Rhoi’r “rhwydwaith” mewn rhwydweithiau cymdeithasol

Cyn i mi ddechrau gweithio i Research in Practice a Research in Practice for Adults, awgrymodd Chris Bolton (a.k.a. whatsthepont) i mi edrych ar ‘The New Social Learning: A Guide to Transforming Organizations Through Social Media’ gan Tony Bingham a Marcia Conner. Fe wnaeth y llyfr yma effeithio sut wnaethon ni ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yng Nghyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru, ac mae fe wedi gwneud i mi feddwl am rôl rhwydweithiau ar-lein yn fy swydd newydd. Mae hyn yn eironig gan mai dyma’r rôl gyntaf rydw i wedi cael am 8 mlynedd ble dyw cyfryngau cymdeithasol ddim yn rhan o’m disgrifiad swydd, ond mae’n berthnasol hefyd achos mae Cyfarfod Blynyddol Swyddogion Cyswllt Research in Practice for Adults yn edrych ar ddulliau arloesol o ddysgu a datblygiad gofal cymdeithasol i oedolion. Dilynwch #LOAM17 i weld y drydar o’r digwyddiad.

Dysgu rhwng cyrsiau

Mae’r ffordd draddodiadol rydyn ni’n dysgu yn ymagwedd ffurfiol lle mae dysgwyr yn cael ei weld fel derbynwyr diolchgar. Mae hwn gyda phroblemau os ydym yn meddwl am sut ni’n cymryd perchnogaeth o’r dysgu yna. Mae’r status quo yn ddefnyddiol wrth dysgu prosesau syml sy’n gweithio mewn ffordd achos ac effaith, ond mae gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio mewn amgylchedd cymhleth lle dyw un maint ddim yn addas i bawb.

Fe wnaeth y trydar a’r blogbost yma gan Think Purpose ysgogi mi i feddwl ychydig mwy am y peth…

Nid yw digwyddiadau a gweithgareddau dysgu yn allbynnau yn eu hunain, ond yn rhy aml dyma sut maen nhw’n cael ei weld o fewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn amlwg mewn llefydd ehangach hefyd. Rydyn ni’n dal i gyfrif beth sydd ddim yn bwysig e.e. faint o bobl wnaeth mynychu cwrs, yn hytrach nag os wnaeth unrhyw beth newid o ganlyniad. Ac i fod yn deg, rydyn ni’n gwneud hyn achos dyma beth sy’n hawdd i’w fesur.

Sut ydyn ni’n myfyrio?

Dyma ble rydw i wedi ffeindio gall cyfryngau cymdeithasol ychwanegu gwerth. Ar wahân i LinkedIn. Rwy’n casáu LinkedIn. Mae fe wedi cael ei reoli’n ofalus, jyst rhag ofn eich bod chi’n cael hwyl ac yn dod ar draws rhywbeth diddorol. Ac maen nhw’n anfon cymaint o sbam i chi.

Fel unrhyw offer defnyddiol, rhaid sicrhau nad yw cyfryngau cymdeithasol yn ddiben ynddo’i hun. Os ydyn ni’n defnyddio nhw mewn ffordd effeithiol, mae nhw’n gallu gwneud dysgu a datblygu yn rhan o’ch dydd. Os ydyn ni’n defnyddio nhw mewn ffordd wael, dyw e ddim yn lot mwy na dweud wrth bobl eraill pa mor glyfar ydych chi. Ac yn aml, mae’r platfformau yma yn gwbl ymylol ac yn cael eu hanwybyddu. Mae hyn achos mae natur yr amgylcheddau ni’n gweithio mewn yn golygu bod e’n hawdd gwneud hynny. Mae Leah Lockhart wedi ysgrifennu blogbost wych ar pam mae gweision cyhoeddus yn anwybyddu digidol:

“I’d argue public services nurture these low skills and send people down a spiral of de-skilling with their outdated browsers, outdated operating systems and messy IT infrastructures”

Mae blogbost Think Purpose yn sôn am ragoriaeth fel ymarfer. Mae cyfryngau cymdeithasol weithiau’n cael eu gweld fel pethau negyddol (ac rydw i wedi bod yn brwydro i sicrhau fy mod i’n ei ddefnyddio nhw mewn modd cynhyrchiol), ond maen nhw hefyd yn gallu helpu ni i rannu a chydweithio’n agored fel rhan o’ch bywyd bob dydd. Mae’r rhannu yma yn golygu does yna ddim ffiniau rhwng arbenigwyr a dysgwyr, felly mae’n haws i fynd i’r afael â’r hierarchaeth y mae gwasanaethau cyhoeddus a dysgu a datblygu wedi eu hadeiladu.

Rwy’n ffeindio hyn i gyd yn ddiddorol iawn, ac mae’n rhywbeth y mae Bingham a Conner yn galw yn Mashups yn y llyfr. Rwy’n rili hoffi Mashups Rôl yn benodol achos maen nhw’n hwyluso’r nodweddion y byddai lot o ni’n hoffi gweld yn ein gwasanaethau cyhoeddus — sefydliadau sy’n gweithio gydag eraill, sy’n cysylltu â nhw ac yn datblygu eu blaenoriaethau o’r cymunedau yna:

“Mashups change work’s traditional linear and separate roles into a culture of co-production, co-design, and co-development, mixing responsibilities among everyone involved in a new cyclical process. In the case of the new social learning, it’s not about simply giving people online communities or wikis and getting out of the way. It is about a new iterative and inclusive model where anyone is able to create, use, publish, remix, repurpose, and learn.”

Mae hyfforddiant traddodiadol yn aml yn cynnig atebion i broblemau sydd eisoes wedi’u datrys. Does yna ddim pwynt ail-ddyfeisio’r olwyn, felly dydw i ddim yn dweud does yna ddim rôl o gwbl ar ei gyfer. Mae’n gallu gweithio’n dda ar gyfer dysgu am theori, ond dyw e ddim yn cynnig lot o gyfle i fyfyrio ar ymarfer. Dyma pam mae gweithio’n agored o ddiddordeb i mi, ac mae’n ddiddorol gweld sut mae Neil Tamplin a phobl eraill sy’n gwneud nodiadau wythnosol yn edrych yn ôl dros eu profiadau ac yn eu rhannu nhw gydag eraill. Siaradodd Neil am hyn yn yr Ŵyl Tai:

“If your purpose has something to do with improving the lives of people who need housing then I would argue you are morally obligated to share anything that advances that cause, no matter how small or seemingly insignificant.”

Mae hyn i gyd yn teimlo’n newydd a lletchwith ar hyn o bryd wrth i ni symud o’r meddylfryd confensiynol y mae Paul Taylor yn amlinellu yn ei flogbost ar yr ofn o weithio’n agored. Ond fel mae fy nghyn-gydweithiwr Ena Lloyd yn dweud, rhaid bwrw ymlaen nes eich bod chi’n cael eich dal.

Adeiladoliaeth Cymdeithasol

Fe wnes i ddysgu am Adeiladolaeth Cymdeithasol trwy’r llyfr hefyd. Mae’n theori sy’n disgrifio sut mae pobl yn dysgu gyda’i gilydd. Mae’n amlinellu sut mae pobl yn datblygu eu dealltwriaeth o rywbeth — rydych chi’n ei drafod â phobl eraill, gweld sut mae eu naratif yn gweithio gyda’ch un chi ac o ganlyniad byddwch yn datblygu dealltwriaeth well.

Roedd syniadau ymddygiadol yn golygu bod pobl yn cael eu hystyried yn dderbynwyr goddefol hyd nes y dechreuodd Jean Piaget newid meddwl pobl yn y 50au. Ond os chi’n gofyn i mi, mae lot o’r meddylfryd yna’n dal i fod mewn lle nawr. Arweiniodd gwaith Piaget i’r defnydd o chwarae rôl ac efelychu mewn dysgu. Felly, y tro nesaf rydych chi’n teimlo’n anghysurus mewn cwrs hyfforddi, chi’n gwybod pwy sydd ar fai.

Dysgu ymarferol trwy rwydweithiau

Rydw i wedi gwneud lot o ddefnydd o’m rhwydweithiau dros yr wythnosau diwethaf, o chwilio am hyfforddwyr gofal cymdeithasol sy’n siarad Cymraeg i ddod o hyd i arfer da mewn dysgu ar-lein (diolch yn fawr iawn Noreen Blanluet, Anne Collis a Dave Briggs). Rydw i hefyd yn gobeithio fy mod i’n wirioneddol gymdeithasol a fy mod i’n talu pobl yn ôl trwy helpu a rhannu’r pethau da mae pobl yn gwneud. Rwy’n caru’r syniad o fyd ble mae rhannu a derbyniaeth yn flaenllaw.

Ac i gyfeirio yn ôl ato blogbost Think Purpose, mae siawns well gyda fi i wneud cyfryngau cymdeithasol i weithio i mi os rwy’n canolbwyntio ar beth rydw i eisiau cyflawni yn hytrach na’r cyfrwng. Dyna pam rwy’n cwympo mas o gariad â Facebook — dyw e ddim yn dod â fi’n agosach i bobl. Mae cyfryngau cymdeithasol ar ei orau pan rydyn ni’n meddwl am bwrpas.