Ydy Vulcan Wir ydy hon?
Mae seryddwyr wedi dod o hyd planed yn y rhanbarth trigiadwy o gwmpas y seren Proxima Centauri. Proxima Centauri ydy’r seren agosaf i Gysawd yr Haul, tua phedwar blwyddyn golau i ffwrdd. Mae’r blaned yn cael ei galw Proxima b ar hyn o bryd.
Mae’r peth mwyaf pwysig am y blaned yn bod y tymheredd. Mae hi’n ddigon o wres i gael dŵr fel hylif ar ei wyneb, ond dydy hi ddim yn rhy boeth i droi’r dŵr i stêm. Ar y ddaear, mae gan bywyd duedd i fod ble mae dŵr. Felly mae hi’n bosib bod bywyd yn bod ar Proxima b.
Un pwynt dair gwaith maint y ddaear ydy Proxima b, felly dyn ni’n gwybod bod y blaned yn greigiog a ddim yn gawr nwy. Hefyd, cryndod yn y golau o’r seren yn dangos bod y blaned yn cymryd un deg un diwrnod i deithio o gwmpas ei seren. Mae hi’n yn gyflym iawn ac yn agos iawn. Mae’r blaned yn fwy clos i Proxima b na’r blaned Mercher i’r Haul.
Mae hi’n agos iawn, ond dydy hi ddim yn ffrio achos mae Proxima Centuri yn gorrach coch. Mae lliw coch yn golygu bod y tymheredd o’r seren yn isel. Felly, pan mae’r blaned yn agos i’r seren, dyna lai o boethder i gynhesu’r blaned. Sut bynnag, mae’r agosrwydd yn golygu gall pelydriad uwchfioled neu fflerau haul yn taro’r blaned.
Yr arweinydd tîm ydy Guillem Anglada-Escudé, o’r Queen Mary, Prifysgol Llundain. Dywedodd e fod y swydd nesa ydy chwilio am fywyd.
Darllenwch mwy yn y tudalen ESO.