Agor gwasanaethau cyhoeddus i fyny

Rwy’n caru fy mod i’n gallu wirfoddoli a helpu i gynnal cyrsiau hyfforddi gofal cymdeithasol fel rhan o’m swydd.

Roedd ein cwrs ni ar weithio gyda rhieni sydd ag anableddau dysgu yn hynod o ddiddorol. Roedd yna gymaint o bethau diddorol ynddi y gallai gwasanaethau cyhoeddus dysgu (gofal cymdeithasol neu beidio). Er enghraifft, sut allwn ni agor ein gwasanaethau i fyny fel bod pobl yn gallu deall beth ni’n gwneud? A sut allwn ni cefnogi pobl i fyw y bywydau gorau posibl?

“Mae deddfwriaeth yn gleddyf a tharian”

Clywais hyn yn y drafodaeth cyntaf cynigiais yn GovCamp Cymru ar newid ymddygiad a gwasanaethau cyhoeddus. Gellir defnyddio deddfwriaeth i’n amddiffyn ni o bobl sy’n gweithredu fel gwrthgyrff i newid (rydw i wedi dwyn y cyfatebiaeth yma o flogbost wych gan Chris Bolton) ac fel ffordd o ymladd dros newid.

Rhannodd Dr Danielle Turney a Beth Tarleton deddfwriaeth amrywiol sy’n gallu helpu pobl i wneud yr achos dros newid, gan gynnwys Confensiwn y Genhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Roeddwn i’n hoffi sut roeddwn nhw’n argymell defnyddio’r Ddeddf Cydraddoldeb i gefnogi addasiadau priodol fel bod pawb yn gallu cymryd rhan, yn hytrach na darparu’r un gefnogaeth safonol i bawb.

Crynodeb o sut allwn ddefnyddio’r Ddeddf Cydraddoldeb

Rhoi pobl mewn blychau

Un o’r materion a glywsom amdano oedd ynglyn a sut rydyn ni’n diffinio anawsterau dysgu. Mae’n derm ymbarél sy’n cyffredinoli amodau ac sy’n cwmpasu bobl amrywiol, o bobl sydd â Syndrom Down i Ddyslecsia. Dyw un term ddim yn gallu disgrifio’r holl ffyrdd y mai pobl yn profi’r byd, ac nid yw’n ddigon hyblyg os ydym am ddarparu gwasanaethau sydd wedi’u teilwra i beth mae pobl eisiau.

Mae ein bywydau ni’n gymhleth, ac mae anghenion rhieni a phlant yn unigryw. Mae angen gwasanaeth gwahanol iawn arno rhieni pan maen nhw’n bwydo babi i bryd fydd y plentyn bach hynny yn honni eu hannibyniaeth. Eto, mae’r label o anhawster dysgu yn tueddu i olygu bod pobl yn cael yr un gwasanaeth safonol, does dim ots am yr amgylchiadau ehangach. Mae pethau’n cael ei gymhlethu bellach gan fod pobl sydd ag anawsterau dysgu yn debygol o gael cyswllt gyda tua 20 o weithwyr cymdeithasol gwahanol. Mae pob un o’r gweithwyr yma yn debyg o gael persbectif gwahanol o beth yw gwasnaeth ‘da’ achos mae staff, jyst fel y pobl sy’n defnyddio gwasanaethau, yn bobl cymhleth.

Atal

Mae Paul Taylor wedi ysgrifennu blogbost wych ar atal a galw. Mae ein system wedi’i chynllunio i fod yn adweithiol ac yn anodd i’w gyrchu. Mae’n rhaid i bobl gyrraedd pwynt argyfwng cyn all gwasanaethau helpu nhw, a dyma’r adeg pan mae angen y gefnogaeth fwyaf dwys (a drud) arnynt. Mae fe hefyd yn ymgorffori diffyg ymddiriedaeth yn y berthynas rhwng pobl a’r gwasanaeth gan ei fod yn cadarnhau eu hofnau gwaethaf pan mae gwasanaethau cymdeithasol yn cysylltu â nhw pan mae pethau’n mynd o chwith.

Ond beth fyddai’n digwydd os fyddai gwasanaethau cyhoeddus yn symud i fodel gwahanol? Yn rhy aml mae sefydliadau’n defnyddio’r model meddygol o anabledd. Maen nhw’n gweld pobl fel broblemau sydd i’w datrys. Beth os defnyddiwn y fodel cymdeithasol yn lle, ble gwelir mai’r amgylchedd sy’n achosi bobl i fod yn ddi-rym? Pa fath o gymorth all ein sefydliadau gynnig fel nodau mewn rhwydweithiau cymunedol yn hytrach na chyflenwyr o wasanaethau gorchymyn a rheoli?

Gweithio gyda’n gilydd

Doedd e ddim yn syrpreis bod yr arfer da yn y maes yn cymryd lle ble mae gwasanaethau oedolion a phlant yn cydweithio gyda’i gilydd. Mae’r Suffolk Accord yn ymagwedd teulu gyfan. Pan siaradom am gydweithio cadarnhaol, roedd e’n amlwg bod hyn yn meddwl mwy na jyst gweithio ochr yn ochr — roedd e’n olygu cyd-ddealltwriaeth rhwng gwasanaethau fel bod gweithwyr cymdeithasol oedolion yn gwybod ac yn deall arweiniad amddiffyn plant a’i oblygiadau. Roedd yn wych clywed sut mae rhai gwasanaethau wedi adeiladu dealltwriaeth ar y cyd â phobl trwy nodi a mynychu cyrsiau defnyddiol gyda nhw.

Clywsom y dylai cyfarfodydd fod yn fyr a chynnwys seibiant. Clywsom y dylai nhw canolbwyntio ar y rhiant, a dylai adroddiadau cael eu rhannu o flaen llaw. Ysgogodd hwn i mi feddwl pam byddwn ni’n strwythuro cyfarfodydd mewn unrhyw ffordd arall? Fe wnaeth gwrth-achos fusnes Neil Tamplin helpu mi i ddeall pam roedd e’n gymaint o broblem, achos mae’r gwrthwyneb yn golygu bod cyfarfodydd yn rhy hir, heb seibiant, yn canolbwyntio ar anghenion y sefydliad ac mae gwybodaeth yn cael ei chadw o’r bobl y mae fe amdano.

Mae rhaid inni fod yn well fel gwasanaethau cyhoeddus. Rydw i wedi dyfynnu Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig sawl gwaith dros y flynyddoedd diwethaf — mae rhaid i wasanaethau cyhoeddus fod yn hygyrch i’r bobl sy’n defnyddio nhw. Dyw e ddim andano gwneud pethau’n gor-hawdd, mae fe amdano agor gwasanaethau i fyny.