Dyfrig Williams
Jan 29 · 5 min read

Sut allwn ni rhoi’r cyfle gorau posibl i ni ein hunain i fanteisio ar gyfleoedd ni’n dod ar draws? Rhannodd Dez Holmes map dysgu yma gyda mi yn ddiweddar, lle cefais fy nghyflwyno i fodel gwybodaeth Nonaka a Takeuchi ar rheoli dysgu serendipedd.

Roeddwn i wedi dod ar draws yr holl ddamcaniaethau eraill a restrwyd o dan ddysgu mudiadol. Fe allech chi hyd yn oed ddadlau na ddylai rhai ohonyn nhw fod yno gan dydyn nhw ddim yn seiliedig ar dystiolaeth (*peswch* …. Honey a Mumford), ond doeddwn i heb clywed am Ikujiro Nonaka a Hirotaka Takeuchi. Rydw i wedi edrych ar Deming yn ddiweddar (a welwyd fel tad diwydiant Siapan ar ôl yr Ail Ryfel Byd) a’r theori sy’n oddi-tano gwelliant parhaus Toyota, felly roedd hyn yn teimlo fel cam nesaf da i’w gymryd.

Y Model SECI

Diagram o’r model SECI gan Ibmgroup , CC BY-SA 3.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=18653983

Model mwyaf adnabyddus Nonaka a Takeuchi yw’r model SECI o ddimensiynau gwybodaeth, sy’n golygu cymdeithasoli, alloli, cyfuniad a mewnololi. Yn y bôn, mae’n rhannu gwybodaeth i fewn i wybodaeth dealledig ac echblyg. Ceir gwybodaeth dealledig mewn llawlyfrau ac ati — dyma’r ble nodir y broses. Rydym yn ennill gwybodaeth gefnogol o brofiad, ac fe’i cyfathrebir yn anuniongyrchol trwy trosiadau a chyfatebiaeth.

Y meddylfryd gwreiddiol yw y gwelir gwybodaeth echblyg ble mae sefydliadau’n dysgu o arfer, sydd yn bennaf yn y Dwyrain. Mae blogbost Chris Bolton a.k.a. whatsthepont yn rhannu enghraifft da o yn ei flogbost ar Gerdded Gemba, ble mae’r dulliau’n alluogi pobl i ddadansoddi arfer wrth iddo cymryd lle. Mae’r Gorllewin yn tueddu i ffafrio dysgu dealledig ble mae gwybodaeth yn cael ei gyhoeddi a’i fynegi. Ni’n caru astudiaeth achos.

Y pedwar dull o drosi gwybodaeth

Mae gan y model bedair rhan.

Cymdeithasoli (y rhan dealledig i ddealledig)

Rydym yn adeiladu’n gyson ar ein profiadau fel unigolion. Rydym yn rhannu gwybodaeth trwy gyfathrebu’r profiad yn ystod cymdeithasoli. Mae hyfforddi (‘coaching’), mentora, rhwydweithiau anffurfiol a chymunedau ymarfer yn enghreifftiau da o hyn. Gall hyd yn oed cyfarfod helpu i gymdeithasoli gwybodaeth. Rhaid dylunio rhain yn effeithiol fel ein bod ni’n osgoi gyfarfodydd gwastraffus. Mae pobl fel Paul Taylor wedi blogio amdano hyn:

“Nes bod yna newid mawr yn y ddeinameg arweinyddiaeth o orchymyn a rheolaeth hen ffasiwn i ffordd o weithio sy’n gydweithredol a di-statws, yna byddwn yn dal i gael yr holl gyfarfodydd hynny.

Yr her yw nodi’r ffrithiant a’r sŵn sy’n ein llusgo’n ôl i ymddygiadau rheoli’r 20fed Ganrif — ac yna gwneud rhywbeth amdano.”

Allanoli (symud o ddealledig i echblyg)

Trosglwyddir gwybodaeth gefnogol i fewn i wybodaeth glir trwy ei dogfennu mewn ffurf gorfforol neu ddarllenadwy. Gallwn weld hyn trwy arferion megis blogio, nodiadau wythnosol, neu ddulliau traddodiadol fel astudiaethau achos. Mae’r gwybodaeth o fewn rhain yn cael eu hadeiladu arno i greu gwybodaeth newydd.

Cyfuniad (echblyg i echblyg)

Gellir dod â gwybodaeth eglur ynghyd â gwybodaeth o ffynonellau eraill. Mae hyn yn syniad da iawn gan fod gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio o fewn amgylchedd cymhleth lle nad yw rhywbeth a weithiodd mewn un lle o reidrwydd yn mynd i weithio mewn rhywle arall. Er enghraifft, mae’r Map Rhagwelediad Gordewdra yn dangos bod cymaint o wahanol ffactorau yn dylanwadu ar unrhyw ddigwyddiad neu benderfyniad penodol. Mae’n amhosib cael un ateb cywir ar gyfer pob sefyllfa.

Gall gwybodaeth ddod o ffynonellau amrywiol, gan gynnwys fframweithiau a modelau aeddfedrwydd. Ond mae rhaid i ni ddeall y gwir broblem i ddatrys os mae’r gwybodaeth yma yn mynd i fod yn ddefnyddiol. Felly sut mae gwneud hynny? Rwy’n credu bod rhaid ystyried beth sy’n edrych yn dda i’r bobl sy’n cyrchu gwasanaethau. Gall ymchwil o ddefnyddwyr neu ymgysylltiad cyhoeddus da arwain at ganlyniadau mwy effeithiol, ac mae’r dealltwriaeth ar y cyd yma yn gynyddu’r bosibilrwydd o gydgynhyrchu wasanaethau. Mae blogbost Matt Edgar ar adeiladu ar asedau wrth ddylunio gwasanaethau digidol yn arbennig o dda wrth ddeall sut y gallwn gwneud hyn.

“Fe wnes i hefyd gosod her i’r bobl cynnyrch yno: Rydyn ni’n siarad lot am rymuso pobl. Ond pwy ydyn ni i rymuso unrhyw un? Mae pawb yn dechrau gyda phŵer; ein gwaith ni yw stopio nhw rhag colli eu pŵer”

Mewnoliad (o echblyg i ddealledig eto)

Dyma’r pwynt ble mae’r unigolyn yn deall y wybodaeth ac yn ei arddangos trwy eu hymddygiad. Gall y broses o gymdeithasoli ddechrau eto ar ôl hyn wrth i’r unigolyn ddatblygu gwybodaeth dealledig newydd. Dyma lle rydym yn dysgu trwy wneud. Y peth hawdd i’w wneud yw stopio yma, ond mewn gwirionedd dylem fod yn adlewyrchu ac yn dysgu’n barhaus. Gall hyn fod yn gysylltiedig â’m pwynt cynharach ar flogio neu nodiadau wythnosol. Mae’r gwahaniaeth yn glir yma rhwng astudiaethau achos a’r prosesau adlewyrchol yma — mae astudiaethau achos yn un weithgaredd, tra fod adlewyrchiad parhaus yn ein galluogi ni i greu synnwyr rhwng meysydd, syniadau, a chysyniadau.

Dylai’r model hwn weithio fel sbiral o welliant parhaus. Cafodd y cysyniad o “Ba” ei adio’n ddiweddarach, sef lle a rennir ar gyfer perthnasoedd. Mae’r cysyniad yn cynnwys mannau corfforol, rhithiol a feddyliol, felly gellir sbarduno gwestiynau mawr:

Mae gwybodaeth yn newid yn gyson

Mae Nonaka a Takeuchi yn dadlau yn ‘The Knowledge-Creating Company’ (sydd ar gael ar Google Books) bod creu gwybodaeth yn allweddol er mwyn cael mantais gystadleuol (neu efallai gwasanaethau cyhoeddus sy’n addas i’w bwrpas) gan fod yr amgylchedd a beth sydd angen ar gwsmeriaid mewn cyflwr cyson o fflwcs.

Rhaid bod yn ofalus wrth ymgymryd â dulliau newydd. Rhaid addasu beth sy’n gweithio yn hytrach na mabwysiadu pethau yn eu cyfanrwydd, ond mae yna paralelau diddorol yma gyda chyflenwi gwasanaethau mewn amgylcheddau cymhleth. Mae’r wybodaeth yn heneiddio’n gyflym oherwydd newidiadau cyson. Nid yw hyn erioed wedi teimlo’n fwy wir nag yn ein byd o ddata, ac adborth unionsyth. Y her yw i fanteisio i’r eithaf ar y wybodaeth hon a bod y dynion yn agored i fethiant — gallwn ni ddim gwybod popeth, ond gall model SECI ein helpu ni i ddeall sut y gallwn wneud y mwyaf o’r gwybodaeth sydd gennym.

Gwneud pethau gwell

Dysgu sut all gwasanaethau cyhoeddus gwneud pethau gwell

Dyfrig Williams

Written by

Cymraeg! Music fan. Cyclist. Scarlet. Work for @researchip @ripfa . Views mine / Barn fi.

Gwneud pethau gwell

Dysgu sut all gwasanaethau cyhoeddus gwneud pethau gwell

Welcome to a place where words matter. On Medium, smart voices and original ideas take center stage - with no ads in sight. Watch
Follow all the topics you care about, and we’ll deliver the best stories for you to your homepage and inbox. Explore
Get unlimited access to the best stories on Medium — and support writers while you’re at it. Just $5/month. Upgrade