Cylch Neanderthal yw drych hefyd

Alun Salt
Bywyd, y Byd a’r Bydysawd
4 min readMay 30, 2016

Sut dyn ni’n gweld Neanderthalaidd yw adlewyrchiad o sut dyn ni’n gweld ein hunain

Mae hyn yn ddiddorol. Mae ymchwilwyr wedi dod o hyd lle ble oedd stalagmidau wedi bod yn torri. Roedd rhywun wedi aildrefnu’r stalagmidau mewn dau gylch o ddiamedr 2 metr a rhwng 4 i 7 metr. Hefyd, mae archeolegwyr wedi dod o hyd stalagmidau mewn 4 pentyrrau, gyda llawer o dystiolaeth o dân ar y llawr.

Tasai amheuaeth am Neanderthalaidd sy’n meddwl symbolaidd yn bod, dylai e wedi marw nawr. Ond hyd yn oed heb ddarganfyddiad hwn, roedd archeolegwyr yn meddwl mwy a mwy gall Neanderthalaidd yn meddwl symbolaidd, yn rhannol achos o’r dystiolaeth ac yn rhannol achos mae archeolegwyr wedi bod dod i fod yn llai hiliol. Roedd llawer o beth archeolegwyr yn meddwl am Neanderthalaidd wedi bod yn adlewyrchiad o beth meddyliodd yr elît am bobloedd eraill.

Y darganfyddiad Neanderthal cyntaf nid oedd y mwyaf pwysig. Roedd y penglog Neanderthal cyntaf yn cael ei ffeindio yn y Wlad Belg yn 1829. Yn 1856 ffeindiodd gweithwyr esgyrn mewn chwarel yn y Neanderthal (Cwm Neander), ond dan ddyddodion calch. Yn ystod y 19eg ganrif, roedd syniad newydd, Yr Oes Iâ, yn tyfu. Roedd pobl yn derbyn y syniad amser dwfn. Deallodd ysgolorion oedd y dyn Neanderthal yn hen iawn. Yn yr amser hwn roedd e’n cael ei feddwl Celtiaid oedd y bobl Ewropeaid mwyaf hynafol. Dim yn unig roedd y Celtiaid yn hynafol, ond hefyd yn gyntefig. Roedd yr olwg englog gyda’i chrib ael drwchus yn helpu gyda’r adnabod, achos doedd y tebygrwydd ddim yn brydferth. Dyw e ddim tan 1856 wnaeth rhywun adnabod esgyrn fel rhan o fath bod dynol anhysbys.

Daeth y cyhoeddiad Origin of Species yn 1859, a nawr roedd syniad amser hir iawn a’r syniad newid trwy amser. Yn 1864 Wnaeth William King, anatomydd Gwyddel, yn cyhoeddi’r syniad roedd dyn Neanderthal yn bod dynol newydd.

Sut roedd y dyn Neanderthal yn ymddwyn? Fel pwy oedd e?

Mae archeolegwyr yn defnyddio cydweddiadau fel cyfeirydd i sut roedd rhywbeth yn cael ei defnyddio. Felly, i weld sut offer carreg yn cael eu defnyddio, wnaethon nhw ddefnyddio adroddiadau anthropolegol. Roedd anthropolegwyr yn ymweld â phobloedd gyntefig i greu theorïau esblygiad cymdeithasol, gydag Ewropeaid gwyn ar y top, a phobl yn llai datblygu fel camau oedden ni wedi symud y tu hwnt. Roedd e’n rhywbeth fel cyfiawnhad i ddinistrio ffyrdd o fyw traddodiadol fel cynnydd. Felly wnaeth yr anthropolegwyr yn chwilio i wahaniaethau rhwng pobloedd draddodiadol a dynion gwyn. Wnaeth yr archeolegwyr, mewn tro, bwysleisio’r gwahaniaethau rhwng Neanderthalaidd a phobl fodern.

Yr allwedd i’r fodel dyn cyntefig oedd y meddwl. Roedd y syniad o wahaniaethau deallus rhwng dynion gwyn a phawb arall yn poblogaidd o leia gyda ysgolorion pwy sydd dynion gywn. Tasai gwahaniaethau yn bod rhwng pobloedd fodern, wedyn mae’r gwahaniaethau yn gorfod bod mwy mawr rhwng dynion fodern a Neanderthalaidd. Ar ôl y darganfyddiad paentiadau ogof cynhanesiol, mae’r syniad yn tyfu oedd y gwahaniaeth meddwl symbolaidd. Roedd homo sapiens yn gallu meddwl haniaethol, pan dydy’r Neanderthalaidd ddim yn gallu. Wnaeth hyn yn esbonio pam wnaeth Homo sapiens goroesi a wnaeth y Neanderthalaidd ddim.

Dyw hyn ddim yn dystiolaeth gyntaf o feddwl symbolaidd gan Neanderthalaidd. Er enghraifft, yn 1957 roedd ysgerbwd Neanderthal yn cael ei ffeindio yn yr ogof Shanidar, Irac. Beth roedd yn ddiddorol doedd yr esgyrn yn unig, ond hefyd peilliau ar yr esgyrn. Sut wnaeth y peilliau yn cyrraedd ar yr esgyrn ? Medd Ralph Solecki, rheolwr o’r cloddiad, “Rhaid i rywun yn yr Oes Ia diwethaf grwydro’r ochr mynydd tra mewn tasg leddf o gasglu blodau i’r marw.

Doedd hyn ddim yn syniad poblogaidd gyda rhai o archeolegwyr. Syniad arall oedd Neanderthalaidd wedi symud y corff i ddwfn yn yr ogof, wedyn wnaethon nhw adael blodau pan y corff yn dechrau i ddrewi. Yn fwy diweddar, mae dau wyddonydd wedi beirniadu’r syniad, ac maen nhw wedi dweud bod y dyddodion peilliau wedi cael eu dwyn gan wenyn.

Roedd pethau eraill yn cael eu ffeindio, fel y ffliwtiau Neanderthal, ond pobl arall yn ddweud oedd hi’n gwneud gan hienaod. Roedd celf Neanderthal ar wal ogof yn cael ei ffeindio, ond ydy’r dyddiad yn gywir? Celfwaith o wyneb Neanderthal oedd ‘one-off’ felly doedd e ddim tystiolaeth ddibynadwy o feddwl haniaethol.

Dw i’n gweld bod y ogof Ffrengig yn cael ei esbonio fel lle Neanderthal nawr, ond bydd esboniad arall yn dod cyn bo hir. Mae man hwn yn creu llawer o broblemau i hanes traddodiadol am Neanderthalaidd a Homo sapiens.

Pan wnaeth Homo sapiens greu celf? Falle tua 150,000 i 100,000 mlynedd yn ôl, ond dim fel beth mae yn yr ogof Neanderthal. Felly, naill ai wnaeth y Neanderthalaidd golli eu celf neu gwnaeth rhywogaeth o fod dynol dadleoli’r bobl yn fwy deallus. Os mae hynny yn gywir, wedyn bydd hyn yn newid sut ddyn ni’n gweld ein hunain.

Hyn ydy pam mae’n mor anodd i astudio Neanderthalaidd. I ddeall sut dyn ni’n cymharu gyda Neanderthalaidd, nid oes dim ond angen i ni nabod Neanderthalaidd. Dyn ni angen i nabod ein hunain, hefyd.

Ymwelwch The Atlantic i ddarllen erthygl wych (yn Saesneg).

--

--