Ydy e’n bosib bod Caerdydd yn gallu cynnal ras Formula E?

Alun Salt
Bywyd, y Byd a’r Bydysawd
2 min readMay 29, 2016
Gallai Dragon yn rasio yng Nghymru?

Na fydd yn ras Formula E, y bencampwriaeth ras drydanol hollol, yn Llundain blynedd nesa. Dw i’n cytuno bod rhai o resymau da i ddweud roedd Battersea Park yn ddewis drwg i ras. Mae’r trac yn rhy gul. Ond ydy’r ateb rhywle arall yn Llundain? Gallai Caerdydd yn cynnal digwyddiad yn ei lle?

Mae rasys angen lle fflat cymharol. Hefyd, mae Formula E eisiau lle gyda thirnodau gwahanredol. Tasai modd i gael nhw trwy Roald Dahl Plass, basai’r Bae Caerdydd yn bod lleoliad ardderchog. Dw i’n gallu gweld pryderon am ddifrod i’r lle, ond mae’r ras Paris yn rhedeg trwy’r Hôtel des Invalides, felly basai’n ymddangos bod hyn yn broblem ddatrysadwy.

Basai ras trydanol yn cymorth y polisïau o blaid wleidyddol i gyd. I Lafur, mae’r ras trydanol yn cymorth y diwydiant car trydanol fel Aston Martin. Mae Plaid Cymru wedi cyflwyno i gymorth cludiant trydanol trwy rywbeth fel ‘hydrogen highway’ i geir trydanol. Mae’r timau yn gwmnïau rhyngwladol felly bydd y Ceidwadwyr yn hapus. Hefyd, bydd llawer o gamerâu i Neil Hamilton i sefyll mewn ystum o flaen, felly bydd UKIP yn hapus.

Mae e’n beth arall i’r de-ddwyrain eto, ond bydd hi’n her fawr i dynnu ras i Gaerdydd. Dw i ddim yn credu bod ras o gwmpas Abertawe neu Gaernarfon yn bosib.

--

--