Beth mae cyflwyno Gŵyl Gerddoriaeth BBC 6 yn ei olygu i Gaerdydd

Gavin Allen
C-Music
Published in
4 min readApr 1, 2022

Bydd yr ŵyl, sy’n cynnwys mawrion y diwydiant fel Johnny Marr, IDLES a Little Simz, yn cael ei chynnal ar lwyfannau Caerdydd ar y 1–3 Ebrill 2022.

GAN: SAM CROSS

Womanby Street

Mae Gŵyl Gerddoriaeth BBC 6 yn ymweld â Chaerdydd dros y penwythnos, gan ddod â llond y lle o enwogion cerddorol i’r ardal.

Mae’r digwyddiad, ynghyd â Gŵyl Fringe Cymru Greadigol, yn cyflwyno wythnos o sioeau a pherfformiadau ar hyd llwyfannau Caerdydd, sydd wedi’i chael hi’n anodd yn ystod y pandemig.

Dechreuodd Y Fringe yn The Moon ddydd Llun, gyda’r digwyddiad swyddogol BBC yn cychwyn ddydd Mercher Mawrth 30 yng Nghlwb Ifor Bach. Mae’r cyfuniad yma’n arddangos y gorau o’r hyn sydd gan Gaerdydd i’w gynnig, trwy roi llwyfan cenedlaethol i’w cherddorion a’i lleoliadau perfformio ochr yn ochr â rhai o’r artistiaid gorau yn y byd.

Mae cyflwyno’r digwyddiad yn dangos brwdfrydedd Caerdydd fel dinas gerddoriaeth. Yn 2019, cafodd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd ei greu i warchod a hybu treftadaeth gerddorol y ddinas. Gyda chymaint o lwyfannau bach poblogaidd ledled y wlad yn cau neu’n cael eu gorfodi i addasu dan amgylchiadau newydd, mae arddel mannau diwylliannol y ddinas yn hanfodol am ddyfodol y sîn gerddoriaeth.

I lwyfannau

Dywedodd Rob Toogood, perchennog clwb nos a llwyfan Fuel, “Ry’n ni’n hapus iawn i fod yn rhan o’r ŵyl. Mae’n dda cael bod yn rhan o ddigwyddiad sy’n denu sylw cenedlaethol i’r hyn sydd gan sîn gerddoriaeth Caerdydd i’w gynnig.”

Yn yr hir-dymor, mae Rob yn gobeithio bydd yr ŵyl yn gallu denu pobl at leoliadau a llwyfannau fydden nhw ddim yn aml yn ymweld â nhw.

“Gobeithio bydd yr ŵyl yn taflu golau ar rannau poblogaidd y sîn gerddoriaeth leol sy’n cael llai o sylw,” meddai.

“Mae’r ffaith bod y Manics yn perfformio yng Nghlwb yn anhygoel, ac fe fyddai’n wych gweld hynny’n digwydd yn fwy aml; bandiau lleol enwog yn perfformio ar lwyfannau bach.”

Mae’r Fringe yn cynnig y cyfle perffaith am lechen lân i un lleoliad, gan ddod â rhywbeth newydd i fywyd cerddorol Caerdydd gyda’r nos. Mae Carpe Noctem yn agor ar Stryd Charles ddydd Gwener 1 Ebrill, ac yn cyflwyno ‘Bitch, please!’ fel ei ddigwyddiad cyntaf. Wedi’i lleoli yn hen gartref bar sioe Minksy, bydd Carpe Noctem yn gartref newydd i gerddoriaeth electronig annibynnol yn y brifddinas.

I gefnogwyr

Bill Cummings

Nid busnesau yn unig sy’n elwa. Mae’r sîn gerddoriaeth yng Nghaerdydd ond yn oherwydd cefnogwyr brwd y gigiau sy’n cael eu llwyfannu yn y ddinas.

Mae Bill Cummings, golygydd y cylchgrawn ar-lein newydd ‘God Is In The TV’ yn dweud bod yr ŵyl yn arddangos popeth sy’n mynd ymlaen yng Nghaerdydd.

“Dwi’n credu bod y Fringe wedi’i hysbrydoli,” meddai Cummings.

“Mae hi’n uno gwahanol grwpiau cymunedol. Mae’r digwyddiadau mawr yn wych ac yn denu sylw, ond beth sy’n digwydd pan maen nhw’n gadael? Dyna pam mae’r Fringe yn ardderchog. Mae hi fel pelen eira.

“Mae croesawu mawrion y diwydiant i lwyfannau bach poblogaidd — y Manics yng Nghlwb — fel rhoi rhywbeth yn ôl. Mae hyn yn helpu’r llwyfannau, achos maen nhw wedi’i chael hi’n anodd am ddwy flynedd o ganlyniad i Covid. Mae hi wedi bod yn anodd i lawer o lwyfannau ail-ddechrau. Mae hi wedi bod yn heriol.

“Ond mae cerddoriaeth Gymreig ar gynnydd unwaith eto. Mae yna lawer o dalent newydd yn y genres gwahanol yng Nghaerdydd. Fe wnewch chi glywed y term Cool Cymru 2.0 ond dydw i ddim yn hoffi’r disgrifiad yna. Dwi’n meddwl amdani fel ton newydd Cymreig. Mae yna gymaint o bethau gwych yn digwydd yma.”

I artistiaid

I’r cantorion a cherddorion sydd yn barod yn weithgar yn sîn gerddoriaeth Caerdydd, mae’r ŵyl yn cynnig cyfle i arddangos eu doniau o flaen cynulleidfaoedd newydd.

Dywedodd Foxxglove, fydd yn perfformio yn Tiny Rebel ddydd Gwener 1 Ebrill, “Dwi’n meddwl bydd hi’n enfawr i sîn gerddoriaeth Caerdydd ac fe fydd hi’n arddangos y ddawn sydd yma. Mae yna amrywiaeth eang o dalent ar draws yr holl genres a chefndiroedd. Mae hi’n ysbrydoledig iawn i’w gweld.”

Dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl ddod i Gymru, sy’n golygu bydd yna blatfform i artistiaid sy’n perfformio yn y Gymraeg hefyd. Mae Foxxglove yn teimlo bod hyn yn bwysig.

“Dwi’n credu ei bod hi’n anhygoel faint o artistiaid Cymreig/Cymraeg fydd yn perfformio wrth arwain at yr ŵyl,” meddai.

“Mae hi’n lush gweld Caerdydd yn cael y gydnabyddiaeth mae’n ei haeddu.”

Wrth i ddwy flynedd o gigiau’n cael eu canslo a’u gohirio ddod i ben — cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod holl gyfyngiadau Covid wedi gorffen yng Nghymru ddydd Llun Mawrth 28 — mae’n deg dweud bod y ddinas yn awchu i ddychwelyd i’w gorffennol bywiog cyn-Covid, trwy chwysu mewn ystafelloedd bach a neuaddau mawr gyda’n gilydd.

“Mae’n arbennig gweld y sîn gerddoriaeth fyw yn ôl ar ei gorau, bydd hi’n wych,” meddai Foxxglove.

--

--

Gavin Allen
C-Music
Editor for

Digital Journalism lecturer at Cardiff University. Ex-Associate Editor of Mirror.co.uk and formerly of MailOnline, MSN UK and Wales Online.