dyma ble mae’r consuriwr yn dod i mewn, nid mewn pwff o fwg, ond ar drên i ganol Caerdydd. Eglurodd Joe, sef cyfarwyddwr Basis, wrth i ni gyfarfod yn Sgwâr Canolog Caerdydd ei fod yn gonsuriwr proffesiynol yn ei amser hamdden. Roedd hyn yn ymddangos yn rhyfedd o addas. Cyn dod i Basis roeddwn i’n cwblhau PhD ar syniadau Cristnogion cynnar am hud a lledrith — felly Joe yw’r bont berffaith rhwng fy hen alwedigaeth a’r yrfa newydd hon!

Yn y cyfarfod hwn, esboniodd Joe ymhellach am Basis, y gwasanaethau cyhoeddus maent yn eu cefnogi, a’r agwedd Agile at waith y mae Basis yn ei hyrwyddo. Mae Joe yn amlwg yn angerddol am ei waith, ac roedd yn wych clywed am ei uchelgais ehangach o gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a’i awydd i gynnig y gefnogaeth hon yn y Gymraeg, gweledigaeth y gallaf ymuniaethu â hi. Cynhesach byth oedd croeso Joe oherwydd y cynhaliwyd yr anwythiad yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, fy mamiaith.

Doedd y diwrnod cyntaf ddim yn waith i gyd. Gyda’r nos ymunodd gweddill ‘Tîm Cymru’ Basis â Joe a minnau — Scott (cyn-seiclwr proffesiynol) ac Alys (y darganfyddwn yn fuan iawn ei bod yn athletwr wych ei hun) — am ddiodydd croeso. Arweiniodd y diodydd yn fuan at fwyd, ac yna at fwy o ddiodydd, ac yn y diwedd daethom o hyd i far lle gallem chwarae tenis bwrdd a bwrdd-siyffl. Roeddwn yn bryderus i ddechrau pan ganfu Alys a minnau ein hunain yn wynebu Scott a Joe mewn tenis bwrdd, ond mae’n ymddangos bod dwylo Scott yn fwy addas ar gyfer dolenni beic na rhwyfau tenis bwrdd. Nid bob dydd y cewch chi frolio am guro athletwr proffesiynol mewn camp Olympaidd! Ar ddiwedd y diwrnod cyntaf, wrth i mi adael ‘Tîm Cymru’ a theithio adref, ni allwn ond teimlo’n gyffrous am yr wythnosau a’r misoedd o’m blaen.

Joe, Scott, Owain ac Alys yn mwynhau noson yng Nghaerdydd

Gwibiodd gweddill fy wythnos gyntaf yn Basis, a oedd yn llawn cyfleoedd a phrofiadau diddorol: dysgais i ddefnyddio llwyth o feddalwedd newydd (Trello, Miro a ClickUp, ac enwi ond rhai); arsylwais ar gynllun hyfforddiant ymchwil defnyddwyr i’w gyflwyno i GIG Cymru; a threuliais lawer o amser yn gweithio ar farchnata Basis. Ar y nodyn hwnnw, os ydych am glywed mwy gennym, yn enwedig wrth i ni geisio cyfrannu i’r sgwrs ar Agile yng Nghymru, dilynwch fi fy hun, Joe a Basis, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn Basis ar Medium.

--

--