Pam dylai mudiadau annog eu staff i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol

Cyn dechreuais i gweithio i Gyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru, roeddwn i’n cadw trydar gwaith ar wahân i drydar personol.

Roeddwn i wastad yn teimlo roedd yna bosibilrwydd byddwn i’n dod â gwarth ar fy nghydweithwyr trwy drydar rhywbeth amhriodol. Ond ar ôl i mi fod yn ddigon ffodus i dderbyn y swydd yma, fe wnes i sylweddoli roeddwn i’n debygol o golli cysylltiadau achos doedd dim cyfrif Twitter gan y prosiect ar y pryd (ond mae ‘na un nawr). Penderfynais i i gymysgu busnes gyda phleser.

Pan weithiais i yn WCVA, roeddwn i’n edmygu sut roedd fy nghydweithiwr i Michelle Matheron yn llwyddo i drydar am wleidyddiaeth Cymru i’r trydydd sector a (yn ei geiriau hi) “girlie nonsense”. Ond mae’r “girlie nonsense” mae hi’n trydar yn rhoi cyd-destun i’w gwaith . Fe wnaeth hyn hefyd dangos i mi mai nid swydd yn unig oedd gweithio ar gwleidyddiaeth Cymraeg i Michelle, ond yn hytrach roedd e’n ddiddordeb. Mae ei thrydar anffurfiol yn galluogi hi i gyrraedd pobl gwahanol, ac mae’n atgoffa fi fy mod i’n gallu ymgysylltu â hi yn uniongyrchol.

Ar yr adeg yma doeddwn i ddim yn siwr os oeddwn i’n gallu fod yn bersonol mewn cyd-destun proffesiynol neu os oeddwn i’n gallu gwneud y gwrthwyneb, ond ers cymryd y cam ‘ma rwy’n falch fy mod i wedi gwneud hynny. Does ‘da fi ddim cefndir archwilio o gwbl, felly mae ‘da fi lot i ddysgu. Mae Twitter wedi rhoi’r cyfle i mi ddysgu mwy am beth mae staff Swyddfa Archwilio Cymru yn gwneud, ac mae fe hefyd wedi rhoi’r cyfle i mi ddod i nabod nhw fel unigolion. Mae’n werth dilyn lot o bobl yn y Swyddfa, ond er mwyn rhoi dwy enghraifft i chi, mae’n werth dilyn Huw Lloyd-Jones, sydd wedi tynnu sylw at arferion trydar da mewn llywodraeth leol yng Ngogledd Cymru, a Mike Palmer, achos mae ei frwdfrydedd e ar gyfer datblygu cynaliadwy yn glir o’i drydar.

Mae cyfryngau cymdeithasol hefyd yn rhoi’r cyfle i ni ddatblygu perthnasau ag eraill, sy’n codi posibiliadau cyffrous ar gyfer sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn ymwneud â phobl.

Rydyn ni mewn sefyllfa well i wybod beth trydar effeithiol yn edrych fel i ddinasyddion os ydym ar gyfryngau cymdeithasol yn bersonol. Y peth gwych yw bod llawer o wasanaethau cyhoeddus yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn modd personol, cyfeillgar a defnyddiol yn barod. Mae mudiadau fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn rhyngweithio yn gyflym, yn effeithlon ac yn y cyfrwng mae’r unigolyn yn dewis (Twitter yn yr achos ‘ma).

Mae fe’n glir dyw mudiadau ddim yn gallu parhau i weithio yn yr un ffordd ag oeddent cyn cyfryngau cymdeithasol. Mae’n amlwg bod y ffordd mae pobl yn cael gafael ar wybodaeth wedi newid, yn ogystal â’r ffordd maen nhw’n cyfathrebu. Mae’r blog gwych yma o Comms 2.0 yn amlinellu pam mae angen newid — gan fod pobl eisiau clywed oddi wrthym mewn iaith maen nhw’n deall, mewn iaith maen nhw’n defnyddio’n bersonol, lle mae’n glir mai pobl sy’n cynnal gwasanaethau cyhoeddus hefyd.

Mae defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn bersonol yn ffordd wych o fynd i’r afael â’r hyn a ddisgwylir o fudiad. Ond yn fwy na hynny, drwy ddefnyddio nhw fel unigolion, ni’n rhoi gwybod i bobl sut mae mudiadau ni’n gweithio, sut ni’n cyrraedd y penderfyniadau ni’n gwneud a pham. Fel mae Tim Lloyd yn dweud yn y blog yma ar gyfer Adran Busnes a Sgiliau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, “mae wyneb, enw a gwybodaeth ddofn o faes polisi penodol, yn llawer mwy deniadol i’n cynulleidfaoedd na datganiadau dienw o gyfrif corfforaethol”. Sa i’n siŵr os yw hwn yn wir am bawb, ond mae hwn yn bendant yn wir yn bersonol, achos rwy’n dilyn lot mwy o bobl na mudiadau.

Cafodd y blogbost yma ei gyhoeddi’n wreiddiol ar flog Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru.