Gwerth: Mae arian yn mesur popeth ar wahân i beth sy’n wirioneddol bwysig

Rydw i wedi dwyn y teitl yma o ddyfyniad Bobby Kennedy ar gynnyrch domestig gros achos rydw i wedi bod yn meddwl yn ddiweddar am rôl gwasanaethau cyhoeddus a’r cyd-destun rydym yn gweithio ynddo. Rydw i wedi bod yn meddwl yn benodol am ein diffiniad o werth a’r canlyniadau o gyflwyno gwasanaethau ar sail dulliau a meddylfryd sy’n tanategu’r sector preifat.

Mae fe wedi bod yn bron i 30 mlynedd ers i Francis Fukuyama ddatgan diweddbwynt hanes, ac mae’n teimlo fel bod ein cymdeithas wedi rhoi’r gorau i gwestiynu’r theori economaidd gyfredol a’r meddylfryd y tu ôl iddo, hyd yn oed pan mae lefelau anghyfartaledd yn codi i lefelau anhygoel.

(Fy nghyflwyniad i Francis Fukuyama — Holloway Prison Blues gan Million Dead. Roedd Frank Turner arfer bod yn athrylith)

Mae’r methiant i wneud y cwestiynu yma yn achosi problemau mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein strwythurau sefydliadol yn seiliedig ar theori gweithgynhyrchu o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac mae’r rheolaeth o’n brosiectau fel arfer yn seiliedig ar weithio mewn amgylcheddau syml, er ein bod ni’n gweithio mewn amgylcheddau cymhleth lle nad yw’r berthynas rhwng achos ac effaith yn llinellol. Mae hyn i gyd yn cymryd lle mewn amgylchedd ble rydym yn camu i mewn ble mae’r sector preifat wedi methu. Gallwn weld hyn yn glir mewn achos tai cymdeithasol, ble mae’r farchnad wedi gwneud tai yn anfforddiadwy.

Mae methiant y system bresennol yn fwyaf amlwg wrth i ni edrych ar Alw sy’n Deillio o Fethiant. Mae llawer o’n hadnoddau’n cael eu gwario mewn ateb y broblem anghywir. Mae’r ymateb yma yn seiliedig ar bwrpas defacto o arbed arian, ond mae hwn yn ein harwain ato ddefnyddio hyd yn oed fwy o adnoddau i liniaru’r effeithiau o’n methiant i beidio mynd i’r afael a’r broblem y tro cyntaf. Rydym yn treulio cymaint o amser yn ceisio darparu ymatebion sydd ddim mewn gwirionedd yn gweithio i unrhyw un. Faint o wastraff sy’n cael ei gynhyrchu yn y modd yma?

Mae’n werth cael cipolwg ar araith Mariana Mazzucato ar gyfer yr RSA, neu gallwch wrando arno fel bodlediad. Ei llyfr diweddaraf yw ‘The value of everything: Making and taking in the global economy’, sy’n edrych ar y cyfoeth sy’n cael ei generadu a rôl crewyr ac echdynwyr gwerth.

Mae’r diffiniad o werth yn amrywio o berson i berson. Mae’r echdyniad o werth yn aml yn cymryd lle wneud wrth i ni geisio creu gwerth. Felly sut mae gwerth yn edrych o fewn gwasanaethau cyhoeddus os eu prif bwrpas yw gwella bywydau pobl, nid generadu arian?

Mae theori glasurol Adam Smith o werth yn gysylltiedig â phris. Mae hyn yn rhoi mesur ffug i ni’n aml, er enghraifft pan mae gofalwyr yn gweithio am ychydig o arian neu yn rhad ac am ddim achos maen nhw’n gofalu amdano aelodau o’u teulu. Mae Mazzucato yn edrych ar sut rydym yn mesur y llywodraeth, a pham mae rhaid i ni symud i ffwrdd o fesur cost i fesuriad ehangach o’r gwerth sy’n cael ei chreu, er enghraifft mewn maes addysg.

Mae fy llysferch i’n mynychu academi, ond fe wnaeth y Gymdeithas Rhieni cynnal tri digwyddiad codi arian mewn un diwrnod, gan gynnwys gwerthu hufen iâ i blant wrth gatiau’r ysgol. Rydyn ni’n gwybod trwy waith Jamie Oliver (er ei fod e’n git beirniadol) bod diet gwael yn effeithio profiad addysgol ein plant a’i lles ehangach. Felly mae’r ffocws ar arian dros les yn arwain ato ganlyniadau negyddol anfwriadol.

Mae Marcsiaeth wedi bod allan o ffasiwn ers amser maith, ond mae damcaniaethau Marx yn cynnig safbwynt gwahanol ar werth. Edrychodd Marx ar greu gwerth dros ben, ac roedd ei ddadansoddiad yn canolbwyntio ar osgoi cam-fanteisio. Mae hyn yn symud ein sgwrs o bris, i werth, i werthoedd.

Os edrychwn ar yr economi o safbwynt clasurol, yna gwyddom y gellir gweld gwasanaethau cyhoeddus yn llafur annymunol gan nad ydynt yn cyfrannu’n uniongyrchol at dwf economaidd. Ond eto bydd pobl ar draws y sector dielw yn gallu adrodd y gwir wahaniaeth a wnânt i fywydau pobl.

Felly beth mae hyn yn ei olygu i ni? Mae rhaid i ni newid ein syniad o beth mae llwyddiant yn edrych fel. Rydyn ni gyd yn wynebu cyfyngiadau o fewn ein sefydliadau, ond mae diffinio’n gwaith yn ôl rhain yn golygu mai’r cyfyngiadau yma yw’r dangosyddion go iawn o lwyddiant. Rydw i wedi edrych ar hyn mewn flogbost blaenorol ar pam ni ddylai cyd-gynhyrchu cael ei ddefnyddio fel modd o safio arian. Fel y dywedais yn gynharach pan edrychais ar alw sy’n deillio o fethiant, mae ateb aneffeithiol rhad yn cynhyrchu gwastraff. Mae’r cyd-destun wrth i ni geisio safio arian yn allweddol. Beth yw’r broblem go iawn sydd angen datrys? Y dangosydd go iawn o werth yw’r gwelliant ym mywydau pobl.