Dysgu o Fethiant mewn amgylchedd cymhleth

Mae peth amser wedi mynd heibio ers y gweithdy Dysgu o Fethiant, ac mae fe hefyd wedi bod yn sbel ers fy ymateb iddo, ble wnes i gyfaddef fy mod i heb ddysgu lot o fy methiant i. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Swyddfa Archwilio Cymru, felly roedd ein trafodaeth amdano rôl archwilio mewn dysgu o fethiant braidd yn anochel.

Methiant systematig

Model Methiant Caws y Swistir gan James Reason. Ffynhonnell: BMJ, 2000 Mar 18:320(7237): 768–770

Roedd cyflwyniad Chris Bolton ar Fodel Methiant Caws y Swistir gan James Reason, sy’n cymharu systemau dynol i haenau o Gaws y Swistir. Dewisodd Reason Caws y Swistir am reswm, gan fod pob haen yn amddiffyniad yn erbyn camgymeriadau a gwallau, ac mae pethau’n mynd o chwith pan mae’r tyllau’n galluogi i’r methiant parhau. Mae ‘na feirniadaeth ddiddorol o’r model yn y sylwadau gan Matt Wyatt o Gymhleth Cymru.

Ar ôl sgwrs dda ar Twitter ar wahanol fathau o gaws fel amddiffyniad (fel gwladgarwr dewisais i gaws Caerffili — ‘Rwy’n crymblo yn wyneb methiant’), edrychais i ar fodel mae Matt wedi datblygu o’r enw’r ‘Llinell Amser o Fethiant Anochel.’

Mae Model Caws y Swistir yn fodel adlewyrchol (gan eich bod chi’n edrych yn ôl ar y methiant ar ôl iddo gymryd lle), ond mae gen i ddiddordeb mewn model Matt achos bod e’n cynnig cyfleoedd i fyfyrio ar fethiant a’i ganlyniadau ar wahanol gyfnodau. Mae hwn yn cydseinio â’r ymagwedd systematig tuag at fethiant yn fy mlogbost diwethaf ar adlewyrchu ar fethiant yn drylwyr.

Er mwyn gallu unioni’r methiannau yng nghyfnod cynnar y llinell amser, mae’n rhaid i ni fod yn agored a gonest am fethiant, neu bydd materion yn gwaethygu i fod yn broblemau mwy. Os ydym yn gyfforddus â mân achosion o fethiant, rydyn ni hefyd yn allu paratoi’n well ar gyfer pan mae pethau’n mynd yn rili wael. Fel mae Matt yn dweud yn sylw arall, ‘Mae systemau byw cymhleth bob amser yn methu, felly yn hytrach na cheisio dileu methiant, mae’n llawer mwy defnyddiol i’w gwneud yn ddiogel i fethu.’ Mae’n werth darllen blogbost Chris ar ‘Lygod Trojan,’ sef cynlluniau peilot sy’n ddiogel i fethu, cyn gwylio fideo o Dave Snowden sy’n trafod nhw fel rhan o’r Fframwaith Cynefin.

Gallwch weld y dull hwn ar waith drwy waith y Bromford Lab a Phrosiectau Beta Cyngor Dinas Dulyn. O ran Cyngor Dulyn, mae’n werth edrych ar sut mae paentio o flychau goleuadau traffig wedi arwain at lot llai o dagio a graffiti.

Beth mae hwn yn meddwl i archwilwyr a’r cyrff sy’n cael eu harchwilio?

Ar wahân i un awgrym yn y gweithdy i gymryd eich archwilydd allan am ginio i drafod eu hymagwedd tuag at fethiant (ac rydw i’n hollol gytuno â hyn gyda llaw!), mae hyn i gyd yn ymwneud â’r amgylchedd cymhleth mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu a’u harchwilio ynddo.

Yng Nghymru, mae’r amgylchedd yma ar fin newid yn sylfaenol pan mae Deddf Lles Genedlaethau’r Dyfodol yn cael ei gyflwyno. Bydd rhaid i fudiadau meddwl ychydig yn wahanol am eu gwaith, achos bydd rhaid iddynt wella lles pobl heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion. Bydd y ddeddf hefyd yn her i ni yn Swyddfa Archwilio Cymru — mae’n anodd mesur llwyddiant pan ddydych chi ddim yn gwybod beth fydd y dyfodol yn edrych fel. Mae blogbost wych ar flog Swyddfa Archwilio Cymru ble mae Ann Webster, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Seland Newydd yn amlinellu’r heriau ni’n wynebu.

Rydyn ni eisoes wedi rhannu rhai camau gall mudiadau cymryd i adrodd yn ôl yn effeithiol, gan gynnwys adrodd integredig, mewn seminar wnaethon ni rhedeg gyda’r Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy. Ond o ran y digwyddiad yma, wnes i gael fy nharo gan rai camau syml gall mudiadau cymryd i ddangos gwelliant. Rhoddodd Jonathan Flowers enghraifft wych o sut wnaeth Rheolwr Cynllun Rhwydwaith Cymdogaeth gofyn am ddau achos y mis o sut y mae’r gwasanaeth wedi gwella bywydau pobl. Mae’r naratif yn dangos bod y gwasanaeth yn symud i’r cyfeiriad iawn ac mae’n gallu cael ei ddefnyddio i werthuso’r prosiectau.

Ble nawr?

O ran ein gwerthusiad, rydyn ni wedi bod yn casglu enghreifftiau o sut mae’n gwaith ni wedi arwain at fudiadau’n mabwysiadu arfer da. Dyw’r rhain ddim yn aml yn fesurau ynddo’u hunain, ond maen nhw’n astudiaethau achos cymhleth o sut mae gwasanaethau wedi newid.

Ac o ran ein gwaith, mae’n bwysig bod ni’n parhau i drafod methiant, fel bod e’n cael ei normaleiddio a gall pobl fod yn fwy onest amdano. Ac os gallwn ni wneud hynny, byddwn ni mewn lle gwell i helpu mudiadau i gymryd camau pellach i wella eu gwasanaethau.

Cafodd y blogbost yma ei gyhoeddi’n wreiddiol ar flog Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru.