Gallwn ni alluogi rheoleiddio sy'n wybodus i drawma?
Roedd lot o fy ngwaith ar ddiwedd y flwyddyn yn ffocysu ar ein Fforwm Arweinwyr. Cynhaliom sesiynau ar drawma a rheoleiddio fel rhan o’r gwaith, ac mae gwybodaeth o’r ddau wedi dechrau cyfuno yn fy meddwl. Crisialwyd y wybodaeth hynny wrth imi wrando ar Andy Brogan yn siarad am archwilio cynhyrchiol fel rhan o gymuned ymarfer y Ganolfan Effaith Gyhoeddus ac Easier Inc. ar reoleiddio.
Gweithiais ym maes archwilio am ychydig o flynyddoedd gyda phobl wych. Fe wnes i weithio gyda thimau a ddatgelodd dysgu cyfoethog iawn, yn ogystal ag amlygu materion a oedd yn sicr er fudd y cyhoedd.
Rydym yn gwybod bod gwaith archwilwyr yn hynod o ddefnyddiol. Fel y soniodd Andy, mae eu persbectif yn ein galluogi i roi ychydig o oleuni ar fannau tywyll. Os ydym yn cyfuno’r wybodaeth hynny gyda barn pobl sy’n cyrchu gwasanaethau, mae gennym bersbectif cyfoethog iawn o sut mae gwasanaethau yn gweithio. Mae’n werth darllen ymchwil hynod ddiddorol Dawn Goodwin ar Ddisgrifio Methiannau Gofal Iechyd: Astudiaeth yng Ngwybodaeth gymdeithaseg (HT Complex Wales):
“Bu dadl ers amser maith ynghylch rhinweddau safbwyntiau mewnol ac allanol. Mae gan y tu allan y fantais o bellter critigol, heb gymryd dim yn ganiataol, a gwrthsefyll rhagdybiaethau."
Symud i ffwrdd o gywilydd a barn
Dysgais gymaint o’r maes archwilio, ac rwy'n dal i fyfyrio dros hynny ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae fy ngwaith cyfredol yn fy helpu i i fyfyrio dros bwysigrwydd y cysylltiad dynol rhwng yr archwilydd a'r corff archwiliedig a rôl a phwrpas cyfathrebu.
Os sgroliwch trwy gyfrif Twitter corff archwilio, bydd e ddim yn rhy hir nes i chi weld negeseuon sy’n rhannu barn am fethiant mudiad. Mae’n werth myfyrio dros brofiadau’r bobl a wnaeth y gwaith hynny. Dydw i byth wedi dod ar draws unrhyw un a wnaeth gamgymeriadau yn bwrpasol. Os ydym yn cael cipolwg ar Sbectrwm Methiant Amy C. Edmondson, dyw cywilyddio ddim o fudd i ddysgu. Mae yna ddysgu cyfoethog o fewn y gwaith hynny sy’n cael ei golli. Does gan archwilwyr eu hunain dim rheolaeth dros gyfathrebu. Mae’r gwaith yma’n cael ei yrru gan amlaf gan fetrig yn lle gwelliant gwasanaethau. Dyma fwy o wybodaeth ar pam mae targedau’n gwaethygu pethau.
Siaradodd Andy am sut y gall y pellter rhwng archwilwyr a ble mae gwaith yn digwydd golygu bod archwilio yn teimlo fel cadw sgôr, achos dyw’r dyfarniad ddim wedi cael ei gyd-ddylunio neu ei gyd-gynhyrchu. Mae’r gwasanaeth yn cael ei farnu. A phan feddyliwn am y ffaith bod proffesiwn yn rhan o hunaniaeth rhywun (os ydym yn gofyn i rywun beth maen nhw’n wneud, maen nhw’n siarad am ei swydd), does dim rhyfedd bod nhw’n teimlo cywilydd am ddyfarniadau gwael.
Dod â lens sy'n seiliedig ar drawma i reoleiddio
Yn ein Fforwm Arweinwyr ar drawma, siaradodd Dr. Lisa Cherry am sut mae gan iaith y pŵer i sbarduno stigma. Dyma ble rwy'n credu y gall dull rheoleiddio sy'n wybodus i drawma fod yn ddefnyddiol. Yn y broses bresennol mae dysgu defnyddiol yn cael ei weld fel bai. Yn bersonol, rydw i wedi colli cyfleoedd dysgu oherwydd meddylfryd amddiffynnol i warchod fy hun.
Fe wnaeth Danny Taggart trafod sut allwn symud o ofyn cwestiynau o safbwynt “beth sy’n bod gyda chi?” i “beth ddigwyddodd i chi?” o fewn gweminar wych ar fod yn wybodus i drawma. Rwy’n meddwl bod angen i ni symud o le o fai fel bod ymarferwyr mewn sefyllfa gwell i roi dysgu o archwilio ar waith. Mae Model Cyflyrau Ego yn ddefnyddiol yma. Mae yna berthynas anghytbwys o fewn y system bresennol gan fod archwilwyr yn cael eu gweld fel rhieni sy’n rheoli, ac mae’r cyrff archwiliedig naill ai’n gwrthryfela neu’n cydymffurfio yn ddiamau. Nid yw’r rhain yn berthnasoedd iach. Mae rhaid gweithio i gael perthynas oedolyn i oedolyn sy’n cynnig her a chefnogaeth.
Siaradodd Andy am sut y gall archwilio yrru ymarfer i gyfeiriad gwahanol os nad yw’n adlewyrchu’r hyn y mae gwasanaethau yn anelu i wneud. Mae’n fy nharo bod y sefyllfa bresennol yn adlewyrchu sut y gall gwasanaethau cymryd pŵer i ffwrdd o bobl. Yn ei dro, dyw archwilwyr ddim mor ddylanwadol ag y gallan fod gan fod nhw’n gweithio fel bod nhw’n gweithredu y tu allan i’r system. Roedd e’n grêt i glywed Andy yn siarad am archwilwyr fel asiantau newid sy’n sbarduno gwelliant. Mae yna her yma gan na all archwilio ddylanwadu ar bolisi, ond mae Cyfnewidfa Arfer Da Archwilio Cymru yn gwneud gwaith defnyddiol gan fod nhw’n rhannu arfer effeithiol heb gymeradwyo dulliau.
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn sut y gall archwilwyr fod yn hwyluswyr dysgu, a sut y gall dysgu o ganfyddiadau archwilio lywio gwasanaethau cyhoeddus. Rydw i wedi gweld lot o ddysgu defnyddiol yn cael ei droi’n blychau ticio, yn lle nodau dysgu o fewn amgylchedd cymhleth. I mi, mae dull archwilio sy’n wybodus i drawma yn lle gwell i gyrraedd, ac mae’n rhaid i ni gysidro sut mae hyn yn edrych ar draws y system os ydym am i ddysgu o archwilio dylanwadu a gwella gwasanaethau.