Meddyliau ar yr etholiad 2016

Alun Salt
Bywyd, y Byd a’r Bydysawd
1 min readMay 11, 2016

Wel, dw i’n hapus i weld gwnaiff Kirsty Williams yn dychwelyd i’r Senedd. Roedd yr ymgyrch UKIP lleol yn ddiddorol hefyd. Nid oedd un. Roedd un pamffled a dim byd arall. Roedd yr ymgeisydd yn fyfyriwr yn Lloegr sy’n dod o Benarth. Roedd e’n fel arbrawf rheolydd i weld yr effaith crai Nigel Farage a’r Daily Mail ar yr etholiad.

Does gen i ddim syndod bod Neil Hamilton wedi cipio’r paced cyflog mwyaf yn y blaid. Beth yw’r oes silff UKIP? Falle fel achwyniad gwastadol, ond bydden nhw’n fawr ar ôl y refferendwm? Os hyn yw’r pum mlynedd olaf i ddal y trên grefi, wedyn ydy Neil Hamilton yn gwneud ei ymddeoliad yn fwy cyfforddus gan lenwi ei esgidiau?

Rhywbeth diddorol i wylio bydd y rhwyg yn UKIP rhwng Farage a Hamilton. Dydy neb yn dweud wrth Christine Hamilton beth i wneud. Gall hyn yn creu toriad rhwng UKIP UK ac UKIP Wales? Mae rhywbeth yn gorfod digwydd ar ôl y refferendwm. Ydy toriad fel Veritas yn dod?

Yn olaf, gallwn ni’n gweld esblygiad yn UKIP o fewn Cymru. Roedd yr arweinydd NF (Nigel Farage), wedyn NG (Nathan Gill), nawr NH (Neil Hamilton) felly NF -> NG -> NH, ond pwy bydd NI?

Ydy’r arweinydd UKIP nesa yn Neil Innes?

--

--