Gwneud newidiadau mawr

Kelly a fi yn Nyfnaint (Budleigh Salterton i fod yn fanwl gywir)

Cyhoeddais blogbost ddoe ar blog y Gyfnewidfa Arfer Da i rannu fy mod i’n symud i Ddyfnaint i weithio i Research in Practice. Roedd e’n teimlo’n dda i rannu’r newyddion gyda’r byd ehangach, ond roedd e hefyd yn teimlo fel hanner stori, gan fod y rhesymeg dros wneud penderfyniad mor fawr yn un personol.

Dros flwyddyn yn ôl fe wnes i gyfarfod â chariad fy mywyd yn LocalGovCamp, sef anghynhadledd i bobl sy’n gweithio mewn (neu gyda, neu sydd â diddordeb mewn) llywodraeth leol. Doeddwn i heb gynllunio ar gyfer hyn pryd wnes i dal y trên 05:30 o Gaerdydd, ond cymerodd Kelly fy anadl i ffwrdd — mae hi’n hynod o glyfar, doniol a phrydferth. Cwympais mewn cariad â hi’n syth, ond wnaeth e gymryd ychydig o wythnosau i mi i gael fy mhen i o amgylch beth yn union oedd jyst wedi digwydd. Cafodd popeth ei gymhlethu gan fod hi’n byw yng Nghaerwysg.

Mae’n bythefnos nawr nes rwy’n symud i Gaerwysg, ac rydw i’n mynd i flogio amdano bopeth, jyst fel ar ôl anghynhadledd.

Profi, prototeipio, iteru

Roeddwn i wedi bod yn mynd mas gyda Kelly am chwe mis pan es i ar siwrne fawr i Ogledd Cymru gyda fy ffrind a fy nghydweithiwr Ena ar gyfer priodas aelod arall o’r tîm, Bethan. Roedd e’n ddiwrnod hyfryd, ac fe wnaeth y daith pedair awr rhoi cyfle da i ni sgwrsio. Doeddwn i ddim yn gallu gweld ffordd ganolig rhwng byw a gweithio yng Nghaerdydd a rhoi’r gorau i fy swydd a symud i Gaerwysg. Fe wnaeth Ena agor fy llygaid i’r posibilrwydd o weithio o gartref am ddau ddiwrnod yr wythnos yn Ne Orllewin Lloegr. Roedd hyn yn golygu y gallem weld a allem fyw gyda’n gilydd heb gymryd y cam enfawr o symud i Ddyfnaint. Mae cymryd y cam nesaf mewn perthynas wastad yn beryglus, ond nawr roeddwn i’n gallu rheoli’r risg a rhoi’r cyfle gorau i’n berthynas i lwyddo. Byddai’n ddiolchgar i Ena am weddill fy mywyd am y sgwrs honno, ac i Swyddfa Archwilio Cymru am fod mor hyblyg.

Byddwch yn feiddgar, ac yn ddewr

Mae gweithio i Swyddfa Archwilio Cymru wedi golygu fy mod i wedi gorfod fod yn ddiduedd ac yn niwtral yn wleidyddol, sydd wedi bod yn anodd ar adegau. Ond mae fe hefyd wedi golygu bod rhaid i mi fod yn ddewr. Ers ymuno â’r Gyfnewidfa Arfer Da mae fy nghydweithwyr wedi dweud wrtho fi i “ofyn am faddeuant, nid am ganiatâd”. Mae Janet Hughes wedi ysgrifennu blogbost anhygoel am feiddgarwch fel gwerth yn y gwasanaeth sifil. Rydw i wedi meithrin y meddylfryd yma yn fy mywyd gwaith, ac mae hyn wedi ffeindio’i ffordd i mewn i fy mywyd personol.

“fear isn’t always an accurate measure of danger, and that after trepidation there often comes great relief and reward.”

Fe wnaeth e gymryd mwy o amser nag y dylai fe wedi i mi symud o Aberystwyth i Gaerdydd pum mlynedd yn ol. Doeddwn i ddim yn teimlo’n arbennig o ddewr am adael fy nghartref, teulu a ffrindiau yng Ngorllewin Cymru. Roeddwn i’n teimlo’n ansicr iawn i ddweud y gwir. Ond gadael oedd y peth iawn i’w wneud. Ar ôl gwneud hynny, rwy’n teimlo’n fwy parod i symud y tro yma. Ie, mae’n newid mawr, ond trwy fod yn feiddgar rwy’n gallu ffeindio allan os allwn wneud i’r berthynas yma i weithio. Ac mae hynny’n hynod o gyffrous.

Mae popeth amdano bwrpas

Mae gweithio o gartref yn Nyfnaint wedi fy ngalluogi i edrych yn fanwl ar beth rwy’n gwneud ar gyfer fy mywoliaeth a pam rwy’n gwneud y gwaith rwy’n gwneud. Ysgrifennais blogbost sbel yn ôl am reoli amser a chydbwysedd bywyd a gwaith. Dyma beth wnes i ddweud:

“Os ydych chi’n edrych i fod yn fwy effeithlon er mwyn gwneud gwaith diddiwedd, yna mae’n debyg na fyddwch yn osgoi’r straen rydych chi’n ceisio osgoi. Ond os ydych chi’n edrych i gydbwyso’ch bywyd yn well, mae’n gallu’ch helpu chi i sicrhau eich bod chi’n canolbwyntio ar ble mae gan eich gwaith y gwerth mwyaf. Mae’r dull yma wedi gwneud fy ngwaith yn fwy boddhaol, ac mae fe wedi fy ngalluogi i i ganolbwyntio ar fy mywyd personol a gwneud mwy o’r pethau sy’n bwysig i mi.”
Y ferch fwyaf cŵl yn y byd?

Pum mis lawr y lein, ac rydw i wedi bod yn meddwl am bwrpas fy ngwaith a sut mae’n ffitio i mewn i fy mywyd. Rwy’n gweithio’n galed i wneud bywydau pobl yn well — mae hynny wedi bod yn ffocws i mi ers i mi ddechrau fy swydd gyntaf yng Nghyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn ôl yn 2005. Ond rydw i hefyd yn gwybod fy mod i’n gweithio i fyw, a dydw i ddim yn barod i wneud yr aberth anhygoel a wnaeth fy nhad pan oeddwn i’n tyfu i fyny, er bod yr aberth hynny wedi rhoi cymaint o gyfleoedd mewn bywyd i mi. Mae bod yn llystad wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod i byth eisiau gweithio ar ddydd Nadolig fel fy nhad i, ac mai’r defnydd gorau o’ch amser yw i’w wario fe gyda’r bobl chi’n caru. Rwy’n teimlo bod fy mhwrpas gwaith wedi’i sortio; nawr rwy’n teimlo fel bod pwrpas fy mywyd i wedi’i sortio hefyd.