Gall ariannu torfol helpu i ail-lunio gwasanaethau?

Fel rhywun sydd ddim yn gwybod ystyr y gair ‘gwyliau’, mae Chris Bolton a.k.a. whatsthepont, Rheolwr y Gyfnewidfa Arfer Da, wedi bod yn dysgu am waith y Comisiwn Gwarantau yn Nova Scotia.

Mae’r comisiwn wedi bod yn gwneud bach o waith ar ariannu torfol, gan fod nhw’n edrych i gynnig eithriadau fel bod busnesau bach a chanolig yn gallu codi arian mewn ffordd newydd. Mae fe hefyd yn golygu bod gan fuddsoddwyr ffordd arall o fuddsoddi ynddynt. Maen nhw wedi cynnal sesiynau gwybodaeth i’r cyhoedd er mwyn ffeindio allan barn pobl.

Ariannu torfol yw lle mae prosiect yn cael ei ariannu trwy gyfraniadau o nifer fawr o bobl, fel arfer dros y rhyngrwyd. Fel ffan mawr o gerddoriaeth, rydw i wedi cymryd rhan mewn ychydig o ymarferion ariannu torfol, lle mae cerddorion yn edrych i gynhyrchu gwaith byddai ddim yn gweld golau dydd fel arall. Dim ond un enghraifft yw hynny — mae ‘na gymaint o brosiectau rhyfedd a rhyfeddol, o lyfr coginio da’r thema o facwn i gerflun pwmpiadwy tri metr uchel o ben Lionel Richie.

Ydy e’n bosib i wasanaethau cyhoeddus gymryd rhan mewn ariannu torfol? Mae ariannu torfol wedi bod yn llwyddiannus iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae yna sawl platfform gwahanol, o IndieGoGo i Kickstarter. Mae’n ddiddorol gweld bod yna hyd yn oed platfform ar gyfer prosiectau dinesig, sef Spacehive. Mae fe eisoes ‘di cael ei ddefnyddio i lenwi’r bwlch cyllid yng Nghanolfan Gymunedol Glyncoch, lle bydd canolfan gymunedol newydd yn cael ei hadeiladu i gwrdd ag anghenion y gymuned.

Mae Nesta wedi gofyn rhai cwestiynau allweddol yn y blogbost yma — oes ‘na pherygl bydd arian torfol yn cymryd lle arian cyhoeddus? Ydyn e’n bosib i ariannu torfol gweithio ar gyfer gwasanaethau a chynnyrch? Mae’r rhain yn gwestiynau pwysig iawn i’w gofyn. Ond maent hefyd yn edrych ar bwyntiau cadarnhaol, a hoffwn ychwanegu un arall — gallai hwn newid y berthynas rhwng darparwyr a phobl sy’n derbyn gwasanaethau?

Yn y Gyfnewidfa Arfer Da rydym yn cydnabod bod rhaid i wasanaethau cyhoeddus newid y ffordd mae gwasanaethau yn cael eu darparu a gan bwy. Rydyn ni eisoes wedi gweld hynny yn ein seminar dysgu a rennir ar Ail-lunio Gwasanaethau yng Nghaerdydd, lle wnaethon ni arddangos gwasanaethau cyhoeddus sy’n cael eu darparu gan ymddiriedolaethau, y sector gwirfoddol a chynghorau cymuned. Yn yr un seminar dywedodd Tony Bovaird wrthym fod chwe miliwn o bobl yn gweithio i wasanaethau cyhoeddus, a bod yna chwe deg miliwn o ddinasyddion yn y Deyrnas Unedig. Serch hyn, mae cydbwysedd y grym yn dal i ffafrio’r lleiafrif. Gallai ariannu torfol helpu i newid y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweld pobl, fel bod nhw ddim yn cael eu gweld fel derbynwyr diolchgar, ond yn hytrach fel pobl sydd â rhan allweddol i chwarae mewn gwasanaethau cyhoeddus?

Cafodd y blogbost yma ei gyhoeddi’n wreiddiol ar flog Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru.