Dyfrig Williams
Apr 4, 2018 · 5 min read
Caru hwn — tabl arbennig yn y llyfr ar beth i anelu am

“Running services from an economy of scale perspective ensures that there is little useful knowledge about how the system works.”

Os ydych chi wedi gweithio yn y sector cyhoeddus neu wirfoddol, rwy’n siŵr bod rhywun wedi’i ddweud i chi fod yna siwd gymaint y gall ein sectorau ddysgu o’r sector preifat. Mewn rhai ffyrdd, mae hynny’n wir. Ond does neb wedi meddwl am y cyd-destun ble trosglwyddir yr ymarfer y rhan fwyaf o’r amser. Achos os mae’r sector preifat yn gymaint yn well na ni, beth yn union ddigwyddodd i Carillion a Capita?

Rydw i wedi bod yn darllen ‘Responsibility and Public Services’ gan Richard Davis i geisio cael dealltwriaeth well o sut mae Meddwl ar Ffurf Systemau a’r Dull Toyota yn gallu cael ei roi ar waith y tu allan i weithgynhyrchu.

Cafodd Taylorism ei ddatblygu yn y 19eg ganrif. Serch hyn, rydyn ni dal yn defnyddio’r meddylfryd yma ac yn ei roi ar waith wrth i ni ddarparu gwasanaethau. Mae’n ymgorffori hierarchaeth a biwrocratiaeth yn ein gwaith ac mae’n tybio mai’r rheng flaen yw’r lle y gellir gwneud yr arbedion mwyaf, er ein bod ni’n gwybod mai’r ardal yma o’n gwaith yw’r rhan y mae pobl yn ei werthfawrogi fwyaf. Dwi byth wedi siarad ag unrhyw un sy’n cyrchu gwasanaethau sydd eisiau gwario mwy ar reolwyr.

Rhwydweithiau a gwybodaeth

“For me this is the recurring theme — networks and relationships. Build and strengthen these and communities will tell you what they need, especially as they will have such a trusting relationship with their municipal and public agencies.”

Un o’r pethau rwy’n hoffi fwyaf am y llyfr yw sut mae Davis yn ffocysu ar ble mae gwybodaeth yn eistedd. Falle dyw hynny ddim yn syndod wrth feddwl fy mod i’n rhywun sy’n blogio amdano beth maen nhw’n dysgu. Ond mae’r ffaith bod y wybodaeth yn deillio o bobl sy’n cyrchu gwasanaethau yn golygu nad yw pobl yn cael eu gweld fel derbynwyr goddefol o wasanaethau, ac nid yw’r ddarpariaeth o wasanaethau yn ddiwedd ynddo’i hun.

Mae gan hyn ddau oblygiad. Yn gyntaf, dydyn ni ddim yn manteisio ar y wybodaeth sydd gennym ar sut mae pobl yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus. Ac yn ail, nid ydym yn gweld pobl fel arbenigwyr o’u sefyllfaoedd eu hunain ac nid ydym yn manteisio ar y wybodaeth honno.

Mae’n rhaid i ni fanteisio ar rhai o’r sgiliau meddal rydym yn anwybyddu fel arafer os ydym am feithrin perthynas gwell gyda’r gymuned. Mae Paul Taylor wedi ysgrifennu blogbost wych ar pam mae rhaid i arweinwyr bod yn ffynonellau gwybodaeth dibynadwy.

Rwy’n caru hwn gan Davis:

“The message is clear. Help people learn how to take control of their own lives, their networks and communities and then develop a pull system that responds to responsible needs. It is very affordable and you know the money is well spent — targeted at things that are going to work — by design.”

Rydw i hefyd wedi dysgu siwd gymaint o’r Athro Roz Searle amdano sut mae lefelau ymddiriedaeth yn gwrthgyferbynnu gyda lefelau o hierarchaeth. Os ydym yn cysylltu canfyddiadau ei hymchwil i theori Max Weber o fiwrocratiaeth, mae’n amlwg bod y ffordd rydyn ni’n strwythuro ein sefydliadau er mwyn ddarparu gwasanaethau yn creu bwlch rhwng gwneuthurwyr penderfyniadau a chymunedau:

  1. Adrannau o lafur sydd wedi’i ddiffinio’n glir
  2. Swyddfeydd sydd wedi’i strwythuro’n hierarchaidd
  3. Canllawiau ysgrifenedig sy’n gosod meini prawf ar gyfer perfformiad
  4. Recriwtio i swyddfeydd yn seiliedig ar arbenigedd
  5. Swydd-ddaliad fel gyrfa neu alwedigaeth
  6. Mae dyletswyddau ac awdurdod ynghlwm i swyddi yn lle pobl

Sut allwn ni wneud defnydd gwell o’r wybodaeth yma?

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn sut y gall gwasanaethau cyhoeddus wneud gwell defnydd o’r data sydd gennym. Mae’n werth cael cipolwg ar flogbost Ben Proctor ar aeddfedrwydd data (neu beth mae fe’n galw’r ysgol anhygoel o ddata) os ydym eisiau cael dealltwriaeth well o beth all defnydd da o ddata edrych fel. Mae’n allweddol fod y data yma yn cyd-fynd a phwrpas neu ni fydd y data yma yn wirioneddol ddefnyddiol. Mae hyn yn golygu symud i ffwrdd o beth rydym yn debygol o wneud ar hyn o bryd, sef defnyddio data sy’n hawdd i’w gael yn hytrach na data sy’n wirioneddol ddefnyddiol.

Mae’n ddiddorol iawn gweld sut y mae Anne Milgram wedi defnyddio’r egwyddorion y tu ôl i Moneyball i ddiwygio cyfiawnder troseddol yn New Jersey. Mae’n werth gwrando ar ei chyfweliad ar TED Radio Hour ble mae hi’n mynd i’r afael â phroblemau rhagfarn o fewn y data, achos os mae eich data yn broblematig, mae’n debyg fydd eich casgliadau yn cael eu heffeithio hefyd.

Fel rhywun sydd wedi gweithio ym maes ymgysylltiad cyhoeddus, mae hefyd gen i ddiddordeb mewn sut y gall sefydliadau wneud defnydd gwell o ddata ansoddol. Mae data ansoddol yn rhy aml yn cael ei ddefnyddio i gyfiawnhau penderfyniadau ar draws y gwasanaeth, ond beth am ei ddefnyddio i ddangos cymhlethdod y systemau ni’n gweithio mewn a sut mae angen teilwra ein gwasanaethau i gyd-fynd ag anghenion pobl?

“In the service sector, the notion of standardised units is always problematic. It implies that all customers are the same and the same response will meet all needs. It takes little thought to realise how stupid that is. People do not always have simple needs that can be resolved by a simple transaction.”

Mae Research in Practice a Research in Practice for Adults yn edrych ar ein cynnig digidol i’n haelodau. Rydym yn adeiladu personas i’n helpu ni yn y gwaith yma, ac mae gen i ddiddordeb mawr i weld beth mae’r rhain yn datgelu am natur ein gwaith. Rydw i wedi defnyddio personas o’r blaen wrth i ni gasglu data yn Swyddfa Archwilio Cymru, ond mae hyn ar raddfa fwy. Rwy’n hoffi sut mae Bromford Lab wedi mynd ati i ddatblygu ei personas nhw, ac mae’n amlwg bod rhaid i chi seilio’r rhain ar bobl go iawn er mwyn amlygu’r problemau sydd y tu hwnt i’ch gweledigaeth. Os ydyn ni’n seilio nhw ar ein syniadau ni o broblemau, yna ni allwn ni cyrchu’r ddysgu gwirioneddol ddefnyddiol sy’n deillio o herio’ch canfyddiadau. Fel mae Davis yn dweud:

“Don’t try and fix anything to start with, just go and learn. Take some typical citizens in your system who probably need help and learn what has happened to them over time. Build some case histories and see what is and is not typical of your system.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am y llyfr ond rydych chi’n fyr o amser, mae’r sleidiau yma a rhannwyd gan Andrew O’Hara yn hynod o ddefnyddiol. Mae ei gydweithiwr Jim Mather wedi rhoi’r rhain at ei gilydd, ac maen nhw’n help mawr os ydych am fynd ati i geisio deall y materion y mae Davis yn eu cyfeirio ato.

Mae’n rhaid i ni fod yn lot fwy chwilfrydig fel gwasanaethau cyhoeddus ac i ofyn cwestiynau mawr. Fel arfer, bydd ymgynghoriadau’n mynd i’r afael â manylion polisi penodol. Beth am ofyn cwestiwn enfawr yn lle? Dyna beth rwy’n bwriadu gwneud.

“Take any chance you get to ask the key question of your citizens, ‘What would a good life look like for you?”

Gwneud pethau gwell

Dysgu sut all gwasanaethau cyhoeddus gwneud pethau gwell

Dyfrig Williams

Written by

Cymraeg! Music fan. Cyclist. Scarlet. Work for @researchip @ripfa . Views mine / Barn fi.

Gwneud pethau gwell

Dysgu sut all gwasanaethau cyhoeddus gwneud pethau gwell

Welcome to a place where words matter. On Medium, smart voices and original ideas take center stage - with no ads in sight. Watch
Follow all the topics you care about, and we’ll deliver the best stories for you to your homepage and inbox. Explore
Get unlimited access to the best stories on Medium — and support writers while you’re at it. Just $5/month. Upgrade