Basis yng Nghymru: Ein gwaith yma hyd yn hyn
You can read this in English, if you would prefer.
Ein gwaith yng Nghymru hyd yn hyn
Ychydig yn ôl fe wnes i rannu (yn Gymraeg a Saesneg) am uchelgais Basis i wneud gwaith gwych yng Nghymru mewn ffordd oedd yn cydnabod cyd-destun unigryw Cymru, a’n hymdrechion i adeiladu tîm i’n galluogi i wneud hynny.
Ond yn awr, rwyf am siarad am yr hyn yr ydym eisoes wedi bod yn ei wneud yma.
Dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, rydym wedi gweithio ar rai prosiectau hynod ddiddorol ac amrywiol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Dyma rai uchafbwyntiau:
- Helpodd tîm Basis awdurdodau lleol yng Nghymru i gynnal ymchwil defnyddwyr i archwilio’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu i ddefnyddio technoleg ddigidol. Gallwch ddarllen mwy am yr ymchwil hwn ar gynhwysiant digidol, ei ganfyddiadau, a chanlyniadau yma.
- Mae Medrwn Môn yn fudiad effaith gymdeithasol sy’n hyrwyddo a chefnogi gwirfoddoli a grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol sy’n gweithio ar Ynys Môn yng Ngogledd Cymru. Gyda’n cefnogaeth ni, roedden nhw’n gallu rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio ac yn gallu arbrofi gyda thimau hunan-drefnu. Arweiniodd hyn at wneud cyfrifoldebau a ffiniau gwneud penderfyniadau yn gliriach o fewn y sefydliad, mwy o ymdeimlad o rannu cyfrifoldeb ymhlith staff, ac maent bellach yn teimlo eu bod mewn sefyllfa well i gefnogi’r trydydd sector ar Ynys Môn. Ond peidiwch â chymryd ein gair ni am hyn — darllenwch yr hyn a ddywedon nhw am eu profiad gyda ni yma.
- Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn — buom yn helpu timau lleol i sefydlu wyth Tîm Adnoddau Cymunedol ar draws Gogledd Cymru i helpu pobl hŷn yn y gymuned i fyw eu bywydau fel y dymunant. Fel rhan o’r gwaith fe wnaethom gyflwyno ffyrdd ystwyth o weithio a chefnogi timau i gynnal ystod o arbrofion i brofi ffyrdd newydd o weithio.
- Gan weithio ochr yn ochr â Perago, ac a gomisiynwyd gan Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru, dyluniodd a darparodd Joe, Gwenno a minnau hyfforddiant ar ymchwil defnyddwyr i’r GIG yng Nghymru a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau rhagarweiniol, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar gyfer y rhai nad oeddent yn gwybod llawer am ymchwil defnyddwyr, yn ogystal â chwrs hirach ar gyfer ymarferwyr ymchwil defnyddwyr i wella eu sgiliau a’u gwybodaeth. Aeth 161 o bobl drwy’r hyfforddiant i gyd!
- Mae Joe, Gwenno a minnau ar hyn o bryd yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i ddylunio cynnwys creu coetir eu gwefan mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Nod y prosiect hwn yw helpu i gael mwy o goed yn y ddaear yng Nghymru fel rhan o’r ymdrech i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Rwyf wedi bod wrth fy modd yn cynnal cyfweliadau ymchwil gyda defnyddwyr fel rhan o’r prosiect hwn i brofi cynnwys gyda nhw, gan helpu i wneud yn siŵr bod y gwasanaeth hwn gan CNC yn bodloni eu hanghenion.
Beth nesaf
Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn mynd i gael eu gwthio’n galed yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf. Fel un o ranbarthau tlotaf y DU, gyda’r CMC isaf y pen o blith gwledydd y DU, mae’r argyfwng costau byw presennol bron yn sicr yn mynd i effeithio’n anghymesur ar bobl yng Nghymru. Mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu’r dasg anhygoel o ddod i’r afael â’r her enfawr hon, tra’n dal i ddod i delerau â’r cymhlethdodau a ddaw yn sgil Brexit a Covid.
Mae Joe a minnau’n angerddol dros Gymru, ac eisiau gweld gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a’r dinasyddion y maent yn eu cefnogi, yn ffynnu. Er nad oes gennym ni’r atebion i’r heriau rydyn ni i gyd yn eu hwynebu (i fod yn onest, does gan neb yr atebion), rydyn ni’n meddwl y gallwn ni helpu i’w datrys.
Os ydych chi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac yn wynebu problem gymhleth, neu eisiau datblygu gallu eich tîm i ddylunio gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, cysylltwch â ni. Byddem wrth ein bodd yn cael sgwrs.
Gallwch anfon e-bost ataf, owain.james@basis.co.uk, neu Joe, joseph.badman@basis.co.uk.