Logo Newid

Cyfres ddigwyddiadau Newid: digidol ar gyfer ymddiriedolwyr — grynodeb wythnos 1

Hannah Bacon
Newid Cymru
Published in
5 min readSep 6, 2022

--

Yma yn CGGC, rydym wedi bod yn brysur yn darparu pethe gwahanol, fel rhan o’n waith am Newid. Un o rain oedd y gyfres digwyddiadau Newid: Digidol ar gyfer Ymddiriedolwyr, sef rhaglen bythefnos o sgyrsiau ysbrydoledig amser cinio i gefnogi ymddiriedolwyr i ddatblygu digidol yn eu mudiadau.

Os methoch chi’r sesiynau, peidiwch â phoeni, rydw i yma i grynhoi rhai o’r prif negeseuon a’r gwersi o’r gyfres mewn blog dwy ran.

Tom Hanks yn datblygu digidol yn ei mudiad — wedi drysu wrth deipio ar laptop

Catherine Joseph ydw i, sef Gweinyddwr Tîm Gwydnwch CGGC, ac fel rhywun nad oedd wedi sylweddoli faint o ddyfnder ac amrywiaeth sydd i’r byd digidol yn y sector elusennol, roedd y digwyddiadau’n ddiddorol iawn i fi. Nid yn unig y dysgais i lawer am y byd digidol yn y sector, ond fe gefais fy nghyflwyno i’r ffyrdd y gallwn ei ddefnyddio, ac y bydd yn cael ei ddefnyddio, i siapio’r dyfodol, a’r ffyrdd rydyn ni’n gweithio, yn addysgu ac yn dysgu.

Dyma grynodeb o ddigwyddiadau’r wythnos gyntaf.

Digwyddiad 1 — Camau bach, gwahaniaethau mawr: Ymddiriedolwyr yn rhannu eu profiadau o roi cynnig ar ddigidol

Yn y digwyddiad cyntaf yn y gyfres hon, rhannodd Rhodri Jones, Pennaeth Gwasanaethau Digidol CGGC ac ymddiriedolwr Neuadd Goffa Aberaeron, a Joe Stockley, Ymddiriedolwr CGGC a chyn Swyddog Cyfathrebu, eu myfyrdodau am ddigidol. Wrth gwrs, mae COVID-19 wedi bod yn islif cryf sydd wedi gwthio ac amlygu’r angen am ddigidol, fwyaf oll pan symudon ni i gyd ar-lein ym mis Mawrth 2020 (a oedd yn her strategol a gweithredol i ddweud y lleiaf!). Rhannodd Joe mor werthfawr yw hi i ymddiriedolwyr gyfathrebu gydag arbenigwyr digidol a dysgu ganddyn nhw yn ein mudiadau ein hunain. Ac os nad oes ganddon ni’r arbenigwyr hynny eto, defnyddio’r cyfoeth o ddeunyddiau dysgu sydd ar gael ar-lein.

Pwysleisiodd yr angen i osgoi bod yr holl wybodaeth am ddigidol yn cael ei chadw gan un person; os byddan nhw’n gadael, yna bydd eu harbenigedd yn gadael hefyd, ac felly rhannu ffynhonnell agored yw’r ffordd ymlaen. Hefyd, mae’n hanfodol deall pwysau amser a chyfyngiadau eich mudiad; camau bach a chyson sydd orau.

Hwylusodd Rhodri sgwrs am ddigidol, a rhannodd ymddiriedolwyr eu profiadau, eu heriau a’u cyngor ar wahanol feysydd pwnc, fel y cyfryngau cymdeithasol, taliadau ar-lein, a chymorth rhodd.

Daeth y digwyddiad i glo gyda Joe yn rhannu rhai o’r ffyrdd mae’n credu bod digidol yn galluogi newidiadau cadarnhaol: mae’n caniatáu i gyfarfodydd fod yn gynhwysol i fwy o bobl, mae modd i fudiadau bach gyrraedd ymhellach, ac mae mesurau ymarferol fel taliadau digidol ar gyfer digwyddiadau yn creu effeithlonrwydd. Trafododd y grŵp wydnwch staff, ac roedd consensws cyffredinol mai’r ffordd o ymdopi â hyn yw trwy gydweithio a datgan yn glir pam mae angen i bethau newid.

Digwyddiad 2 — Digidol: Sut ydyn ni’n gwybod a ydyn ni’n ei wneud yn gywir?

Arweiniodd Zoe Amar, arbenigydd digidol yn y trydydd sector ac Ymddiriedolwr Charity Digital, y digwyddiad hwn ar sut mae gwybod os ydyn ni’n gwneud digidol yn gywir.

Trafododd y cyfranogwyr y cyfleoedd mae digidol yn eu cynnig, ac roedd pawb yn cytuno bod digwyddiadau a chyfarfodydd hybrid, cyfrifeg ddigidol, llwyfannau digidol, a chynhwysiant digidol yn y gymuned yn ffyrdd o greu datblygiad cadarnhaol.

Roedd sgiliau digidol yn rhan fawr o’r hyn drafododd Zoe; yn benodol, i ba raddau mae angen y sgiliau hyn, a’r canlyniadau gallan nhw eu cynnig i fudiadau. Tynnwyd sylw hefyd at y risgiau y gall digidol eu cyflwyno, fel diffyg argaeledd gwasanaethau wyneb yn wyneb oherwydd dibyniaeth ar ddefnyddio technoleg wrth eu darparu.

Gyda chodi arian yn ddigidol, mae’n bwysig deall beth mae rhoddwyr ei eisiau, a sut mae hyn yn newid (er enghraifft, bydd y cynnydd mewn costau byw yn cael effaith), a sut mae angen i fudiadau addasu eu gweithgareddau codi arian yn unol â hynny. Nododd Zoe pa mor bwysig yw cael y cydbwysedd cywir rhwng defnyddio adnoddau mewnol a chymorth allanol, yn ogystal â gosod targedau ar sail tystiolaeth, a allai olygu bod angen gostwng disgwyliadau i gyd-fynd â hynny.

Digwyddiad 3 — Cefnogi’r arweinydd digidol yn eich mudiad

Arweiniwyd y digwyddiad hwn gan aelod o dîm Newid, Marc Davies, sef Arweinydd Rhaglen Digidol ar gyfer Cwmpas. Rhannodd Marc drosolwg o’r Strategaeth Ddigidol i Gymru, sy’n amlinellu nodau Llywodraeth Cymru am gynhwysiant digidol, data a chydweithio, gwasanaethau digidol, sgiliau digidol a chysylltedd digidol. Lansiwyd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn dilyn y strategaeth, cyn datblygu’r safonau gwasanaeth digidol i Gymru a chreu tri Phrif Swyddog Digidol[1].

Er mwyn annog y cyfranogwyr i feddwl, eglurodd Marc y ffyrdd mae digidol yn ategu darpariaeth gwasanaeth, a’r angen am ddiffiniad cyfunol o fewn mudiad o ran sut mae digidol yn edrych iddyn nhw. Taflodd hyn oleuni ar y manylion sy’n rhan o lwyddiant digidol mewn gwirionedd. Mae’n llawer mwy na chyfarfodydd hybrid a gwefannau, mae hynny’n sicr!

Daeth Marc â’r sgwrs i ben gyda chyngor arfer da i arweinwyr digidol allu eu rhoi ar waith, fel meithrin perthnasoedd digidol iach, dod yn chwilfrydig ynghylch sut mae ‘da’ yn edrych, annog cyfnewid ymchwil a gwybodaeth, ac ailddefnyddio syniadau a rhannu ar draws timau — y dull o drio, profi, a thrio eto.

Digwyddiad 4 — Strategaeth Ddigidol gyda Cwmpas

Marc Davies arweiniodd digwyddiad cloi’r wythnos ar Strategaeth Ddigidol hefyd. Mae’r Strategaeth Ddigidol i Gymru ychydig dros flwydd oed, ar ôl cael ei lansio ym mis Mawrth 2021. Ystyrir bod Cymru y tu ôl i wledydd eraill Prydain wrth roi digidol ar waith, ond wedi dweud hynny, mae llawer o waith yn mynd i fewn i wella datblygiad digidol yma yng Nghymru. Gallwn hefyd elwa ar y cyfoeth o adnoddau sydd eisoes yn bodoli gan fudiadau fel Catalyst, SCVO, Third Sector Lab, Charity Digital, NCVO a Heritage Digital. Gall y rhain ein helpu i gyflymu ein datblygiad (os cânt eu defnyddio a’u haddasu i weddu i anghenion mudiadau unigol wrth gwrs!).

Dangosodd Marc i’r cyfranogwyr sut beth yw strategaeth ‘dda’ yng nghyd-destun Cymru:

· bod yn gyson â strategaeth y mudiad,

· bod yn gryno ac edrych ar newid diwylliannol yn ogystal â newid digidol,

· bod yn ymatebol, yn ystwyth, ac wedi’i harwain gan ddefnyddwyr.

Anogwyd y syniad o ‘gamau bach’ gyda’r broses hon; fydd hi ddim yn broses dros nos o bell ffordd. Bydd bob amser rhai rhwystrau y bydd angen gwthio mwy i’w goresgyn, fel diffyg cyllid, diffyg amser, a diffyg sgiliau. Fel rhan o Newid, bydd Cwmpas yn datblygu adnoddau i gefnogi mudiadau gyda’r gwaith o ddatblygu eu strategaeth ddigidol a chynllunio’r camau nesaf ar eu taith ddigidol.

Daeth y digwyddiad i ben gyda rhai syniadau y dylid eu hystyried: deall eich blaenoriaethau, cynnwys pobl nad ydyn nhw’n arbenigwyr digidol yn y broses, sefydlu systemau gyda chynaliadwyedd mewn cof, a meddwl am yr effaith ar barhad busnes.

Bydd crynodebau o weddill y gyfres ddigwyddiadau yn ein blog nesaf.

[1] Prif Swyddog Digidol (Llywodraeth Cymru), Prif Swyddog Digidol (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru) a Phrif Swyddog Digidol (GIG Cymru)

--

--