Y diweddaraf gan Newid: Mae ein harolwg yn dweud…

Ben Bostock
Newid Cymru
Published in
5 min readMay 26, 2022

Felly, beth sydd wedi digwydd ers negeseuon blaenorol gan bartneriaid y prosiect? Yn gryno, cryn dipyn! Mae ein cyfarfodydd Grŵp Gweithredol bob pythefnos yn allweddol gan ein bod wedi gweithio gyda’n gilydd i feddwl am ba 25 sefydliad y byddwn yn gweithio gyda nhw i ddatblygu eu ffyrdd digidol o weithio, ar sail ymatebion i’r arolwg sylfaenol a’n galluogodd i gasglu myfyrdodau yn y byd go iawn ar gyflwr digidol yn ein trydydd sector.

Atgrynhoad o’r prosiect a’i gynnydd

· Mae’r arolwg sylfaenol wedi derbyn 522 o ymatebion wedi’u cwblhau

· Mae gwerthusiad allanol o’r prosiect ar waith

· Lansio cyfres o ddigwyddiadau digidol i Ymddiriedolwyr

· Mae Brightsparks yn datblygu adnoddau dysgu digidol

· Cwrs Cynllunio Gwasanaethau Digidol ar agor

· Paratoi ar gyfer Gofod3.

Rydym hefyd yn datblygu’r Gymuned Ymarfer, gan feddwl sut y byddwn yn troi adborth o’r sector yn atebion y gellir eu mabwysiadu, lle na fydd un dull yn addas i bawb yn gweithio. Wedi’r cyfan, nid oes safon BSI ar gyfer mynd yn ddigidol. Ni fydd beth sy’n gweithio i grŵp lleol dan arweiniad gwirfoddolwyr yn gweithio i elusen genedlaethol.

I mi, nid yw’n rhoi gormod o bwyslais ar theori, rhithffurfiau a beth yn ein barn ni fydd yn gweithio, felly rydym yn ddiolchgar iawn i’r rheiny a ymatebodd, gan ddweud wrthym beth sydd ei angen mewn gwirionedd ar lawr gwlad.

Beth ddywedodd sefydliadau’r trydydd sector

Yn galonogol, roedd yr ymatebion i’r arolwg yn adlewyrchu cam cadarnhaol i’r cyfeiriad cywir ac roedd angen cymorth ar 54% o sefydliadau mwy yn y meysydd canlynol: mabwysiadu digidol, ymgysylltu digidol, pobl a sgiliau, amrywiaeth ddigidol neu flaengynllunio digidol.

Fodd bynnag, mae arwyddion o’r arolwg yn awgrymu y gallai hyder digidol fod yn brif rwystr gwirioneddol — neu’n fwy tebygol o gael ei ystyried yn rhwystr — i fabwysiadu digidol.

Adlewyrchir hyn yn y 42% o ficro-sefydliadau a nododd yn yr arolwg fod eu hyder gyda digidol yn “Iawn” a dywedodd 19% eu bod, “Ddim yn hyderus o gwbl” gyda thechnoleg.

Mae hyder digidol yn amlwg yn bwysig, ond yn yr un modd, rhaid i sefydliadau sicrhau eu bod yn meincnodi eu hunain yn erbyn cymheiriaid cymharol gyda meddylfryd flaengar o ran defnyddio digidol, gan gofio eu hanghenion unigryw.

Bydd hyn yn sicrhau eu bod yn cael y gorau o ddysgu a rennir rhwng cyfoedion a fydd yn rhan sylweddol o gam nesaf Newid — ni waeth pa gam o’r daith ddigidol y maent arni.

Ar hyn o bryd, mae’n werth tynnu sylw at yr angen i sicrhau ein bod yn cyrraedd y sefydliadau hynny nad oeddent (neu na allent) fynd ar-lein i gwblhau arolwg am ‘fynd yn ddigidol’, ar blatfform digidol. Byddai gennym ddiddordeb mawr mewn clywed eich barn am hyn.

Dangosodd Adroddiad Sgiliau Digidol 2021 Charity Digital fod 52% o elusennau yn poeni am eithrio rhai pobl neu grwpiau ac mae 24% yn pryderu nad yw eu cynulleidfa ar-lein a bod 12% o elusennau eu hunain wedi cael trafferth gyda mynediad technoleg sylfaenol. Felly, mae’n arbennig o bwysig peidio â rhoi’r gorau i’r syniad o ddulliau cyfathrebu traddodiadol yn llwyr er mwyn cyrraedd y rheiny sydd â’r angen mwyaf am gymorth gyda llywio digidol.

Cyfleu’r neges

Yr hyn sy’n glir hefyd yw’r angen am eglurder neges. Mae’n anochel y bydd cydblethu’r cyfarwydd a’r dealladwy â’r newydd a’r arloesol yn her, ond mae arolwg sylfaenol Newid yn dweud wrthym fod awydd yn sicr gan drawstoriad da o’r sector i roi cynnig arni.

Rhaid i negeseuon gysylltu â, a bod yn ddealladwy i, y sefydliadau sy’n lleiaf tueddol o fod yn ddigidol, y gall croesi’r ceunant ymddangos yn frawychus iawn iddynt.

Efallai y byddant hefyd yn meddwl tybed pam y dylent drafferthu ‘mynd yn ddigidol’ o gwbl, yn enwedig os nad yw’r manteision yn cael eu cyfleu’n glir. Byddwn yn gweithio’n galed o amgylch y pwynt hwn a byddwn yn cynhyrchu astudiaethau achos i ddangos y gellir gwneud hyn a sut i’w wneud.

Bydd yr astudiaethau achos hyn hefyd yn taflu goleuni ar y gwerth cymdeithasol llai diriaethol a grëir drwy helpu sefydliadau i gysylltu â’u defnyddwyr gwasanaeth a chymunedau ehangach. Wedi’r cyfan, nid yw creu newid cadarnhaol yn ymwneud â metrigau yn unig!

Edrych tua’r dyfodol

Fel rhywun sydd â chefndir cyfathrebu eang ac wedi tyfu i fyny gyda’r rhyngrwyd deialu ac Amstrad yng nghefn gwlad gorllewin Cymru, mae gennyf rywfaint o gynefindra â rhwystredigaethau gweithio gyda thechnoleg wael ac mae’n rhoi persbectif da i mi o sut y gallai sefydliadau papur a phen traddodiadol ystyried mynd yn ddigidol, yn seiliedig ar etifeddiaeth o seilwaith diffygiol.

Er ei bod yn amlwg bod rhai ardaloedd gwledig yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd ymdopi â chyflymder rhyngrwyd araf yn ôl safonau confensiynol, mae ymdrechion yn cael eu gwneud i liniaru hyn drwy brosiectau fel y Gronfa Band Eang Lleol a Phrosiect Anhawster y Gaeaf — mae’r olaf yn benodol ar gyfer y rheiny a adawodd yr ysbyty yn ddiweddar sydd fwyaf mewn perygl o gael eu hynysu’n ddigidol.

Yn sgil trawsnewid cyflym hwn a’r mannau oer digidol sy’n flaenllaw ar hyn o bryd, nawr yw’r amser i’r sefydliadau hynny gymryd y camau nesaf at fynd yn ddigidol, gyda chynulleidfaoedd a defnyddwyr ar flaen ein meddwl, yn enwedig pan fyddwn yn ystyried sut rydym yn storio, rhannu, diogelu a defnyddio eu data.

Mae hyfforddiant cymhwysedd digidol hefyd yn fwy hygyrch nag erioed, gyda darpariaeth hyfforddiant yn gyffredin — gan gynnwys y cwrs Cynllunio Gwasanaethau Digidol. Bydd unigolion neu grwpiau o’r sefydliadau yn cael eu cefnogi i gynllunio, profi a datblygu gwasanaethau digidol/hybrid newydd neu i ail-feddwl gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli.

Mae prosiect Catalyst y CGGC yn caniatáu i unigolion wneud cais am £2,000 i dalu am amser a dreulir yn datblygu cymhwysedd digidol.

Mae Brightsparks wrthi’n datblygu deunyddiau dysgu ar gyfer yr Hwb Gwybodaeth i helpu gyda hyfforddiant digidol hunangyfeiriedig.

Mae Charity Digital hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o gymorth, gyda cheisiadau a argymhellir i helpu sefydliadau’r trydydd sector i ddatblygu’r ymgysylltu â’r gymuned drwy fod yn ddigidol.

I grynhoi, mae llai o esgusodion nag erioed am fabwysiadu ymagwedd cuddio’ch pen yn y tywod at dechnoleg ddigidol, gyda mwyfwy o gymorth i archwilio ac ymgorffori ffyrdd o weithio a allai wella’n sylweddol y ffordd rydych chi’n gweithredu ac yn cyfathrebu. Yr hyn sy’n allweddol yw’r cam cyntaf hanfodol a gwybod ein bod yma i helpu.

Cadwch eich llygad allan ar Medium ar gyfer y diweddariad nesaf neu ymunwch â ni ar Gofod3 — cymerwch ofal tan hynny!

--

--

Ben Bostock
Newid Cymru

Creating positive change with @Cwmpas_Coop | Writer | Passion for anything driven. Lover of the world’s places, terrified of stairs worldwide. Views my own.