Pa mor Americanaidd yw digon Americanaidd?

Alun Salt
Bywyd, y Byd a’r Bydysawd
3 min readJan 17, 2015

Llywodraethodd Gastanwydden America dros goedwigoedd Gogledd America. Sut bynnag, yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif, difododd malltod ymron pob coeden. Lladdwyd biliynau o goed a nawr tua mil ar ôl mewn clystyrau. Mae gwyddonwyr wedi dod o hyd amddiffyniadau posibl yn erbyn y malltod, ond bydd y naill a’r llall fodd yn newid beth yw Gastanwydden Americanaidd yn yr ail ganrif ar hugain.

Mae’n anodd bod yn siŵr faint o goed Castanwydd America, Castanea dentata, oedd yn Unol Daleithiau America cyn yr ugeinfed ganrif. Doedd dim angen eu cyfrif nhw tan eu bod marw mewn un swmp, ac erbyn hynny roedd e’n rhy hwyr. Y ffwng Cryphonectria parasitica oedd y lladdwr.

Cyrhaeddodd C. parasitica yn fuan ar ôl 1900. Mae’r ffwng yn hoffi treiddio trwy archollion mewn coeden ac yn tyfu dan y rhisgl. Mae e’n datblygu i fod yn gancr rownd y coesyn. Tra mae e’n tyfu, mae e’n gollwng asid ocsalig sy’n lladd celloedd planhigyn. Pan fydd y cancr yn amgylchynu’r coesyn wedyn dyw maetholion ddim yn gallu pasio trwy’r coesyn. Mae popeth uwchben y ffwng yn marw.

Credir bod y ffwng wedi cyrraedd gyda Chastanwydd Asia. Mae’r Castanwydd Asia wedi esblygu gyda’r malltod ers miliynau o flynedd, felly maen nhw’n llawer llai tueddol o ddioddef. Roedd gan Gastanwydd America bedwar deg mlynedd i ymaddasu. Nawr, mae wedi diflannu i bob pwrpas. Fel y mae, does ddim dyfodol ganddo. Felly, mae e’n gallu dychwelyd gyda pheth help. Mae rhai o enynnau gan Gastanwydd Asia sy’n rhoi ymwrthedd i’r malltod. Os byddai’r ychydig Gastanwydd Americana sydd ar ôl yn gallu epilio gyda Chastanwydd Asia, efallai y byddai ymwrthedd gan Gastanwydd America hefyd.

[caption id=”attachment_13038" align=”aligncenter” width=”1500"]

Castanwydd America

Ardal ymchwiliol. Llun gan Nicholas A. Tonelli / Flickr.[/caption]

Os dych chi’n croesfridio Castanwydden Asia a Chastanwydden America, wedyn mae rhywbeth hanner Asiaidd a hanner Americanaidd gyda chi. Os dych chi’n croesfridio honno gyda Chastanwydd America wedyn mae croesryw tri chwarter Americanaidd gyda chi. Ar hyn o bryd, unfed ran o un deg chwech Asiaidd a phymtheg o un deg chwech yw’r croesrywiau. Ydy hynny yn digon Americanaidd? Pwy all ddweud pa mor sut dda yw digon da?

Cyhoeddon Blythe et al. bapur yn Restoration Ecology yn diweddar: Selection, caching, and consumption of hardwood seeds by forest rodents: implications for restoration of American chestnut. Fel mae’r teitl yn awgrymu, Arbrofodd hi a’i thîm hi’r gyda coed croesryw, gan wylio sut mae cnofilod yn ymateb i’r cnau castan.

Cymharon nhw’r cnau croesryw, gyda chnau castan America a hadau y daethpwyd o hyd iddynt mewn coedwigoedd. Efallai bod y cnau croesryw yn argyhoeddi bodau dynol, ond roedd ffafriaeth i gnau castan American dros y cnau castan croesryw. Hefyd, ffeindion nhw wasgaron cnofilod cnau croesryw dros fwy o ardal na’r cnau Americanaidd. Bwytawyd cnau croesryw, ond dydyn nhw ddim yn amnewidyn union i’r cnau castan Americanaidd. Daeth Blythe et al. i’r casgliad fod y Gastanwydden Groesryw ddim yn gywerth yn ecolegol i’r Gastanwydden Americanaidd.

Ond nid croesrywiau yw’r unig obaith i’r goeden Gastanwydden America.

Peirianneg genetig yw’r ateb arall. Dyw’r goeden ddim yn gallu ymdopi gydag asid ocsalig. Os allai’r goeden gaffael y genynnau i ymdopi, wedyn gallai’r goeden fod bron yn gyfan gwbl fel yr oedd hi gynt. Mae gan wenith y genynnau. Os allen nhw gael eu glynu at y gastanwydden, dyw e ddim yn lladd y ffwng, ond bydde fe’n galluogi’r goeden i fyw gyda’r malltod. Mae Blythe et al. yn dweud y gallai coeden castanwydden GM fod yn fwy tebygol o fod yn gywerth yn ecolegol. Ond maen nhw’n rhybuddio, oherwydd rhesymau cymdeithasol, y gallai fod gwrthsafiad yn erbyn plannu castanwydd America GM yn lle coed croesryw.

Posibilrwydd arall yw nad oes un ateb, ond gallai croesrywiau a choed GM gael eu defnyddio mewn planhigfa gymysg.

Mae e’n codi’r cwestiwn sy’n dilyn llawer o gynigion gwrth-ddifodiant: Ar gyfer pwy mae adferiad ecolegol? Ydy e i adfer difrod a wnaed i ecosystem, neu ydy e mwy am sut mae bobl yn teimlo am yr ecosystem? Mae’r cnau croesryw yn wahanol, ond os yw gwaith gwrth-ddifodiant yn broses gymdeithasol, wedyn efallai y bydd y cyhoedd yn penderfynu bod cnau castan croesryw yn ddigon Americanaidd.

Blythe RM, Lichti NI, Smyser TJ, Swihart RK. 2015. Selection, caching, and consumption of hardwood seeds by forest rodents: implications for restoration of American chestnut. Restoration Ecology: n/a–n/a.
http://dx.doi.org/10.1111/rec.12204

--

--