Dyfrig Williams
Mar 13, 2018 · 5 min read

Rydw i wedi bod yn recordio podlediadau ar risgiau, hawliau a rôl y wladwriaeth, sef pwnc ein Fforwm Arweinwyr. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i allu gwrando ar academyddion sy’n arweinwyr yn eu maes ac rydw i wedi bod yn dysgu am faterion allweddol sy’n effeithio ar waith cymdeithasol.

Rwy’n ddigon parod i ddweud mai’r arbenigwyr sydd yn y safle gorau i allu cynnig cyngor am y rhan fwyaf o bethau a gafodd ei drafod. Ond roeddwn i’n teimlo bod gen i rywbeth i gynnig pan wnaethon ni ddechrau trafod y defnydd o algorithmau.

Pan weithiais i Swyddfa Archwilio Cymru edrychais ar sut y gallem wella ein defnydd o ddata a thechnoleg. Does yna ddim amheuaeth, gall data helpu ni i gael dealltwriaeth well. Ac mae’n amlwg i bawb nad yw gwasanaethau cyhoeddus yn manteisio i’r eithaf ar y data sydd ar gael.

Fodd bynnag, mae’n amlwg bod rhai sefydliadau yn gweld data a thechnoleg fel yr ateb i’w holl broblemau, ond nad ydynt wedi newid y sylfaen oddi tano. Mae’n amlwg mai data yw’r fwled arian ddiweddaraf, ac rwy’n awgrymu eich bod chi’n darllen blogbost Chris Bolton ar y syndrom bwled arian i ddeall pam mae hynny’n broblem. Mae’n amhosib gwneud y fwyaf o ddata heb newid y meddylfryd sy’n sail i ddefnydd effeithiol ohono. Rhaid inni hefyd sicrhau ein bod yn holi’n effeithiol y data hwnnw. Achos…

Dyw data ddim yn niwtral

Mae pobl yn agored i 175 o ragfarn wahanol. Mae’n gwneud synnwyr i feddwl y gallwn ni gael gwared ar ragfarn trwy wneud defnydd o dystiolaeth oer a chaled.

Ond rhaid defnyddio data o’r gorffennol i greu algorithm, sydd yn ei dro yn gallu cynnwys rhagfarn. Rwy’n ddigon ffodus i weithio ochr yn ochr ag Oli Preston, ein harbenigwr gwerthuso. Mae fe wedi bod yn esbonio rhagfarn i mi wrth i ni fynd ati i geisio gwella’r gwerthusiad o’n digwyddiadau. Mae’r cwestiynau ni’n gofyn yn gallu annog pobl i ateb mewn ffordd benodol, ac felly mae’r tuedd yma yn cael ei ymgorffori yn y penderfyniadau a wnawn.

Nid yw algorithmau’n niwtral

Mae algorithmau yn cael eu dylunio gan bobl, ac felly mae ein diffygion cynhenid ynddynt. Ffeindiwyd bod rhai algorithmau yn hiliol gan fod meddalwedd yn cael trafferth adnabod wynebau du achos maen nhw wedi cael eu dylunio gan bobl wyn. Felly gall dibynnu ar yr algorithmau yma achosi problemau mawr os nad ydyn nhw’n ystyried y cyd-destun maen nhw’n gweithio ynddynt, a gallan nhw wrthgyferbynnu gyda hawliau dynol a chyfiawnder cymdeithasol, sy’n werthoedd craidd yng ngwaith cymdeithasol. Fel y dywed Cathy O’Neil,

“Algorithms are opinions embedded in code….. They (people) think that algorithms are objective and true and scientific. That’s a marketing trick. It’s also a marketing trick to intimidate you with algorithms. To make you trust and fear algorithms because you trust and fear mathematics. A lot can go wrong when you put complete faith in big data.”

Mae gennym ddata. Beth nesaf?

Mae fe’n bwysig i feddwl amdano sut ni’n defnyddio’r wybodaeth a gasglwn. Rhaid cymryd gofal penodol gyda data mawr. Mae’n gallu fod yn hynod o ddefnyddiol os ydych chi’n dod â data poblogaeth gyfan at ei gilydd. Ond os ydyn ni’n dod â’r data hwnnw at ei gilydd ar gyfer un weithred sy’n effeithio ar nifer fawr o bobl, yna rydym wedi methu’r pwynt.

Rydym yn gweithio mewn amgylcheddau cymhleth, ac mae gwneud penderfyniadau am beth sydd angen ar unigolion ar sail anghenion y boblogaeth gyfan yn golygu y gall darlun cyffredinol edrych yn wahanol iawn i realiti bywydau ddydd i ddydd rhywun.

Pwy sydd gyda’r pŵer?

Pan weithiais ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd, roedd e’n amlwg i mi fod methodoleg newid ymddygiad jyst mor berthnasol i sefydliadau ag unigolion. Mae Fframwaith EAST y Tîm Mewnwelediadau Ymddygiad yn fethodoleg ddefnyddiol os ydych am fynd i’r afael gyda thuedd a newid ymddygiad, a’r llythrennau cyntaf a’r olaf sy’n bwysig yma — rydym yn gwneud beth sy’n hawdd ac sy’n amserol.

Mae’n lot haws ac yn gyflymach i ddylunio gwasanaethau heb gynnwys pobl. Fel y soniais yn y blogbost yma ar gyfer y Gyfnewidfa Arfer Da, ymgynghoriad yw’r dull ymgysylltu rhagosodedig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus achos mae’n gymaint haws i ofyn i bobl cymeradwyo ein syniadau yn lle cyd-ddylunio a chyd-gynhyrchu atebion.

Mae data yn aml yn cael ei gamddefnyddio mewn gwasanaethau cyhoeddus. Nid yw’n cael ei ddefnyddio i dynnu casgliadau, y data yw’r casgliad. Yn aml mae gwasanaethau yn defnyddio data ac algorithmau i wneud penderfyniadau ac osgoi’r broses o siarad gyda phobl a deall beth sy’n bwysig iddynt. Yn draddodiadol, dyw gwasanaethau cyhoeddus ddim wedi canolbwyntio ar ganlyniadau, rydym wedi tueddu i fesur beth sy’n hawdd ei fesur. Rydym yn tueddu i ganolbwyntio ar ddata meintiol dros ddata ansoddol gan ei fod e’n lot haws i’w ddadansoddi. Dyma un o’r rhesymau pan wnes i ffeindio’r defnydd o Sensemaker gan Swyddfa Archwilio Cymru mor ddiddorol wrth i ni ei ddefnyddio i archwilio chwant risg gwasanaethau cyhoeddus.

Dyna pam y mae delweddu data mor bwysig, gan ei fod yn gallu democrateiddio data a’i wneud yn haws i’w ddeall er mwyn mynd i’r afael â hi. Ond rhaid i ni hefyd fod yn ofalus am sut ni’n rhannu ein data — mae yna lot o enghreifftiau yn y byd ehangach ble mae siartiau a graffiau wedi cael eu camddefnyddio wrth rannu rhai safbwyntiau a negeseuon.

Rhaid i mi fod yn glir a dweud nad ydw i’n awgrymu bod y defnydd o ddata yn beth drwg. Rydw i jyst yn meddwl na ddylwn ni ddefnyddio data i barhau â busnes fel arfer. Rhaid ei ddefnyddio er mwyn canolbwyntio ar bobl, nid ar anghenion ein sefydliadau. Nid yw data yn gwneud sefydliad gwael yn un da ynddo’i hun.

I mi, mae popeth yn dod yn ôl i bŵer a phwy sydd ganddi. Ydyn ni’n defnyddio data i wneud penderfyniadau dros bobl? Neu ydyn ni’n ceisio casglu tystiolaeth amdano sut y gallwn ni weithio gyda phobl i wella eu bywydau?

Dylai ein moeseg fel gwasanaethau cyhoeddus fod yn ganolog i’r ffordd ni’n defnyddio data. Ydy ein defnydd o ddata yn galluogi pobl i fod yn fwy annibynnol ac i wneud dewisiadau eu hunain? Neu ydy’r defnydd yma yn rhoi pobl mewn safle ble maen nhw’n ddeiliaid ac mae ein sefydliadau ni yn arwyr? Rhaid bod yn glir nad diben ein mudiadau yw’r gwaith ynddo’i hun. Rhaid i ni edrych arno a deall beth mae bywyd da yn edrych fel i bobl.

Achos dyw data ddim yn bwrpas.

Gwneud pethau gwell

Dysgu sut all gwasanaethau cyhoeddus gwneud pethau gwell

Dyfrig Williams

Written by

Cymraeg! Music fan. Cyclist. Scarlet. Work for @researchip @ripfa . Views mine / Barn fi.

Gwneud pethau gwell

Dysgu sut all gwasanaethau cyhoeddus gwneud pethau gwell

Welcome to a place where words matter. On Medium, smart voices and original ideas take center stage - with no ads in sight. Watch
Follow all the topics you care about, and we’ll deliver the best stories for you to your homepage and inbox. Explore
Get unlimited access to the best stories on Medium — and support writers while you’re at it. Just $5/month. Upgrade