Hierarchaeth o wybodaeth: Pam dydyn ni ddim yn rhoi beth ni’n dysgu ar waith

Does dim syniad gyda fi am y swm y mae sefydliadau’n gwario ar ddysgu a datblygu, ond mae rhaid bod e’n swm sylweddol. Ond faint o’r dysgu yma sy’n cael ei roi ar waith?

Rydw i wedi dysgu siwd gymaint wrth symud i mewn i’r maes ymchwil. Rydw i wedi dod ar draws lot o lenyddiaeth academaidd sydd wedi gwneud i mi edrych ar fy mhrofiadau ychydig yn wahanol. Mae fy nghefndir mewn ymgysylltu wedi golygu fy mod i’n credu’n gryf y dylem gynnwys pobl wrth gynllunio a darparu gwasanaethau. Rydw i wedi gweld beth sy’n digwydd pan mae dinasyddion yn cael ei weld fel derbynwyr goddefol o wasanaeth cyhoeddus — maen nhw’n cyrchu gwasanaethau “un maint i bawb” sy’n cyd-fynd â gweledigaeth y gwasanaeth cyhoeddus ei hun.

Byddwn i byth wedi meddwl byddai’r un model hierarchaidd yma’n berthnasol i’r modd mae gwasanaethau cyhoeddus eu hunain yn dysgu a datblygu. Ond disgwylir i’r mynychwyr mynd i’r afael â’r wybodaeth, mynd mas a’i weithredu yn yr union yr un modd.

Felly os ydym am roi gwybodaeth gymhleth fel ymchwil ar waith wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus, ni fydd y model yma’n gweithio. Fe wnaeth Dez Holmes rhannu Camsyniad y Biblinell (neu “Fallacy of the Pipeline”) gyda mi, sy’n edrych ar pam nad yw lot o ymchwil yn bwydo mewn i waith ar y rheng flaen.

Hierarchaeth

Mae fy mlogbostau i ers dechrau gyda Research in Practice a Research in Practice for Adults wedi cyffwrdd ag hierarchaeth. Roedd y rhain yn edrych ar rwydweithiau ffurfiol o fewn sefydliadau, ond mae Camsyniad y Biblinell hefyd yn dangos effaith hierarchaeth o ran arbenigedd rhwng sefydliadau.

“The blame for gaps between science and practice falls variously on the stubbornness of the practitioners insisting on doing it their way, their hubris in believing they know their patients best and the smugness of scientists believing that if they publish it, practitioners will use it. None of these characterizations of the culprits is entirely fair, but they and yet others share in the blame.”

Mae’r agwedd hon hefyd yn adleisio sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio â phobl a chymunedau. Rydw i wedi clywed cymaint o sefydliadau’n dweud bod “rhaid i gymunedau sylweddoli nad oes digon o arian i fynd o gwmpas, felly mae rhaid iddynt wneud mwy ar gyfer eu hunain.” Y broblem yw bod sefydliadau’n aml eisiau cael eu cacen a’i fwyta. Maent am gadw pŵer a rheolaeth tra bod cymunedau’n darparu gwasanaethau ar eu cyfer. Mae hyn yn hynod o glir pan mae cyd-gynhyrchu yn cael ei gamddefnyddio — mae cymunedau’n cael problemau’r sefydliad i’w datrys.

Felly sut allwn ni symud y tu hwnt i strwythurau hierarchaidd? Mae lot o enghreifftiau defnyddiol o sefydliadau sydd wedi rhoi’r gorau i hierarchaidd yn y blogbost yma gan Paul Taylor — mae defnydd Zappos o holocratiaeth yn hynod o ddiddorol. Dylai gwasanaethau cyhoeddus weithio fel rhan o rwydweithiau o fewn cymunedau, yn hytrach nag edrych i lawr arnynt. Mae’r erthygl yma o’r Harvard Business Review yn edrych ar sut mae sefydliad rhwydweithiol yn edrych, ac mae’n disgrifio hefyd sut y gallem weithio gyda chymunedau:

“I am talking about a whole new system that is much bigger, more powerful and involves far more people. Over the past few years, I’ve started to see many high-performing organizations use a network-like structure outside their traditional hierarchy to lead change, and with great results.”

Fe wnaeth Esko Reinikainen cyflwyno cysyniad Amy C. Edmondson o Dîmio i mi yn yr Ŵyl Tai (ac rydw i wedi’i blogio amdano ar gyfer Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru), sy’n ymwneud â nodi sut all pobl weithio’n hyblyg er mwyn rheoli rhyngddibyniaethau cymhleth. Un o’r pethau rwy’n rili hoffi amdano’r cysyniad yw bod Edmondson yn rhoi empathi wrth wraidd ei methodoleg, tra bod hierarchaeth yn rhoi bwlch rhwng pobl a chanlyniadau eu penderfyniadau.

Methiant

Nid tîmio yw’r unig fodel defnyddiol y mae Edmondson wedi’i ddyfeisio. Fe wnes i ddod ar draws ei Sbectrwm o Fethiant sy’n Haeddu Bai yn fy swydd flaenorol, ac mae’n arbennig o ddefnyddiol yng nghyd-destun y papur hwn.

“The attrition of some 17% of original research that never gets submitted, usually because the investigator assumed negative results were unpublishable, is particularly disturbing from the standpoint of what practitioners might consider most helpful in their attempts to adapt guidelines for patient or community interventions to their practice circumstances. Negative results of interventions are of interest because they often tell the practitioner about the intervention’s misfit with patients or conditions other than those in which the original research leading to guidelines was conducted.”

Trwy fethu â rhannu methiant, mae’n fwy tebygol y byddwn yn ailadrodd y camgymeriadau hynny. Yn ystod fy nyddiau cyntaf yn fy swydd newydd, dywedwyd wrthyf fod rhaid rhannu camgymeriadau ac i osgoi “green shifting”. Rwy’n ddigon ffodus i fod yn gweithio mewn sefydliad sy’n agored i ddysgu sy’n deillio o fethiant, ond os ydych chi’n ddigon anlwcus i fod yn gweithio mewn sefydliad sy’n dyrannu bai ar gyfer gamgymeriadau sydd ddim yn gallu cael eu hosgoi, rydych chi’n annhebygol o allu cymryd y risgiau sy’n ofynnol er mwyn arloesi.

Data ansoddol

Mae cam nesaf y model piblinell yn taro cloch i mi o ran pa mor anodd mae fe i’r cyhoedd cyfathrebu â gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n adlewyrchu Camsyniad y Biblinell, gan ein bod ni’n cyfyngu ar y llif gwybodaeth i sefydliadau.

“The studies that would fail to survive this leg of the journey will increase because randomized methods are more likely to face ethical and logistical challenges.”

Mae’r blogbost yma gan Dan Slee yn amlinellu materion tebyg, gan fod sefydliadau’n anwybyddu dysgu defnyddiol achos nid ydy’n dod mewn ffurf ddelfrydol iddynt. Mae’r enghraifft lle mae cyngor yn gwrthod derbyn sylwadau ar ymgynghoriad trwy gyfryngau cymdeithasol yn achos da o sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn gallu gweithio i’w gofynion eu hunain yn hytrach na’r hyn sy’n gweithio i gymunedau.

Camsyniad y gynhwysydd o gwthio gwybodaeth i’r ymarferydd

“The recipient is full of prior knowledge, attitudes, beliefs, values and, above all, contextual constraints at any given point in practice time. Each of these influences the practitioner’s receptivity to new guidelines, their perception of the guidelines’ utility and their eventual use of them.”

Nid ydym yn llechen lân. Mae beth ni’n dysgu yn dibynnu ar ein credoau a’n profiadau. Mae Rhagfarn Cadarnhad yn golygu ein bod ni’n hoffi syniadau sy’n cadarnhau ein credoau presennol, ac achos Rhagfarn Rhagamcanol rydym yn tueddu i feddwl bydd canlyniadau ein dewisiadau cyfredol yn gweithio mas yn yr un ffordd yn y dyfodol.

Mae’n bron yn amhosibl cofio pob rhagfarn, ond yn ffodus fe wnaeth Helen Reynolds a Ben Proctor rhannu’r erthygl dda yma ar Fias Gwybyddol pan wnes i gymryd rhan ym mhodlediad Natteron. Mae’n ddogfen ddefnyddiol iawn sy’n gallu’ch helpu chi i checio’ch tybiaethau a’r cymhellion sydd y tu ôl i’ch gweithredoedd.

Ymchwil gyfranogol, rhwydweithiau ymchwil, a gwella ansawdd parhaus

“The most promising lines of remedy have been in bringing the research (or even better, producing the research) closer to the actual circumstances of practice….. The promise inherent in these is that the research results are made more relevant, more actionable, more tailored, more particular to their patients or populations and to their circumstances of practice and with more immediate feedback to the practitioners themselves. The promise of this ‘pull’ approach has led to the suggestion that if we want more evidence-based practice, we need more practice-based evidence.”

Mae hyn yn dangos y gwerth o fod yn rhan o, neu o leiaf fod yn agos ato newid. Pan rannais waith yr Athro Roz Searle ar ymddiriedaeth yn Bara Brith Camp, y rhan wnaeth wir daro cloch oedd bod sefydliadau mwy yn fwy tebygol o gael lefelau is o ymddiriedaeth. Mae hyn achos bod mwy o hierarchaeth yn golygu bod gweithredoedd cadarnhaol y bobl sydd ar frig y sefydliad yn cael eu gwanhau. I mi, dyma pam rydym yn parhau i fethu â gweithredu newid cadarnhaol o fewn cymunedau — rydym yn rhy bell ohonynt, ac yn aml nid oes gan y cyhoedd lot o ffydd ynddo ni. I brofi bod hyn yn fwy na barn bersonol, cewch gipolwg ar y Baromedr Edelman ar gyfer 2017, sy’n datgelu’r cwymp mwyaf erioed mewn faint mae’r cyhoedd yn ymddiried mewn sefydliadau’r llywodraeth a sefydliadau anllywodraethol.

Cymhellion a chosbau er mwyn ysgogi ymarferydd i dynnu

“What practitioners in clinical, community and policy making roles crave, it appears, is more evidence from practices or populations like their own, more evidence based in real time, real jurisdictions, typical patients, without all the screening and control and with staff like their own. The ideal setting in which to conduct such studies would be their own, which takes us back to the participatory research strategy.”

Rwy’n meddwl bod gan Research in Practice rôl hynod o ddiddorol yma, gan ein bod ni’n ddolenni ymchwil academaidd a gwasanaethau cyhoeddus. Gall ein gwaith helpu i rannu ac i roi gwybodaeth ymchwil ar waith wrth ddarparu gwasanaethau.

Rydw i hefyd yn rili hoffi’r syniad o ddarparu tystiolaeth mewn amser real. Mae’r papur yn nodi bod “yna ddatganiad brawychus a dyfynnir yn aml am yr athreuliad yn y biblinell a’r gap rhwng ymchwil ac arfer, sef ei fod yn ‘cymryd 17 mlynedd i droi 14 y cant o’r ymchwil wreiddiol fel ei fod er budd gofal gleifion.’” Mae hwn yn swnio’n afreal i mi yn y byd digidol sydd ohoni. Wrth gwrs, mae’r rhan fwyaf o hyn yn gysylltiedig ag arfer, ond mae yna broblemau sy’n ymwneud â rhannu data hefyd. Mae ymchwil yn aml yn cael ei gyhoeddi y tu ôl i waliau talu neu’n cael ei reoli gan arianwyr. Ond ydyn ni’n gwneud cymaint ag y gallem? Fe wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru rhyddhau ein set ddata gyntaf gyda thrwydded llywodraeth agored, a defnyddiom Power BI i arddangos data mewn amser real. Mae yna rhai adnoddau ar-lein da y gellir rhoi ar waith ym maes ymchwil, gan gynnwys adnoddau Creative Commons ar Wyddoniaeth Agored, a darn gwych gan Gymdeithas Cyhoeddwyr Mynediad Agored Anrhydeddus ar fanteision Creative Commons.

Cael mwy o sylw i ddilysrwydd allanol ym mhroses adolygiad cymheiriaid a pholisïau golygyddol o gylchgronau

“One might reasonably conclude that science will always have a gap to bridge to reach practice as long as it is generated in academic circumstances that put such a high premium on scientific control for internal validity that it squeezes out the needed attention to external validity.”

Mae hyn yn cysylltu yn ôl â’m blogbost flaenorol ar gymhlethdod, gan nad yw gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu mewn amodau labordy. Yn hytrach nag esgus y gallwn roi ymchwil ar waith mewn amgylcheddau delfrydol sydd o dan reolaeth, mae rhaid i ni ystyried cymhlethdod yr amgylchedd ni’n gweithio mewn ac i feddwl yn feirniadol am sut y gellir rhoi’r wybodaeth honno ar waith. Yr unig ffordd all hyn digwydd yw os all staff gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau cael y pŵer a’r cyfle i ddadansoddi eu hamgylchedd eu hunain. Mae hyn yn golygu bod rhaid i ni gyd rhyddhau ein gafael ar bopeth. Ydyn ni’n ddigon dewr i wneud hynny?