Gwerthuso Newid: Digidol ar gyfer y Trydydd Sector

Alison Pritchard
Newid Cymru
Published in
4 min readJan 12, 2022
Newid

Diolch am ymuno â ni. Dyma’r ail nodyn wythnos ar gyfer Newid — Digidol ar gyfer y trydydd sector. Prosiect ar y cyd gan CGGC, Cwmpas ProMo-Cymru a gyllidir gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo trydydd sector Cymru i gyflwyno gwasanaethau digidol gwell.

Fy nhro i yw hi’r wythnos hon. Alison ydw i o CGGC, ac rwy’n mynd i fod yn siarad am werthusiadau ac effaith.

Nicholas Cage yn mynd rhywle

Yr eitem olaf ar fy rhestr o bethau i’w gwneud cyn y Nadolig oedd cyhoeddi’r Cais am Ddyfynbrisiau ar gyfer gwerthuso’r cam cyntaf hwn o Newid (sy’n rhedeg tan fis Mawrth 2022). Wedi’i gyhoeddi ar GwerthwchiGymru, mae’r Cais am Ddyfynbris yn amlinellu ein prosiect, yr hyn sydd angen i ni ei werthuso ac yn gwahodd darpar werthuswyr i gyflwyno dyfynbrisiau ar gyfer gwneud y gwaith hwn.

Pam ydym ni’n gwerthuso Newid?

Gwneud gwahaniaeth — Mae angen i ni wybod bod y gweithgareddau sydd gennym ni ar droed (sy’n seiliedig yn eu hunain ar werthusiadau darnau eraill o waith rydyn ni neu ein cydweithwyr ledled y DU wedi’u cwblhau) yn gwneud y gwahaniaethau sydd eu hangen ar ein cyfranogwyr, a pha mor llwyddiannus y maen nhw’n gwneud hyn. Gyda’r wybodaeth hon, byddwn ni’n gallu mireinio a gwella gweithgareddau’r dyfodol yn fwy byth.

Cadw ar y trywydd cywir — Yn y tymor byrrach, bydd monitro’r gweithgareddau rydyn ni’n eu cyflwyno o dan Newid yn ein helpu ni i wneud yn siŵr eu bod yn cyflawni, neu’n o leiaf cyfrannu at, y canlyniadau rydyn ni’n gobeithio eu cyflawni ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru. Mae’n rhoi’r cyfle i ni addasu unrhyw agwedd ar y prosiect sy’n siomi’r disgwyliadau.

Deall ein gwaith — Unwaith y bydd prosiectau ar waith, nid yw’n anghyffredin canfod bod ganddyn nhw ganlyniadau anfwriadol. Yn aml, mae’r rhain yn rhai cadarnhaol, ond gallant fod yn negyddol mewn rhai achosion. Mae gwerthusiadau trylwyr (sy’n cynnwys cyfweld â chyfranogwyr yn uniongyrchol yn hytrach na dibynnu ar ffurflenni gwerthuso yn unig, er enghraifft) yn llawer mwy tebygol o ganfod y canlyniadau ychwanegol hyn.

Dadleuon o blaid y gwaith — bydd cael tystiolaeth o’r effaith y mae ein gwaith wedi’i chael yn ein galluogi ni’n well i ddadlau o blaid cael mwy o gyllid i barhau â’r gwaith hwn yn y dyfodol. Rydyn ni’n gwybod o gydweithwyr a phrosiectau mewn gwledydd eraill yn y DU fod blynyddoedd o waith o’n blaenau i wneud yn siŵr bod gan drydydd sector Cymru’r sgiliau, yr wybodaeth a’r hyder sydd ei angen arno i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y gall digidol eu cyflwyno.

Bydd gallu dangos yr effaith y mae’r cam cyntaf hwn yn ei chael yn ein helpu ni i lunio dadl gryfach o blaid y gwaith er mwyn denu’r cyllid sydd ei angen i wireddu’r gwaith hwn.

Bydd cael astudiaethau achos o’r prosiect hefyd yn ein helpu ni i hyrwyddo gweithgareddau yn y dyfodol i fwy o ddarpar gyfranogwyr. Mae hefyd offeryn gwych i’n helpu ni i rannu ein dysgu â chydweithwyr ledled trydydd sector y DU, yn ogystal â gyda chyfoedion o sectorau eraill yma yng Nghymru drwy gydberthynas Newid â’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.

Pam poeni amdano ar y cychwyn?

Un o’r tasgau cyntaf y mae CGGC wedi mynd ati i’w gwneud, nawr bod Newid ar waith, yw chwilio am werthuswyr. Rydyn ni eisiau dechrau gweithio gyda gwerthuswyr i’r prosiect cyn gynted â phosibl. Trwy ymhél â gwerthuswr mor agos â phosibl at ddechrau’r prosiect, byddwn ni’n cael ei fewnwelediad arbenigol ar y ffordd orau o gasglu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom i werthuso’r prosiect yn drylwyr o’r cychwyn cyntaf.

Er enghraifft, er mwyn sicrhau ein bod yn gofyn y cwestiynau cywir ar ffurflenni gwerthuso ar gyfer yr hyfforddiant a’r digwyddiadau sy’n cael eu cyflwyno. Pe bai gwerthuswr dim ond yn dod i mewn ar ddiwedd y prosiect, pan fyddai’r holl ddata wedi’i gasglu, byddai’n anodd mynd yn ôl at gyfranogwyr os collwyd cwestiynau allweddol, ac felly, byddai’n eich atal rhag gallu dangos effaith eich gwaith.

Gwerthuso a chyllido

Gan mai fi yw Rheolwr Cyllid Cynaliadwy CGGC, ni allaf beidio â sôn am werthuso mewn perthynas â chyllid.

Fel y nodais uchod, mae monitro a gwerthuso prosiectau, ymyraethau a gwasanaethau (neu unrhyw beth rydych chi’n ei wneud fel mudiad trydydd sector o ran hynny) yn allweddol i’ch helpu chi i ddangos gwerth y gwaith rydych chi’n ei gyflawni. Bydd gwybod gwerth ac effaith eich gwaith, a gallu cyfleu hynny’n effeithiol, yn gwneud y gwaith o ddenu cyllid a rhoddion i gefnogi eich gwaith ychydig yn haws.

Bydd y rhan fwyaf o gyllidwyr yn caniatáu i chi gynnwys cyllideb ar gyfer gwerthuso yn eich ceisiadau grant, ac mae’n bosibl y bydd rhai yn nodi hyn fel gofyniad. Os nad ydych chi’n siŵr, gwiriwch y canllawiau ar wariant cymwys.

Stephen Colbert yn ychwanegu gyda chyfrifiannell

Ennyn Effaith

Mae CGGC wedi bod yn bartner yn y prosiect DU gyfan, Ennyn Effaith, ers nifer o flynyddoedd. Rydyn ni bellach yn cynnal rhwydwaith cymorth cymheiriaid Ennyn Effaith lle gall aelodau rannu dysgu ac arferion da. Cysylltwch â governance@wcva.cymru i ymuno â’r rhwydwaith.

Gallwch hefyd edrych ar yr adnoddau sydd ar gael ar ein tudalen we Effaith a Gwerthuso os hoffech gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar hyn.

Gwerthuso Newid

Rydyn ni’n edrych ymlaen at benodi gwerthuswyr ar gyfer Newid yn yr wythnosau i ddod. Wrth gwrs, bydd yr adroddiad gwerthuso a chynnwys gwerthuso arall (fel astudiaethau achos) yn cael eu postio ar y blog hwn pan fyddan nhw’n dod i law yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Hwyl am y tro!

--

--