Adeiladu ar gryfderau trwy Ymchwiliad Gwerthfawrogol

“Po fwyaf rydych chi’n gwybod am yr hyn sy’n mynd yn anghywir ym mywyd unigolyn, y fwyaf rydych chi’n arbenigwr mewn methiant” (O’Connell, 2005)

Sut ydyn ni’n fframio methiant? Ydy methiant yn dystiolaeth bod rhywun wedi creu llanast neu fod rhywun yn dysgu o’i gamgymeriadau?

Yn aml mae fe lot yn haws i ganolbwyntio ar yr ochr negatif o bethau. Drwy wneud problem yn glir ac yn weladwy i bawb, rydyn ni wedi nodi’r broblem ac mae gennym fan cychwyn clir ar gyfer delio ag e.

Fe wnes i fynd ar gwrs Research in Practice ar Ymchwiliad Gwerthfawrogol yn ddiweddar. Roedd gen i ddiddordeb achos mae fe’n dechneg rydw i wedi defnyddio o fewn ymgysylltiad cyhoeddus. Mae fe hefyd yn cyd-fynd yn dda â rhywfaint o’r gwaith a wnaethom o fewn Good Practice WAO ar fethiant.

Trwy ganolbwyntio ar bethau gwael rydyn ni’n dechrau â rhagdybiaeth. Rydym yn tybio bod y person ni’n gweithio gyda yn cael ei ysgogi trwy osgoi methiant yn hytrach na sicrhau llwyddiant.

Drwy ddechrau gyda meddylfryd sy’n seiliedig ar ddiffygion, dydyn ni ddim yn rhoi lot i’n hunain i weithio gyda. Mae nodi problemau’n golygu ein bod ni’n dechrau o’r dechrau, ond mae gweithio gyda chryfderau’n golygu y gallwn adeiladu ar dystiolaeth o lwyddiant sydd gyda ni yn barod. Gall hyn ein helpu ni i weld beth mae ‘da’ yn edrych fel. Er enghraifft, pam mae rhai pobl yn gallu llwyddo i orffen eu gwaith pan maen nhw’n delio gyda llwyth o achosion, ond dyw pobl eraill ddim?

Defnyddio ymchwiliad gwerthfawrogol i ddylunio gwasanaethau

Y feirniadaeth fwyaf cyffredin rydw i wedi clywed ynghylch dulliau sy’n seiliedig ar gryfderau neu asedau yw bod nhw’n hawdd i’w ddefnyddio mewn amgylchiadau da ond nid mewn rhai gwael. Fe wnaeth ein hyfforddwr Ted Daskiewicz ein helpu ni i ystyried sut allwn ni rhoi’r rhain ar waith trwy ddefnyddio ychydig o enghreifftiau heriol iawn.

Roeddwn i’n hoff iawn o Fodel 5D Ymchwiliad Gwerthfawrogol. Mae’n ddiddorol gweld sut y gallai hyn gweithio ar y cyd gyda methodoleg dylunio, achos maen nhw’n rhannu elfennau yn yr adrannau darganfod a dylunio. Mae gen i ddiddordeb penodol yn yr elfennau yma yn arbennig o ystyried y derminoleg sy’n seiliedig ar ddiffygion trwy ‘anghenion defnyddwyr’.

Model 5D Ymchwiliad Gwerthfawrogol: Diffinio — Darganfod — Breuddwydio — Dylunio — Darparu

Er fy mod i wedi defnyddio Ymchwiliad Gwerthfawrogol mewn gweithdy a gyda grwpiau bach, mae gyda fi ddiddordeb mawr mewn sut y gellir defnyddio’r dull ar lefel strategol i ddylunio gwasanaethau sy’n gweithio gyda phobl. Dyma’r sgiliau meddal sy’n amlygu pwy yr ydyn ni, ac mae John Wade wedi arddangos hyn yn hyfryd yn un o’i flogbostau. Mae John yn defnyddio’r dyfyniad yma gan Robert Rosenthal:

“It’s not magic, it’s not mental telepathy,” Rosenthal says. “It’s…these thousands of different ways of treating people in small ways every day’ that makes the difference.”

Mae rhaid i ni feddwl am sut rydyn ni’n defnyddio’r ymagwedd er mwyn canolbwyntio ar pan fydd pobl yn gwneud yn dda, nid yn wael. Er enghraifft, efallai y byddwn yn canolbwyntio ar pan mae plentyn yn gallu rheoli eu tymer a dysgu ohonynt sut wnaethon nhw wneud hyn, yn hytrach na phryd doedden nhw ddim.

Mae’n rhaid i ni fod yn ofalus wrth i ni ddefnyddio dull fel hyn, jyst fel gydag unrhyw ymagweddau sydd wedi cael ei seilio ar gryfderau. Mae’r blogbost gwadd yma ar flog Jessica Eaton yn gyfrif anhygoel ar sut all ymagwedd sydd wedi’i seilio ar gryfderau effeithio ar rywun sydd wedi cael ei dreisio.

“How important is the label of ‘survivor’? What about ‘victim’? What about the narrative that ‘what doesn’t kill you makes you stronger’? What about the message women are given, that being raped or abused somehow makes them a better person in the long run, having lived through and ‘survived’ such traumas?”

Pan mae pobl sy’n agored i niwed eisiau cael cymorth, y tueddiad sydd gennym fel gwasanaethau cyhoeddus yw meddwl bod gennym yr atebion i gyd. Mae’r meddylfryd yma yn golygu mai’r ateb i broblemau pawb yw mwy a mwy o wasanaethau, ac mae’r blogbost wych yma gan Paul Taylor ar broffesiynoldeb yn amlinelliad arbennig o hyn.

“If we continue to behave as a professionalised class — organising ourselves into deeper sector silos, talking to each other and forming policy on behalf of other people — we’ll bring about our own demise.”

Yn fy mhrofiad i, dyw pobl ddim eisiau mwy o wasanaethau, ond y gwasanaeth cywir.

Yr ymholiad yw’r ymyriad — mae’r ffordd rydyn ni’n rhyngweithio â phobl yn dangos pa fath o sefydliadau a phobl ydyn ni. Rhagwelodd Marshall McLuhan oes cyfryngau cymdeithasol gyda’i ddywediad mai ‘Y cyfrwng yw’r neges.’ Mae’n werth gwrando ar y bodlediad yma gyda Douglas Coupland am drosolwg da o hyn.

Ni yw’r hyn a wnawn.