Dyfrig Williams
Jul 18, 2018 · 5 min read

Mae biwrocratiaeth yn achosi siwd gymaint o rwystredigaeth. Mae bron pawb wedi cael ymateb afrhesymol pryd dyw e ddim yn bosib i wneud rhywbeth hollol synhwyrol. Ar ei waethaf, mae’n rhoi gofod rhwng pobl. Mae’r bodlediad Bookshambles yma gyda Tim Harford yn ddiddorol, yn enwedig y rhan sy’n edrych ar sut ddefnyddiwyd biwrocratiaeth gan y Natsïaid ar gyfer rheolaeth gymdeithasol yn ystod yr Holocost. Roedd pawb yn gwneud eu swyddi ac yn ganolbwyntio ar y modd, nid y ganlyniad.

Ond ar ochr arall y geiniog y mae Tŵr Grenfell yn teimlo fel digwyddiad sy’n cymryd lle mewn un o lyfrau Charles Dickens, ac felly mae’n dangos pam mae rheoleiddio yn hollbwysig.

Mae gan y sector cyhoeddus strwythurau llywodraethu ac atebolrwydd cryf (ac mae’n werth edrych ar waith Richard McLean yma a Dave Mckenna yma ar beth all llywodraethu fodern edrych fel). Ond sut ydyn ni’n sicrhau bod empathi yn parhau i fod yn werth gofal cymdeithasol craidd?

Mae Research in Practice a Research in Practice for Adults wedi dechrau recordio podlediadau y blwyddyn yma, sy’n cynnwys cyfres ddiddorol ar Risgiau, Hawliau a Rôl y Wladwriaeth. Mae yna benodau gwych gerllaw, a chefais y cyfle i recordio drafodaeth rhwng Dez Holmes a Dr. Danielle Turney ar Farn Broffesiynol sydd wedi’i wreiddio.

Mae Danielle ar hyn o bryd yn gymharu strwythurau ymarfer yn Norwy a Lloegr. Yn Lloegr mae yna lot o reolau llywodraethol a systemau ffurfiol. Mae hyn yn gwneud synnwyr wrth weithio mewn meysydd fel gweithgynhyrchu ble mae yna berthynas clir rhwng achos ac effaith, ond dyw dulliau un maint i bawb ddim yn gweithio. Blogiais amdano hyn jyst ar ôl i mi ddechrau’r swydd yma.

Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, does gan Norwy ddim fframwaith ac arweiniad asesu ar gyfer beth y ddylai ddigwydd. Mae hyn yn ddelfrydol gan ei fod yn rhoi rhyddid i deilwra dulliau, ond yn anffodus mae’n achosi broblemau gwahanol. Mae’n meddwl dyw pobl ddim yn gallu herio barn proffesiynol achos dyma sail y benderfyniadau ar gyfer gwasanaethau.

Mae’n werth cael cipolwg ar theori gwreiddiol Max Weber o fiwrocratiaeth. Mae’n swnio fel uffern ar y ddaear i mi. Ond mae’n bach o syrpreis i sylweddoli bod effeithiolrwydd wrth wraidd y cysyniad gan feddwl beth mae’n ei olygu y dyddiau yma.

“A rigid division of labor is established that clearly identifies regular tasks and duties of the particular bureaucratic system.

“Regulations describe firmly established chains of command and the duties and capacity to coerce others to comply.

“Hiring people with particular, certified qualifications supports regular and continuous execution of the assigned duties.”

*Gallai* hyn weithio mewn proses weithgynhyrchu (uffernol), ond does yna ddim siawns iddo weithio o fewn amgylcheddau cymhleth. Yn y bôn, mae’n golygu gwahanu gwaith o’r wybodaeth ynglŷn a sut mae’r gwaith yn cymryd lle ac mae’n ymgorffori hierarchaeth mewn strwythurau anhyblyg. Mae’n ddiddorol felly gweld sut mae sefydliadau fel Beetroot yn gweithio ar y Biwrocratiaeth Isaf Posibl (HT Paul Taylor).

Mae hyn yn cyd-fynd â beth mae Danielle yn sôn amdano yn y bodlediad o ran problemau dof a ddrygionus. Does dim ymateb un maint i bawb sy’n gallu cwrdd ag anghenion pawb. Yn Lloegr, mae amddiffyn plant yn cael ei ddeall fel problem ddof, ac fel problem ddrygionus yn Norwy. Mae’r ymagwedd Norwyaidd yn caniatáu ffordd wahanol o weithio i’r ddiwylliant arferol sy’n sicrhau rheolaeth, trefn a chydymffurfio (fel yr amlinellir yn Adroddiad Munro), sut allwn ni sicrhau ein bod yn creu amgylchedd effeithiol ar gyfer barn broffesiynol? Dyma beth a gymerais o’r podlediad.

Tryloywder ac adlewyrchiad

Rhaid inni weithio’n agored ac yn dryloyw. Mae diddordeb mewn data agored gen i ers sbel, ac er fy mod i’n cytuno’n llwyr â GDPR, mae rhannu data mewn modd pwrpasol yn teimlo yn bwysicach nag erioed. Mae Adroddiad Effaith Data Agored yn rhoi’r rhesymeg dros pam mae angen i ni wneud hyn.

Mae sefydliadau fel Buffer wedi rhoi tryloywder radical ar waith. Mae’n werth edrych ar y blogbost yma ar ôl iddynt diswyddo staff, sy’n teimlo fel rhywbeth unigryw iawn yng nghyd-destun cwmnïau technoleg. Rwy’n rili hoffi sut maen nhw’n arddangos eu gwaith mewn amser real ac yn galluogi eraill i’w holi a herio.

Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn sut y gall sefydliadau ddefnyddio’r rhesymeg y tu ôl i weithio’n agored, sy’n rhywbeth rydw i wedi blogio amdano o’r blaen.

Diwylliant heb fai

Mae Danielle yn sôn am pam mae angen amgylchedd sefydliadol sy’n gallu cael ei herio a’i gwestiynu. Mae rhan o hyn yn ymwneud â symud o arweinyddiaeth draddodiadol (ac rydw i wedi bod yn dysgu amdano hyn eleni) ble mae methiant yn rhan o ddysgu o fewn mudiad.

Felly sut allwn ni amlygu’r fath o ddiwylliant ni’n gweithio mewn? Rwy’n hoff iawn o’r Map Diwylliant y mae Ben Proctor wedi blogio amdano ar gyfer Y Satori Lab, yn enwedig gan ei fod yn nodi lot o bethau sydd ddim yn cael eu trafod — beth yw’r rheolau answyddogol, a pha fathau o ymddygiad sydd mewn gwirionedd yn cael eu gwobrwyo? Mae hyn yn arbennig o bwysig mewn gwaith cymdeithasol, lle mae’r sylfaen o’n werthoedd yn hynod o bwysig. Mae rhaid i ni symud y tu hwnt i brosesau ticio blwch ac yn hytrach defnyddio ein moesau fel cwmpawd.

Myfyrio

Rwy’n credu bod myfyrio dros gwaith yn gysylltiedig â diwylliant. Ydyn ni’n galluogi pobl o fewn ein sefydliadau i gymryd amser i fyfyrio ar eu gwaith? Ydyn ni’n wirioneddol werthfawrogi adlewyrchiad trwy ddyrannu amser iddo? Mae yna lot y gall gwasanaethau cyhoeddus eraill dysgu o waith cymdeithasol ar hyn, ond mae’n gallu cael ei weld fel opsiwn ychwanegol yn ein sector ni hefyd. Mae’n werth edrych ar ymchwil Harry Ferguson ar sut mae gweithwyr cymdeithasol yn adlewyrchu ar waith a phryd a pham dydyn nhw ddim (fe wnes i gymryd y ddolen yma o un o’n bodlediadau gwych ar beryglon a gwerthoedd gyda Lisa Smith a Lydia Guthrie). Mae’n hollbwysig ein bod ni’n gweithio mewn amgylchedd sydd ddim yn cael ei gyfyngu gan ofn a bai os ydym am fyfyrio’n onest.

Mae’n hawdd i fod yn or-sinigaidd am y sector cyhoeddus. Dylai ni byth roi’r gorau i’n gynigion i wella’r sector gan fod yna siwrne mor bell o’n blaenau, ond mae rhaid hefyd i ni ddiogelu ein gwerthoedd. Y tro nesaf mae rhywun yn dadlau y dylai ni bod yn arloesol fel cwmni dechnoleg newydd, falle mae fe’n werth pwyntio’r rhain allan:

Byddwn i ddim eisiau i unrhyw un o’r rhain rhedeg gwasanaethau cyhoeddus. Rhaid i ni gofio mai nid y pethau ni’n dweud sy’n arddangos ein gwerthoedd, ond y pethau ni’n gwneud. Ac fel staff gwasanaethau cyhoeddus, rydym wedi dewis gwasanaethu’r cyhoedd. Rhaid i ni gwneud hyn i’r eithaf.

Gwneud pethau gwell

Dysgu sut all gwasanaethau cyhoeddus gwneud pethau gwell

Dyfrig Williams

Written by

Cymraeg! Music fan. Cyclist. Scarlet. Work for @researchip @ripfa . Views mine / Barn fi.

Gwneud pethau gwell

Dysgu sut all gwasanaethau cyhoeddus gwneud pethau gwell

Welcome to a place where words matter. On Medium, smart voices and original ideas take center stage - with no ads in sight. Watch
Follow all the topics you care about, and we’ll deliver the best stories for you to your homepage and inbox. Explore
Get unlimited access to the best stories on Medium — and support writers while you’re at it. Just $5/month. Upgrade