Helo, Cymru

ProMo-Cymru
Newid Cymru
Published in
4 min readDec 2, 2021
Logo Newid

Diolch am ymuno gyda ni. Dyma nodynwythnos cyntaf Newid — Digidol ar gyfer y trydydd sector. Prosiect ar y cyd rhwng CGGC, Cwmpas a ProMo-Cymru wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi trydydd sector Cymru i drosglwyddo gwasanaethau digidol gwell.

Felly beth mae ‘digidol’ yn ei olygu?

Nathan ydw i, o ProMo. Rwyf wedi derbyn y dasg heriol o drafod y dysgu sydd yn digwydd yn y bartneriaeth i ddiffinio beth mae ‘digidol’ yn ei olygu i ni a’r trydydd sector (rwyf am stopio defnyddio’r ‘collnodau’ nawr!).

Felly beth mae digidol yn ei olygu i ni? A sut mae siarad am hyn mewn ffordd ddealladwy i’r trydydd sector? Gall hyn fod yn anodd…

Pitsh Cyflym

Os byddwn i’n defnyddio pitsh cyflym, byddwn yn defnyddio’r dyfyniad yma gan Tom Loosemore:

Digidol: Cyflwyno diwylliant, ymarferiadau, prosesau a thechnolegau oes y Rhyngrwyd i ymateb i ddisgwyliadau uwch pobl.

Crynodeb gwych o’r newid yn nisgwyliadau pobl o wasanaeth. Mae oes y rhyngrwyd yn berthnasol i holl sectorau preifat, cyhoeddus a’r trydydd. Ond efallai ei fod ychydig rhy fras.

Yr ateb hirach

I gael ateb ychydig yn hirach a fwy penodol ar yr hyn mae digidol yn ei olygu i’r trydydd sector, yna byddai’n syniad edrych ar sut dosbarthodd y Loteri Genedlaethol dros 800 o gofnodion i’w Gronfa Ddigidol yn seiliedig ar yr hyn roedd y sector yn ceisio’i gyflawni:

1. Prosesau Digideiddio

2. Seilwaith Digidol Sylfaenol

3. Sgiliau digidol a chynhwysiant digidol

4. Cynllunio gwasanaeth newydd

5. Ymgysylltu Digidol

6. Tech er budd neu arloesiad digidol

7. Ailgynllunio a thrawsnewid sefydliadol

8. Ymarferion digidol ac arweinyddiaeth dda

Mae traethawd llawn Cassie Robinson i’w weld isod, gyda chyfatebiaeth hyfryd am gaffi sydd yn egluro’r dosbarthiad yma:

Dysgu o lefydd eraill

Mae llawer o ddysgu yn digwydd ledled y DU ar ddigidol yn y trydydd sector. Mae’r Catalyst, a’u gwaith o gyfuno’r trydydd sector gyda sgyrsiau ar ddigidol, wedi dylanwadu arnaf. Mae’r Catalyst wedi sicrhau bod llawer o’u gwaith yn gallu cael ei ail-ddefnyddio, a bydd hyn yn gynorthwyol iawn i’r bartneriaeth wrth i ni ddatblygu Newid. Mae ail-ddefnyddio yn thema bwysig sydd yn debygol o godi eto mewn nodynwythnos arall yn y dyfodol.

Cymerwch olwg ar eu gwaith:

Digidol a COVID

Yn ystod cyfnod COVID, daeth digidol yn prif ffordd o drosglwyddo gwasanaeth i sawl sefydliad trydydd sector. Ymchwiliwyd ystyr hyn i sefydliadau yng Nghymru a rhoddwyd argymhellion yn seiliedig ar yr hyn a aeth yn dda, neu ddim mor dda. Canlyniad hyn oedd datblygiad Newid, rhaglen ariannir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi trydydd sector Cymru gyda digidol. Manylion pellach am ein hymchwil a’r rhaglen Newid:

Gwasanaethau digidol gwell i Gymru

Mae CGGC, Canolfan Cydweithredol Cymru a ProMo yn ddiolchgar iawn i fod yn rhan o ecosystem ddigidol mwy yng Nghymru, yn gweithio ar y cyd â Chanolfan Gwasanaethau Digidol Cyhoeddus (CDPS), sydd yn cefnogi’r sector cyhoeddus gyda digidol.

Mae’r CDPS wedi datblygu 12 o safonau gwasanaeth digidol ar gyfer Cymru. Mae’r safonau yn wahanol i unrhyw le arall yn y byd gan eu bod yn ystyried yr Iaith Gymraeg a Deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, sydd yn canolbwyntio ar genedlaethau’r dyfodol. Bydd cyfieithu’r safonau yma i rywbeth sydd yn gallu cael ei ddeall a’i weithredu arno gan y trydydd sector, yn elfen hanfodol o Newid:

Cyn i mi fynd

Pam Newid a pam bod y darn ‘id’ yn lliw gwahanol yn y logo?

Newid yw’r enw yn Saesneg hefyd, ac mae’r logo yn chwarae ar eiriau gan y gallai feddwl ‘New identity’ i’r trydydd sector. Mae’r enw yn adlewyrchu’r newidiadau dwys y bydd ffyrdd digidol o weithio yn ei gyflwyno i hunaniaeth y sector wrth weithio i, a gyda, y bobl rydym yn eu gwasanaethu.

Beth ydy nodynwythnos?

Rhywle i rannu eich gwaith mewn ffurf fwy anffurfiol yn hytrach nag blog sefydliadol neu eitem newyddion arferol. Er esiampl, gallech chi bostio gif o Nicholas Cage ar hap:

Nicholas Cage yn mwynhau ychydig o awyr iach ar ei wyneb.

Beth fyddech chi’n ei drafod wythnos nesaf?

Mwy am gyflawni’r gwaith a’r hyn rydym yn ei ddysgu. Bydd yr un nesaf yn dod gan Cwmpas neu CGGC.

Ble ydw i’n cofrestru i gymryd rhan yn Newid?

Rydym yn gweithio ar hyn ar hyn o bryd.

Welwn ni chi wythnos nesaf!

Yn y cyfamser, os hoffech chi gael sgwrs, cysylltwch â nathan@promo.cymru

--

--

ProMo-Cymru
Newid Cymru

We're a youth and community organisation specialising in communication. Current projects: @MeicCymru @FeedTheSprout @ebbwvaleevi @familypointcym