Dyfrig Williams
Apr 24, 2018 · 3 min read

Rydym wedi penderfynu i roi’r gorau i’n gyfarfodydd tîm wythnosol yn ddiweddar, o leiaf fel digwyddiad wythnosol rheolaidd.

Roedd y cyfarfodydd yma’n eithaf defnyddiol i ddechrau. Roeddwn i’n newydd i’r sefydliad ac roedd e’n anodd iawn gwybod beth oedd wythnos waith fy nghydweithwyr yn edrych fel. Roedd y gyfarfodydd hefyd yn ffordd ddefnyddiol o hybu cyfathrebu ynghylch ein llwythi gwaith.

Ar ôl trafodaeth ddiweddar, wnaethon ni penderfynu doedden nhw ddim yn ddefnyddiol bellach, ac mae yna sawl erthygl ar-lein yn awgrymu bod hyn yn wir i lawer o sefydliadau (gan gynnwyr yr un arbennig yma gan Jason Fried o Basecamp). Yn waeth na hynny, roedd e’n teimlo fel bod y gyfarfodydd yma’n rhwystro ein hymdrechion i wella sut ni’n gweithio gyda’n gilydd.

Roedd ein diwrnod tîm ddiweddar yn ymgais i ddod â’n syniadau ni at ein gilydd, ond roedd y cyfarfodydd yma’n gwneud y gwrthwyneb. Trafodom sut byddai tîm da yn edrych yn ein diwrnod tîm, ond yn ein cyfarfodydd wythnosol fe fyddwn i’n amlinellu ein gwaith fel unigolion. Drwy ddod â rhestrau o dasgau i’n gyfarfodydd, roeddem yn rhannu pa mor brysur oedden ni, a thrwy hyn roedden ni’n atgyfnerthu ein rhesymeg o weithio ar dasgau unigol yn lle cefnogi’n cydweithwyr yn ein gwaith. Roeddem yn canolbwyntio ar dasgau yn lle ble allwn ni ychwanegu gwerth.

Mae diwylliant yn air sy’n cael ei ddefnyddio lot mewn gwasanaethau cyhoeddus a thu hwnt. Ond fel rydw i wedi dweud (neu ei ddwyn) o’r blaen, diwylliant yw’r ymddygiad ni’n gwobrwyo neu ei gosbi. Roeddwn yn annog y tîm i restru pa mor brysur oedden nhw ac yn cydnabod hynny.

Yna penderfynom siarad am ein gallu a’n capasiti yn ein cyfarfodydd tîm, cyn cymryd ymagwedd hollol wahanol. Bellach mae gennym Blychau Cymorth ar ein bwrdd gwyn lle gallwn rhestru ble yr hoffem gael cymorth, a gallwn mynd ati i gynorthwyo’r person yna pan rydym yn cael cyfle. Rwy’n ymwybodol fy mod gen i’r siawns i wobrwyo ymddygiadau gwahanol nawr, er enghraifft pan mae pobl yn rhannu eu bod nhw’n cael trafferth, sy’n cymryd gyts pryd ni’n gweithio mewn cymdeithas sy’n cosbi methiant (er nad yw hyn o fudd mewn amgylcheddau cymhleth), a hefyd pan rydym yn helpu ein gilydd mas.

Mae Dan Pink wedi dadlau yn ei lyfr Drive: The Truth Sight About What Motives Us, mai’r cymhelliant mwyaf effeithiol yw ymreolaeth, meistrolaeth, a phwrpas. Nawr mae gan bob aelod o’r tîm reolaeth o’u maes gwaith eu hunain, ac mae pawb ysgogi’r gwelliant yma. Drwy rhoi’r gorau i fodelau cymhelliant hen fel yr ofn o gosb, rydym mewn sefyllfa da i wella’n gwaith.

Dydyn ni ddim yn gwybod os fydd hyn yn gweithio i ni eto (amser a ddengys), ond mae hyn yn teimlo’n well. Mae’r gwybodaeth roedden ni’n rhannu ar gael os mae ei angen, mae fe jyst yn meddwl bod rhaid i mi weithio bach yn galetach i’w wneud yn weladwy ac i annog gyfathrebu anffurfiol a chydweithio. Beth bynnag sy’n digwydd, rydym wedi arbed amser y cyfarfod (hanner awr, neu dwy awr pam chi’n meddwl bod hyn yn hanner awr i bedwar aelod o staff), ac os wnawn ni hyn yn iawn, bydd gennym ddull mwy cydweithredol o weithio hefyd.

Gwneud pethau gwell

Dysgu sut all gwasanaethau cyhoeddus gwneud pethau gwell

Dyfrig Williams

Written by

Cymraeg! Music fan. Cyclist. Scarlet. Work for @researchip @ripfa . Views mine / Barn fi.

Gwneud pethau gwell

Dysgu sut all gwasanaethau cyhoeddus gwneud pethau gwell

Welcome to a place where words matter. On Medium, smart voices and original ideas take center stage - with no ads in sight. Watch
Follow all the topics you care about, and we’ll deliver the best stories for you to your homepage and inbox. Explore
Get unlimited access to the best stories on Medium — and support writers while you’re at it. Just $5/month. Upgrade