Sut mae meddylfryd digidol yn ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn galw am newid sylweddol yn y ffordd rydyn ni’n cynllunio a darparu gwasanaethau, ac mae technoleg wedi newid yr amgylchedd cymdeithasol sylfaenol rydyn ni’n gweithio ynddo. Sut all y ddeddf cefnogi meddylfryd digidol strategol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ddeddfwriaeth uchelgeisiol sy’n mynnu bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu mewn ffordd wahanol iawn i modd y gorffennol. Mae’r Ddeddf wedi bod yn thema o’n gwaith ni dros y ddwy flynedd ddiwethaf (gwaith sydd wedi yn amrywio o barciau cyhoeddus i archwilio mewnol), ac mae’n parhau i fod yn thema ar gyfer ein seminar ar Ailgynllunio gwasanaethau cyhoeddus: Pwysigrwydd strategol llwyfannau digidol.

Mae diddordeb da fi mewn beth mae meddylfryd digidol yn golygu i wasanaethau cyhoeddus ers i mi redeg cyrsiau e-gyfranogaeth Cyfranogaeth Cymru yn fy swydd ddiwethaf, achos roeddwn i’n edrych ar sut all technoleg helpu’r cyhoedd i ddweud eu dweud ac i dargedu adnoddau’n effeithiol.

Cyn i mi ddechrau’r blog ‘ma yn go iawn, rhaid i mi fod yn glir am beth rwy’n golygu pan rwy’n sôn am feddylfryd digidol, sy’n blogbost yn ei hun. Yn ffodus, mae Stephen Foreshew-Cain wedigwneud hyn yn barod, sy’n cynnwys y trydar yma gan Tom Loosemore:

Hefyd, mae Carl Haggerty (sy’n cynnal gweithdy yn ein digwyddiad gyda’r Cynghorydd Barry Parsons ar gynnwys aelodau etholedig mewn dull digidol) wedi ysgrifennu blogpost gwych lle mae’n edrych ar arweinyddiaeth a symud i ffwrdd o “awtomeiddio prosesau sydd wedi cael ei etifeddu ac sy’n deillio o hen ffyrdd o wneud pethau”.

Felly yn union fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae meddylfryd digidol yn gofyn am ffordd newydd o feddwl i’r un sydd wedi bod wrth wraidd gwasanaethau cyhoeddus yn draddodiadol. Mae gan lot o sefydliadau meddylfryd patriarchaidd — ymdeimlad mai “ni fel darparwyr sy’n gwybod orau” ac y dylai’r cyhoedd derbyn ein gwasanaethau a bod yn ddiolchgar amdanynt. Pan weithiais i â Phanel Dinasyddion ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, clywais sawl stori dorcalonnus a wnaeth pwysleisio nad yw’r meddylfryd yma yn addas ar gyfer gwasanaethau effeithiol.

Anghenion defnyddwyr

Y ffocws ar “anghenion defnyddwyr” a wnaeth rili dechrau fy niddordeb i mewn meddylfryd digidol. I fod yn onest, dydw i ddim yn ffan fawr o’r dywediad, ond rydw i yn bendant yn gefnogwr o’r gwasanaethau gwell y mae’r meddylfryd wedi ysbrydoli. Os ydych chi wedi adnewyddu eich treth car gyda’r DVLA yn ddiweddar, byddwch yn ymwybodol o sut mae proses anodd wedi trawsnewid yn gyfan gwbl i fod yn wasanaeth symlach sy’n bodloni’r person sy’n ei ddefnyddio.

Serch hyn, mae terminoleg sy’n seiliedig ar ddiffyg dal yn fy mhoeni i. Mae’n israddio pobl, staff a chymunedau sy’n allweddol ar gyfer gwasanaethau effeithiol fel “defnyddwyr”, ac mae’r term “angen” yn awgrymu mai gwasanaethau cyhoeddus sydd a’r pŵer. Mae gwasanaethau cyhoeddus yn dibynnu yn fwy ac yn fwy ar bobl a chymunedau i ddarparu agweddau o wasanaethau, sy’n dangos bod rhaid i ni ystyried os mae’r model yma’n cyd-fynd gydag ymagwedd sy’n seiliedig ar asedau pobl a beth allan nhw wneud. Mae’n werth edrych ar y fideo yma o Cormac Russell yn esbonio’r Ymagwedd Datblygu Gymunedol sy’n Seiliedig ar Asedau a meddwl amdano rydyn ni’n gweithredu.

Ceir enghreifftiau lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn meddwl amdano sut maen nhw’n addasu i’r rôl hon. Clywais yn LocalGovCamp am sut mae Cyngor Sir Dyfnaint yn cwestiynu rôl llywodraeth leol, a hefyd cefais sgwrs Dadfentora gwych gyda Kelly Doonan ar eu meddylfryd o alluogi gwasanaethau cyhoeddus gwell.

Felly sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ymwneud â hyn?

Mae rhai adnoddau gwych mas ‘na ar feddylfryd digidol a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys Egwyddorion Dylunio Gwasanaethau Digidol Llywodraeth y DU. Mae fe wedi fy nharo i fod rhaid pwysleisio nad yw Digidol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, ond eu bod nhw’n gweithio’n dda iawn ar y cyd. Dyma sut mae’r pum ffordd o weithio o fewn y ddeddf yn cyd-fynd â meddylfryd digidol:

  • Integreiddio a chydweithredu
    Sut all defnydd digidol helpu gwasanaethau i weithio gyda’i gilydd? Oes rhaid i ni gyd defnyddio systemau cwbl wahanol? Gallwn ni adeiladu ar yr egwyddor o weithio’n agored a rhannu gwybodaeth?
  • Dulliau ataliol a thymor hir
    Mae hyn yn cyd-fynd â’r egwyddor o wneud llai — “Os ydyn ni’n dod o hyd i ffordd o wneud rhywbeth sy’n gweithio, dylai ni sicrhau ein bod ni’n ailddefnyddio a rhannu yn hytrach na ailddyfeisio’r olwyn bob tro. Mae hyn yn golygu adeiladu llwyfannau a chofrestrau gall eraill adeiladu arno, darparu adnoddau (fel APIs) bod eraill yn gallu defnyddio, a’i chysylltu i waith eraill. Dylem ganolbwyntio ar y craidd anostyngadwy”
  • Cynhwysiad
    Dyma’r ffocws ar y defnyddiwr rydw i wedi trafod yn y blogbost yma. Gall gwasanaethau ffocysu ar y person heb eu cynnwys?

Mae hyn i gyd yn golygu bod rhaid i ni symud y tu hwnt i fodelau cyfredol o feddwl i ystyried y cyfleoedd y gall gwasanaethau digidol a’r ddeddf caniatáu, ac rydyn ni’n gobeithio y gall y digwyddiad yma helpu mynychwyr i wneud hynny. Hoffwn ni cael eich mewnbwn naill ai’n uniongyrchol yn y digwyddiad neu drwy #WAOdigital. Achos trwy ddod â’n gwybodaeth at ein gilydd a rhannu ein dulliau gweithredu digidol, gallwn ni sicrhau ein bod ni’n darparu gwasanaethau sy’n addas i’w diben yn yr unfed ganrif ar hugain.

Cafodd y blogbost yma ei gyhoeddi’n wreiddiol ar flog Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru.