Da Prysur Ond Drwg NodauWythnos

ProMo-Cymru
Newid Cymru
Published in
3 min readMar 11, 2022

Rydym wedi bod ychydig yn araf yn cyhoeddi’r NodauWythnos yma gan fod pethau wedi bod mor brysur yn ProMo, Cwmpas CGGC. Ond, mae angen i ni ddod i’r arfer â rhannu, yn enwedig mewn cyfnodau prysur. Felly dyma ni…

Cynllunio Cwrs Gwasanaethau Ieuenctid Digidol

Rydym wedi bod yn brysur yma yn ProMo hefyd, yn recriwtio ac yn cynllunio ein cwrs. Roedd 45 wedi cofrestru ar gyfer y sesiwn cyntaf, yn cynrychioli 24 o sefydliadau trydydd sector sydd yn gweithio gydag ieuenctid. Roeddem wedi gwirioni gyda hyn, ac roedd rhaid cau’r cofrestru wrth i’r niferoedd godi’n fwy na’r disgwyl. Os fethoch chi allan ar y cofrestru, bydd cyfle i ymuno eto gyda chwrs mwy yn dechrau mis Mai, un fydd yn agored i holl sefydliadau’r trydydd sector.

Dweud helo!

Mae’r cwrs yma yn brototeip (i ni) mewn dysgu cohort ar-lein. Mae’n gweithio ychydig yn wahanol i sesiwn hyfforddiant Zoom neu Teams arferol. Rydym yn gweithio mewn grwpiau llai — yn helpu sefydliadau i ddiffinio heriau ac i ddatblygu prototeip gweithredol sydd yn ymateb i anghenion go iawn. Mae’r mwyafrif o sefydliadau yn gweithio fel tîm; rydym yn annog dau berson o bob sefydliad i ddyblygu hyn — i roi cyfle i bobl wneud gwaith ymarferol go iawn mewn ffordd gyfarwydd. Mae’r cwrs yn cael ei rhannu dros 8 wythnos fel bod cyfle i adlewyrchu, amser i ddysgu gwybodaeth newydd a rhoi syniadau ar waith gyda her go iawn sydd yn wynebu’r sefydliad.

Iaith Gyffredin

Gyda’r brys i drosglwyddo, mae bellach yn amlwg ein bod hefyd angen diffinio iaith gyffredin yn y bartneriaeth i osod sut mae ymarfer digidol da yn edrych. Mae amrywiaeth o dermau sydd yn gysylltiedig â digidol yn cael eu defnyddio yn y trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Yma yn ProMo, rydym yn cyfeirio at ddull Cynllunio Gwasanaeth, mae eraill yn siarad am ystwyth (agile), ac mae CGCD wedi creu’r 12 Safon Gwasanaeth Digidol ar gyfer Cymru. Mae’r mwyafrif o sefydliadau trydydd sector yng Nghymru yn sefydliadau bychain (trosiant blynyddol llai nag £50 mil) ac efallai nad yw dysgu terminoleg neu safonau newydd yn uchel iawn ar eu hagenda (ta waeth pa mor gyffrous ydym ni am y peth!) Mae’n hanfodol bod angen cynyddu dealltwriaeth y sectorau am yr egwyddorion sylfaenol o weithio gyda phobl a chynnal ymchwil i adnabod angen. Dyma fydd yr her fwyaf.

Prototeip gwefan

Yn dilyn trafodaeth yn y bartneriaeth, bydd ProMo yn creu gwefan sydd yn egluro mwy am Newid wrth i ni gychwyn trosglwyddo’r gwasanaethau. Bydd hyn yn helpu sefydliadau i ddarganfod mwy am y gwaith a sut i gael mynediad i gymorth. Ond, rydym yn awyddus i wneud rhywbeth ychydig yn wahanol gyda’r wefan yma. Mae ein darganfyddiadau cychwynnol yn dangos bod cost yn rhwystr i’r trydydd sector yn aml wrth iddynt geisio gwella’u digidol. Felly, rydym yn ceisio adeiladu gwefan mewn llai nag 3 diwrnod ar gyllideb lai nag £50. Byddem yn rhannu ein dulliau a’r templed fel bod sefydliadau eraill (os ydynt angen) yn gallu gwneud rhywbeth tebyg yn y dyfodol.

Ni fydd y wefan yn un sydd yn gwneud popeth dan haul, ond bydd yn caniatáu i ni greu prototeip ac yna ailadrodd i adnodd gwell. Mae hefyd yn caniatáu i ni osgoi dyblygiad wrth i ni rannu’r hyn rydym yn ei wneud, casglu adborth ar adnoddau presennol a deall ble i gael y gefnogaeth orau.

Mwy o NodauWythnos i ddilyn gan CGGC a Cwmpas.

--

--

ProMo-Cymru
Newid Cymru

We're a youth and community organisation specialising in communication. Current projects: @MeicCymru @FeedTheSprout @ebbwvaleevi @familypointcym