Sut allwn ni wneud dysgu a datblygu yn addas i’w bwrpas ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yr 21ain ganrif?

Dyma fy syniad i am sesiwn yn GovCamp Cymru 2017.

Cyflwynais fy sesiwn cyntaf erioed yn y GovCamp Cymru ddiwethaf, lle wnaethon ni edrych ar sut allai theori newid ymddygiad helpu ni i roi syniadau a gynhyrchwyd mewn anghynadleddau ar waith mewn sefydliadau. Cawsom drafodaethau da a wnaeth aros gyda mi wrth i mi geisio mynd i’r afael â newid ymddygiad ar gyfer astudiaeth genedlaethol Swyddfa Archwilio Cymru. Fe wnes i feddwl ar y pryd bod e’n rhyfedd iawn nad oedd yna unrhyw un o’r maes Dysgu a Datblygu yno, yn enwedig gan fod y digwyddiad yn rhoi cyfle unigryw i gael safbwyntiau gwahanol o bobl sy’n gweithio mewn sefydliadau amrywiol.

Mae lot wedi newid ers digwyddiad blwyddyn ddiwethaf — rydw i wedi symud i wlad wahanol ac rydw i wedi gadael Swyddfa Archwilio Cymru i ddechrau swydd newydd fel Cydlynydd Digwyddiadau Dysgu ar gyfer Research in Practice a Research in Practice for Adults. Rydyn ni’n elusen sy’n cefnogi mudiadau i gael gafael arno, deall a rhoi tystiolaeth ar waith mewn gofal cymdeithasol. Felly eleni, rwy’n bwriadu bod yr ymarferydd dysgu a datblygu symbolaidd yn y digwyddiad fel fy mod i’n gallu cael dealltwriaeth well o arfer da ac arloesol.

Dysgu ym modd gwell ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus gwell

Rydw i wedi blogio’n ddiweddar ar sut mae dull dysgu gwasanaeth cyhoeddus yn parhau i fod yn hierarchaidd — mae’n llifo o’r arbenigwr i’r cyfranogwyr. Mae anghynhadledd, lle mae cyfranogwyr yn ffurfio agenda trwy gynnig syniadau i drafod, yn ymddangos fel lle da i herio’r dull yma. Falle bydd yr anghynhadledd hefyd yn lle da i ddechrau meddwl am ddulliau gwahanol o ddysgu mewn person, gan ei fod yn ddigwyddiad gwahanol iawn i hyfforddiant traddodiadol. Ond maen anodd iawn i werthuso nhw achos does yna ddim canlyniadau dysgu penodol. Felly sut allwn ni ddangos eu bod nhw’n arwain ato newid go iawn?

Mynd yn ddigidol

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn ceisio mynd i’r afael â digideiddio ar hyn o bryd, ond dydyn ni ddim wedi gwneud lot o ddefnydd o ddysgu ar-lein hyd yn hyn. Rydw i wedi ymuno â Codecademy er mwyn cael dealltwriaeth well o arfer da o’r byd ehangach. Maen nhw’n mynd â chi ar daith dysgu ymarferol i’ch helpu i ddysgu sut i godio. Rydw i hefyd wedi dechrau cwrs ar-lein am ddim gyda’r Brifysgol Agored, sy’n cynnwys myfyrio dros destun a fideo yn bennaf. Ydy gemau ar-lein yn gallu cynnig profiad mwy ymarferol, fel y mae Chris Bolton wedi amlinellu yn ei blogbost ar wneud penderfyniadau cynaliadwy ac mae Karoliina Korppoo wedi siarad amdano ar gyfer TED? Ac os ydyn nhw, a allwn ni wneud defnydd gwell ohono o fewn gwasanaethau cyhoeddus?

Fodd bynnag, mae rhannu gwybodaeth yn broses gymdeithasol. Rydym yn adeiladu ein dealltwriaeth o rywbeth trwy ei drafod gyda phobl eraill, gweld sut mae eu naratif yn gweithio gydag un ni, ac o ganlyniad rydym yn datblygu dealltwriaeth well. Sut allwn ni sicrhau nad ydyn ni’n colli hyn wrth i ni symud ar-lein? Mae Traciwr Profiad Digidol Myfyrwyr Jisc yn awgrymu bod pobl sydd mewn Addysg Uwch ac Addysg Bellach eisiau systemau digidol i ategu addysgu wyneb yn wyneb, nid cymryd ei le. Beth yw’r ffordd orau o wneud hyn?

Ac oes yna rôl fwy ffurfiol ar gyfer dysgu anffurfiol? A all cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithiau cyfoedion i gyfoedion chwarae rhan fwy yn ein hymagwedd?

Drosodd i chi

Byddai’n grêt i drafod pethau ymhellach yn GovCamp Cymru os oes gennych syniadau am hyn, os ydych chi’n mynd i’r afael â materion neu os ydych chi’n gwneud gwaith da yn y maes. Mae yna gryfder mewn niferoedd, a gobeithio gallwn fynd i’r afael ag anawsterau gwasanaethau cyhoeddus trwy gyfuno ein syniadau.