Dyfrig Williams
Aug 7 · 3 min read

Dysgais am Fodel Rhewfryn Donella Meadows yng ngweithdy Lab Dylunio Gwasanaeth Dartington ar Ddynameg System. Mae’r model yn helpu pobl i feddwl am y cysylltiadau rhwng digwyddiadau a’u gwreiddiau. Mae hyn yn cynnwys patrymau ymddygiad, strwythur system a modelau meddyliol, achos dyw e ddim yn bosib newid digwyddiad heb newid y meddylfryd sy’n sail iddo.

Pan wnes i drydar amdano’r fodel, rhannodd Ben Proctor model arall, sef Haenau Cyflymdra. Mae’r rhain yn dangos sut mae systemau’n rheoli newid a dysgu. Mae Haenau Cyflymdra yn cynnwys lefelau gwahanol (dyw e ddim jyst yn enw clyfar) sy’n cywiro ac yn sefydlogi ei gilydd.

Cafodd y cysyniad ei ddatblygu gan Stewart Brand a Brian Eno, sy’n golygu mai dyma’ch trac sain am y flogbost yma….

Dyma’r haenau sy’n cael ei effeithio gan newid, o’r cyntaf i’r olaf:

  • Ffasiwn / celf
  • Masnach
  • Isadeiledd
  • Llywodraethu
  • Diwylliant
  • Natur
Wedi’i gymryd o https://jods.mitpress.mit.edu/pub/issue3-brand. Mae’r gwaith hwn wedi’i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons 4.0.

Nid yw’n syndod fawr fod diwylliant yn araf i newid. Serch hynny, ffeindiais i’r model yn ddefnyddiol o ran deall dylanwad:

“Cyflymder sy’n cael ein sylw, ond mae’r pŵer mewn newid araf.”

Felly mae diwylliant yn araf i newid, ond dyma ble mae’r pŵer go iawn. Mae’n ddiddorol i weld bod Brand yn rhoi’r sector cymdeithasol yn ei gyfanrwydd o dan lywodraethu ar lefel ecolegol. Mae hyn yn awgrymu bod arloesi yn gallu fod yn araf, ond bod gennym lot o bŵer. Efallai bod hyn ddim yn syndod i aelod o’r cyhoedd sy’n teimlo bod ganddynt ddim llais.

Graddfa

Mae dyfyniad Freeman Dyson yn y post yn ddefnyddiol ar sut mae amser yn dylanwadu ar ein cysyniad o fesur a maint:

“Ar raddfa amser o flynyddoedd, yr uned yw’r unigolyn. Ar raddfa amser o ddegawdau, yr uned yw’r teulu. Ar raddfa amser o ganrifoedd, yr uned yw’r genedl. Ar raddfa amser o filenia, yr uned yw’r diwylliant. Ar raddfa amser o ddegau o filenia, yr uned yw’r rhywogaeth. Ar raddfa amser o eons, yr uned yw bywyd ar ein planed. Mae pob person yn gynnyrch sydd wedi’i addasu i ofynion pob un o’r chwe graddfa amser yma.”

Mae gweithio ar y raddfa gywir yn edrych fel dylai fe fod yn hawdd, ond eto mae’n amlwg ei fod yn anodd. Mewn amgylcheddau cymhleth y mae gwasanaethau cyhoeddus yn debygol o weithio orau trwy bersonoli ar raddfa fach. Ond eto nid dyna sut mae pethau’n cael eu mesur ac nid dyna fel y dangosir effeithiolrwydd.

Mae Matt Wyatt a.k.a. Complex Wales wedi ysgrifennu cyfres wych o flogbostau o’r enw “Y stori yw’r mesur.” Yn ei ddarn “#TSisTM a 43 quintillion ffordd i fod yn dyst…” mae’n edrych ar pam mae cyfartaleddau’n gallu fod yn amheus. Mae gwasanaeth sy’n cynnig un ateb i lawer o ofynion yn aml yn aneffeithiol iawn.

“Mae pobl yn ‘wonky’ ac yn hyfryd yn naturiol… pan rydym yn mesur systemau byw cymhleth fel pobl, mae lefel isel o benodoldeb yr un peth ag edrych arnyn nhw o rhy bell i ffwrdd.”

Mae Chris Bolton a.k.a whatsthepont hefyd wedi ysgrifennu blogbost wych ar Reol Campbell a pham mae mesur canlyniad yn gobra sydd wedi’i marw:

“Mae gormod yn digwydd; nid yw’r system yn rhagweladwy ac mae’n newid yn gyson. Mae hyn yn golygu bod targedau a mesuriadau yn eu herbyn bron yn ddibwrpas. Rydych chi’n ceisio diffinio’r anrhagweladwy (trwy osod targedau) a mesur pethau pan nad oes gennych unrhyw reolaeth drostynt.”

Mae targedau’n aflunio nodau gwasanaeth mewn amgylchedd cymhleth. Mae mesurau confensiynol yn cael eu datblygu o beth sy’n hawdd i’w fesur, ond y cyfan maen nhw’n ei wneud yw symud yr anhawster yna o weinyddiaeth i’r ddarpariaeth o wasanaethau, achos mae aneffeithlonrwydd yn cael ei ymgorffori yn y pwrpas cymysglyd. Efallai mai’n edrych fel bod darparu gwasanaethau ar raddfa fawr yn yr un modd â gweithgynhyrchu yn fwy effeithlon, ond mae pobl yn aml yn derbyn gwasanaethau annigonol.

Mae edrych ar bethau ar raddfa fawr yn ein pellhau ni o’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda, yn yr un modd a biwrocratiaeth (rydw i wedi edrych ar hyn o’r blaen). Mae mesur beth sy’n hawdd yn newid ein llywodraethu a’n diwylliant fel ein bod ni’n canolbwyntio ar anghenion mudiadau dros anghenion pobl. Os ydym yn herio ein rhagdybiaethau ynghylch targedau a mesuriadau, gallwn ddarparu gwasanaethau gwell a gweithio gyda phobl i ddeall beth sy’n wir gwella eu bywydau.

Gwneud pethau gwell

Dysgu sut all gwasanaethau cyhoeddus gwneud pethau gwell

Dyfrig Williams

Written by

Cymraeg! Music fan. Cyclist. Scarlet. Work for @researchip @ripfa . Views mine / Barn fi.

Gwneud pethau gwell

Dysgu sut all gwasanaethau cyhoeddus gwneud pethau gwell

Welcome to a place where words matter. On Medium, smart voices and original ideas take center stage - with no ads in sight. Watch
Follow all the topics you care about, and we’ll deliver the best stories for you to your homepage and inbox. Explore
Get unlimited access to the best stories on Medium — and support writers while you’re at it. Just $5/month. Upgrade