Sut ddaeth Caerdydd i fod y ddinas gyntaf i gynnal Fringe ar gyfer Gŵyl Gerddoriaeth BBC Radio 6

Gavin Allen
C-Music
Published in
5 min readApr 1, 2022

Mae platfform yn cael ei roi i artistiaid newydd lleol i ddangos eu doniau ochr yn ochr â pherfformwyr rhyngwladol.

GEIRIAU: Craig Strachan / FIDEO: Tane Rogers-Eirug

Pan ddechreuodd trafodaethau ynghylch cyflwyno Gŵyl Gerddoriaeth BBC 6 yng Nghaerdydd, roedd yna ddisgwyl i’r digwyddiad adael ei ôl ar y ddinas.

Yn hytrach, bydd Caerdydd yn gadael ei hôl ar yr ŵyl.

Mae gan y brifddinas statws ‘Dinas Gerddoriaeth’ a daw hynny gydag uchelgais mawr. Felly, pan gafodd y syniad o’r ŵyl Fringe gyntaf ei godi, cymerodd y ddinas y cyfle â breichiau agored.

Heddiw, 29 digwyddiad ar draws 12 llwyfan gyda mwy na 150 o artistiaid Cymreig yn perfformio yw’r Fringe.

Dave Ball, sy’n gweithio gyda Chymru Greadigol, oedd un o’r bobl flaengar yn sicrhau bod Gŵyl Gerddoriaeth BBC 6 yn dod i Gaerdydd a chreu’r Fringe.

“Daeth y syniad ym mis Mehefin pan wnaethom ni gwrdd â thîm Gwyl Gerddoriaeth BBC 6 am y tro cyntaf,” meddai.

Dave Ball

“Roeddem ni’n awyddus i sicrhau bod sîn gerddoriaeth Gymreig ar lawr gwlad yn cael ei chynrychioli. Awgrymodd Cerddoriaeth BBC 6 ein bod yn cyflwyno gŵyl Fringe y bydden nhw’n ei chefnogi ond byddai’n cael ei threfnu gennym ni.”

Roedd hi’n syniad heriol ond yn gyfle rhy dda i’w golli. Aeth Ball ati i drefnu’r Fringe gyda llwyfannau lleol i greu rhestrau o berfformwyr ac amserlen.

“Mae beth ddaeth i fod hyd yn oed yn fwy na beth wnes i ddychmygu ond rydym ni’n falch iawn ohono,” meddai Ball, sydd yn ddrymiwr yn ei amser hamdden.

Roedd hi’n dasg enfawr. Dechreuodd Gŵyl Gerddoriath BBC 6 yn 2014 ym Manceinion, ac mae hi wedi ymweld â Newcastle, Bryste, Glasgow, Lerpŵl a Llundain (doedd dim gŵyl yn 2018 na 2021).

Dechreuodd y gwaith caib a rhaw ar gyfer y digwyddiad yn nhymor yr Hydref 2021 pan esboniodd Ball a Chyngor Caerdydd beth oedden nhw’n gobeithio ei gyflawni i dîm Cerddoriaeth BBC 6 yn Salford, Manceinion.

Y cysyniad oedd rhoi rhyddid i lwyfannau ar lawr gwlad yng Nghaerdydd drefnu eu sioeau eu hunain, i’r tîm yng Nghaerdydd ddarparu brandio Fringe ac gyflwyno’r cyfan oll ar dudalen wê gyda manylion tocynnau a hysbysebion.

Roedd hyn yn galluogi i syniadau a digwyddiadau eraill fod yn rhan o’r brif ŵyl, megis Immersed — gŵyl flynyddol sy’n cael ei chynnal gan Brifysgol De Cymru — sy’n gosod platfform i gerddoriaeth Gymreig a chodi arian i Teenage Cancer Trust.

“Fe wnaethom ni egluro i’r llwyfannau sut roeddem ni am i’r Fringe arddangos yr amrywiaeth eang o genres ac i fod yn llwyr gynrychioliadol o’r sîn gerddoriaeth Gymreig,” meddai.

“Dyma pryd wnaethom ni drafod digwyddiadau ychwanegol yn gyntaf, fel sgwrs ar newyddiaduraeth gerddoriaeth, Minty’s Gig Guide a’r cyfle i fyfyrwyr newyddiaduraeth gymryd rhan yn ysgrifennu am y digwyddiad.”

Roedd y tîm yng Nghaerdydd wedi gweithio’n agos â Phrifysgol De Cymru yn gosod Gŵyl Flynyddol Immersed yn yr un llinell amser â’r Fringe. Roedd Cymru Greadigol wedi gweithio gydag Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd (JOMEC) ar yr agweddau newyddiaduraeth. Roedd FOR Cardiff wedi gweithio gyda’r tîm oedd yn gyfrifol am Minty’s Gig Guide i ailwampio map cerddoriaeth poblogaidd y ddinas. Ar ben hyn oll oedd cymorth Cyngor Caerdydd a Cherddoriaeth BBC 6 eu hunain.

“Mae hi wedi golygu cydweithio a gweithio ar sawl peth ar yr un pryd, ond mae hi wedi bod yn wych gweld pawb yn dod at ei gilydd gyda chymaint o frwdfrydedd,” meddai Ball.

Ymysg yr artistiaid i elwa ar yr ŵyl oedd y band roc indie Basic State. Fe wnaethon nhw berfformio yn Tramshed ddydd Mawrth, Mawrth 29 fel rhan o arddangosfa Prifysgol De Cymru. Mae’r band wedi rhyddhau ambell EP hyd yma ac wedi perfformio slotiau cyn prif eitemau yn y ddinas a thu hwnt yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae grym y cyfle mae’r Fringe yn ei gynnig yn werthfawr iddyn nhw.

“Mewn gwirionedd, mae’n enfawr achos gallwn ni gael sylw o berfformio ein hoff ganeuon,” dywedodd y prif leisydd Harvey Sivell wrthym ni yn ystod sesiwn ymarfer cyn perfformiad y band.

“Mae’r BBC yn gwmni cenedlaethol a rhyngwladol. Gobeithio gall hyn roi hwb ychwanegol inni.”

Perfformiodd y band ei gig cyntaf yn The Moon, llwyfan ar stryd sydd wedi dod yn galon gerddoriaeth Caerdydd, Stryd Womanby.

Maen nhw’n hynod o gyffrous i weld artistiaid fel Johnny Marr a Pixies achos maen nhw’n dyst i’r hyn mae modd ei gyflawni yn yr hir-dymor o ganlyniad I’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan ddigwyddiadau fel y Fringe.

“Fe wnawn ni aros yng Nghaerdydd am o leiaf y blynyddoedd nesaf, ond gobeithio bydd digwyddiadau fel hyn yn caniatâu inni berfformio yng Nghanolbarth Lloegr, Manceinion neu Lerpŵl yn fwy aml,” meddai Bily Saffil, prif gitarydd y band.

Dywedodd y prif leisydd, Harvey fod y band yn gwybod beth sydd ei angen: “I allu bod mewn band a perffomio mewn cymaint o gigs â phosib neu golli ein clyw wrth ymdrechu.

“Ar ôl y cyfnod clo, mae digwyddiadau fel hyn yn golygu cymiant.”

Basic State

I Dave Ball, mae beth sydd gan Harvey i’w ddweud yn ddarlun o amcanion ehangach y Fringe.

Yn y pen draw, carwn i weld rai o artistiaid newydd anhygoel y Fringe yn ennill cyfleoedd i fynd â’u gyrfaoedd ymhellach o ganlyniad i’r sylw ychwanegol,” meddai.

Mae Ball yn gweld hyn fel mantais i lwyfannau’r ddinas, yn ogystal â’r artistiaid.

“Ry’m ni’n gobeithio bod hyn yn annog unrhyw un sydd ychydig yn ansicr am ddychwelyd i’r gigiau i fwynhau gwledd yn un o’n llwyfannau bach.

“Mae’r esgid wedi gwasgu arnyn nhw trwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd eu gweld nhw bron yn orlawn yn rhywbeth i’w groesawu.”

Am fwy o wybodaeth ar yr ŵ yl Frindge eleni, ewch draw i wefan Immersed neu Minty’s Gig Guide.

--

--

Gavin Allen
C-Music
Editor for

Digital Journalism lecturer at Cardiff University. Ex-Associate Editor of Mirror.co.uk and formerly of MailOnline, MSN UK and Wales Online.