‘Cynllunio yw dyfalu’: Fy nodau i ar gyfer 2018

Mae yna lot o flogbostau yn cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd ble mae pobl yn rhannu eu bwriadau nhw ar gyfer 2018. Felly pwy ydw i i fynd yn erbyn y llif?

Rydw i wedi bod yn meddwl am sut rwy’n cynllunio ar gyfer y dyfodol ers sbel. Os rwy’n bod yn onest, rydw i wedi bod yn meddwl am hyn ers i mi fynd i weld yr Ymgynghorydd Gyrfaoedd yn fy ysgol uwchradd. Mae rhan ohonof i’n teimlo y dylai fi gwybod beth yn union rydw i eisiau bod erbyn hyn, a sut yn union rydw i’n mynd i gyrraedd yno. Dyw darllen am y cysyniad Siapaneaidd o Ikigai (sef byw’n bwrpasol er mwyn byw eich bywyd gorau) ddim wedi helpu chwaith. Serch hyn i gyd, rydw i hefyd yn cael trafferth gyda’r syniad y dylwn i fapio fy nyfodol. Ddwy flynedd yn ôl roeddwn i’n byw yng Nghaerdydd, a doedd dim syniad gen i y byddwn i’n byw gyda chariad fy mywyd a fy llysferch yn Nyfnaint. Felly mae’r meddylfryd mae Jason Fried yn amlinellu ym mhodlediad Basecamp (sy’n werth gwrando arno) yn gwneud lot mwy o synnwyr i mi — mae cynllunio yn dyfalu. Mae’n bwysig gwybod beth yn union rydych chi’n gallu rheoli. Mae fe’r un mor bwysig i wybod pryd does dim syniad gyda chi.

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn sut y gellir defnyddio Mapiau Ffyrdd fel datganiadau o fwriad. Mae sylw Neil Tamplin ar ei flogbost ar Ddechreubwynt ar gyfer Tîm Trawsnewid Digidol wedi rhoi lot i mi feddwl amdano, ac mae gen i ddiddordeb mawr i weld beth mae ymdrechion Louise Cato yn edrych fel pan mae hi’n rhannu ei gwaith hi. Mae’n bwysig nad yw unrhyw broses o’r fath yn niweddbwynt ynddo’i hun, fel y gwelais gymaint o weithiau pan weithiais i ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru.

Gan ystyried hyn i gyd, beth yw fy nodau i ar gyfer 2018?

Cydbwysedd gwaith / bywyd

Y pobl pwysicaf mewn bywyd

Rydw i’n debyg o fod yn anhygoel o brysur rhwng mis Ionawr a mis Ebrill gan mai dyma’r amser prysuraf o’n flwyddyn ni. Gallaf weld yn barod y bydd cynnal cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd personol yn her. Cyn dechrau, mae rhaid i mi brofi fy hun yn Research in Practice a Research in Practice for Adults ac i weithio i’r safon gorau phosib. Mae trafaelu i’r gwaith ac yn ôl yn ychwanegu tri chwarter awr i’m hamser cychwyn a gorffen, felly mae gorffen yn hwyr yn gwneud e’n anodd i mi sicrhau bod fy llysferch yn cael y noson sydd angen arni (bwyd da, lot o gwsg, a chymaint o storiâu a phosib). Fe wnaeth gwyliau’r Nadolig dangos i mi’r manteision o gymryd amser i ffwrdd o waith. Mewn byd hunllefus, gallai fod y dyn yma…

Rydw i hefyd yn ffodus iawn fy mod i’n gweithio yn Dartington, ble maen nhw’n gofalu am les eu staff. Rwy’n gwneud Yoga yn ystod fy amser cinio i ar ddydd Gwener, sy’n grêt. Rydw i am gymryd hynny gam ymhellach trwy feicio yn ystod fy amser cinio i hefyd. Bydd hyn hefyd yn helpu fi i gael ymwybyddiaeth well o ddaearyddiaeth yr ardal.

Sut byddai’n gwybod os ydw i ar y trywydd iawn?

Gwell defnydd o’r rhyngrwyd

2017 oedd y flwyddyn ble wnes i rili ddod i ddeall sut mae’n bosib fod yn gaeth i’ch ffôn. Rydw i wedi cymryd camau mawr i fynd i’r afael â hynny trwy brynu cloc larwm (sydd wedi arbed hanner awr o amser yn edrych ar fy ffôn bob bore) a throi fy ffôn i ffwrdd yn y noson nes bod angen e i wrando ar bodlediadau ar gyfer fy siwrne i i waith. Rydw i eisiau adeiladau ar hyn. Mae rhaid i mi roi fy ffôn i ffwrdd pan rwy’n gweithio hefyd er mwyn galluogi fy hunain i ganolbwyntio’n well. Gall rhoi eiliad ychwanegol i fy hun yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Rwy’n ymwybodol hefyd bod angen ychydig o amser digynnyrch. Mae Dr Rachel Hughes wedi rhannu blogbost wych ar Quartz sy’n edrych ar y manteision o hynny, sy’n taro cloch gyda mi:

“The truth is, work expands to fill the time it’s given and, for most of us, we could spend considerably fewer hours at the office and still get the same amount done…. Taking time to be totally, gloriously, proudly unproductive will ultimately make you better at your job, but it’s also fulfilling in and of itself.”

Mae gwneud amser i ymlacio yn beth da. Ond rydw i eisiau gwneud hyn mewn ffordd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’m lles — trwy ddarllen llyfr neu chwarae fy ngitâr. Mae angen i mi wneud y tasgau hyn yn lot haws i mi nag y maen nhw ar hyn o bryd (mae fy ngitâr i’n heistedd mewn cwpwrdd ac mae fy llyfr i ar bwys fy ngwely), ac mae rhaid i mi wneud fy ffôn ychydig yn anoddach i’w afael trwy ei roi allan o gyrraedd.

Rydw i eisoes wedi rhoi’r gorau i Facebook, a nawr rwy’n ceisio defnyddio llai o gynhyrchion Google. Rwy’n anghofio pwy dywedodd hyn yn mhodlediad RSA, ond “os nad ydych chi’n talu am gynnyrch, chi yw’r cynnyrch.” Yn 2017 fe ddes i’n ymwybodol iawn o sut mae fy nata i’n cael ei gynaeafu. Rydw i wedi symud o Gmail i ProtonMail (mae lot wedi cael ei ysgrifennu am y ffaith bod Gmail yn hunllef o ran preifatrwydd, ond falle mai dyma’r broblem lleiaf), wedi newid porwr o Chrome i Firefox, symud o Google Now i Nova Launcher ac o Messages i Chomp SMS. Dydw i ddim wedi dod o hyd i app galendr gwell ar gyfer defnydd personol nag un Google, a Google Maps yw’r app mapio gorau o bell ffordd (ond os oes gennych awgrymiadau, byddai’n grêt i glywed o chi). Ond rwy’n credu bod yna mwy rwy’n gallu gwneud.

Sut byddai’n gwybod os ydw i ar y trywydd iawn?

  • Rydw i wedi symud o Google Drive a Docs i ddefnyddio Dropbox a Dropbox Paper (neu ddewis amgen gwell)
  • Rwy’n defnyddio fy ngitâr neu’n darllen llyfr yn hytrach na fy ffôn

Gweithio’n agored

Dyw blogio ddim yn rhan o’m swydd i, ac rwy’n ymwybodol bod defnydd llai o’m ffôn yn golygu llai o blogio. Rydw i eisiau gweithio’n agored cymaint â phosib a rhoi amser i fy hun i ymlacio ac i ddiddymu straen. Mae’r criw Weeknotes yn ysbrydoliaeth wrth iddynt rannu beth maen nhw’n gwneud yn wythnosol, ond rwy’n credu y byddai hyn yn ormod i mi. Pan ddechreuais fy swydd newydd roeddwn i’n blogio bob yn ail wythnos. Falle bydd rhaid i mi ailystyried hyn tra rwy’n meddwl amdano beth mae bywyd da yn edrych fel.

Mae’n rhaid i mi alinio fy mlogbostau i â phwrpas yn lle ystadegau. Mae’r cyfle i adlewyrchu ar fy ngwaith ac i gronni adnoddau da yn ddefnyddiol iawn, yn ogystal â’r cyfleoedd i rannu nhw ac i ddysgu o bobl eraill. Dydw i ddim am golli hyn. Mae blogio trwy gyfrwng y Gymraeg yn hollbwysig i mi gan ei fod yn rhoi’r cyfle i mi ymarfer fy sgiliau sgwennu nawr rwy’n byw yn Lloegr. O ran lefelau gwaith, byddai popeth cymaint yn haws os byddai fi’n sgwennu yn uniaith Saesneg, ond byddai fi’n colli cymaint o’r cyfle i rwydweithio ac i drafod y pynciau rwy’n blogio amdano ar Twitter yn fy mamiaith.

Sut byddai’n gwybod os ydw i ar y trywydd iawn?

  • Rwy’n blogio’n rheolaidd (unwaith bob 2–3 wythnos)
  • Rwy’n chwilio am blogbostau diddorol a heriol ac rwy’n gwneud sylwadau pryd rwy’n gallu helpu neu ychwanegu gwerth

Edrych ‘mlaen i 2018

Roedd 2017 ychydig o hunllef ar lefel fyd-eang, ond roedd popeth yn berffaith ar lefel bersonol. Diolch i bawb a wnaeth fy helpu ac annog fi wrth i mi flogio’n bersonol am y tro cyntaf. Rwy’n gobeithio ad-dalu’r ffafr eleni. Gobeithio bydd 2018 mor wych i chi ag oedd 2017 i mi!