Fy Adolygiad Blynyddol
Roeddwn i jyst wedi derbyn fy ffurflen adolygu flynyddol pan sylwais fod Dan Barrett wedi trydar amdano sut mae ymarferwyr nodiadau wythnosol wedi bod yn defnyddio eu blogbostau i fwydo i mewn i’w hadolygiadau.
Penderfynais edrych yn ôl dros fy nodiadau o flwyddyn diwethaf ar gyfer syniadau am beth i gynnwys mewn adolygiad eleni.
Mae ein broses adolygu yn cynnwys cwestiynau mawr agored. Mae hyn yn grêt gan ei fod yn symud yr adolygiad i ffwrdd o fod yn ymarfer ticio blychau i fod yn rhywbeth sy’n ceisio mynd i’r afael â beth sy’n bwysig.
Teimlodd y cwestiynau yma ychydig yn rhy fawr i ddechrau. Ond ar ôl i mi edrych dros fy mlogbostau roeddwn i’n gallu gweld fy mod i eisoes wedi mynd i’r afael â beth roeddwn i eisiau cynnwys.
Arweiniodd hyn i mi fod yn fwy ddewr yn fy adborth nag oeddwn i wedi bwriadu achos roeddwn i wedi bod mor onest ar-lein yn barod. Doeddwn i ddim yn bwriadu cuddio unrhyw beth yn fy adolygiad, ond teimlais bod rhaid i mi gario’r gonestrwydd yma i fewn i’r adolygiad ei hun gan fy mod i eisioes wedi fod yn ddiflewyn ar dafod.
Felly dyma sut mae pethau wedi mynd.
Perfformiad
Mae’n tîm ni wedi gwneud yn eithriadol o dda dros y flwyddyn diwethaf. Cynhaliom 560 o ddigwyddiadau, a chafon adborth ansoddol da iawn. Mae yna wedi bod ychydig o heriau ar y ffordd ac rydym wedi gwneud rhai newidiadau strwythurol er mwyn symleiddio ein gwaith ac i gefnogi ein gilydd yn well. Rhaid i ni ffocysu arno hyn yn y flwyddyn sydd i ddod, ac rwy’n ceisio dangos yr ymddygiadau dymunol fy hunain — bod yn gymwynasgar, yn gefnogol a gweithio tu hwnt i’m gyfrifoldebau personol. Rwy’n meddwl am fy rôl yn yr un modd â phan ddechreuais ynddo, sef fel arweinydd gwas.
Rydym yn rhoi egwyddorion adferol ar waith yn y tîm fel ein bod ni’n meithrin cydberthnasau cryf ac rydym yn grymuso eraill yn ôl Model Cyflyrau Ego (Rhiant, Oedolyn, Plentyn). Mae hyn yn ymwneud â symud i ffwrdd o wneud i bobl teimlo cywilydd am eu camgymeriadau. Fel y byddai Brene Brown yn dweud, rydym yn gwneud dewisiadau gwael, dydyn ni ddim yn bobl gwael.
Gweithio’n agored
Rydw i wedi bod yn meddwl amdano sut y gallaf weithio’n fwy agored eleni. Mae ein tîm ni’n gyfoethog o ran data, ac rydw i eisiau gwneud defnydd llawer gwell ohono yn y flwyddyn sydd i ddod.
Rydym yn lwcus gan fod ein gwaith yn seiliedig ar fodel aelodaeth, felly dydyn ni ddim wedi cael ein gorfodi i fewn i sefyllfa ble rydym yn defnyddio bethau sy’n hawdd eu mesur i ddangos ein heffeithiolrwydd. Does gennym ddim Ddangosyddion Perfformiad Allweddol, felly mae ein data yn gallu fod yn union beth ydyw, sef dangosydd yn hytrach na naratif o’n gwaith. Rydw i wedi cael trafodaethau da gyda Kelly Doonan ar hyn, a rhannodd hi’r blogbost yma ar Gyfraith Campbell gyda mi, ac mae whatsthepont hefyd wedi edrych ar hyn yn ddiweddar:
“Mae targedau a mesuriadau gofalus o welliant yn eu herbyn yn eithaf dibwrpas. Rydych chi’n ceisio diffinio’r pethau anrhagweladwy (trwy osod targedau) a mesur pethau nad oes gennych unrhyw reolaeth drostynt.”
Mae’r trydar yma gan Dave Floyd yn taro’r hoelen ar ei phen. Ni fydd y data hwn yn allbwn ynddo’i hun, ond gobeithiaf y bydd yn rhan o lun i roi mwy o wybodaeth inni.
Rwyf wedi sefydlu dangosfyrddau fel y gallaf rannu sut mae ein partneriaid yn ymgysylltu â ni ac fel y gallaf wella’r defnydd o ddata yn ein gwaith. Mae Ben Proctor wedi ysgrifennu cwpl o flogbostau gwych ar aeddfedrwydd data (neu yr ysgol data anhygoel). Rydym wedi bod yn adweithiol iawn yn y gorffennol. Nawr fy mod i’n hyderus yn fy rôl, rydw i mewn sefyllfa lle gallaf ddarparu data sydd ei angen yn llawer gyflymach, a hoffwn gyrraedd y pwynt ble rydym yn defnyddio data i edrych ymlaen i’r dyfodol rydyn ni eisiau gweld.
Yr ochr arall i weithio’n agored yw’r modd rydw i’n rhannu fy ngwaith. Edrychodd Blabchat Bromford Lab ar hyn, lle canodd rhai o sylwadau Neil Tamplin cloch i mi.
Nid yw’n ddigon i weithio’n agored, mae rhaid i mi hefyd sicrhau ei fod wedi’i dargedu a’i fod yn hygyrch. Ar hyn o bryd rwy’n meddwl amdano sut y gallaf ddiweddaru ein Cyfarwyddwyr Cynorthwyol yn rheolaidd mewn modd sy’n gweithio iddyn nhw. Rydw i eisiau sicrhau bod nhw’n cael y darlun llawn wrth wneud penderfyniadau.
Twf a Datblygiad
Yn wahanol i fy rolau blaenorol ble wnes i hwyluso digwyddiadau fy hun, mae fy rôl bresennol yn fwy o rôl swyddfa gefn. Fel y nodais yn fy amcanion ar gyfer y flwyddyn, yr elfen rwy’n colli’r fwyaf yw’r rhan rwydweithio lle wnes i ddatblygu fy ngwybodaeth am welliant gwasanaethau cyhoeddus.
Eleni mae rhaid i mi feddwl yn fwy gweithredol am sut y gallaf dyfu a gwella. Rydw i wedi bod yn meddwl am fy nhwf mewn ffordd linellol iawn ers i mi ddechrau’r swydd yma. Rwy’n credu bod rhaid i mi ddechrau meddwl am welliant mewn ystyr llawer ehangach er mwyn fy ngalluogi i i dyfu.
Lles
Yn ddiweddar, rydw i wedi blogio amdano sut mae seiclo wedi bod yn llesol i mi. Ers hynny, rydw i wedi dechrau seiclo o Gaerwysg i’r swyddfa unwaith yr wythnos. Fe wnes i fynd ar goll yn Nhorquay y tro cyntaf, ond nawr rwy’n gallu cymudo mewn tua 2 1/4 awr. Mae gwneud ymarfer corff wrth i’r ddydd gwawrio yn golygu nad oes rhaid i mi wneud ymarfer bellach yn y nosweithiau. Rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth fy mhartner, gan na fyddai’n bosib heb ei chefnogaeth.
Un o’r pethau a nodais eleni oedd yr anghydbwysedd mewn llafur emosiynol yn ein cartref. Mae fy mhartner newydd gael dyrchafiad, sy’n gwbl haeddiannol. Mae hi’n hynod o glyfar ac mae ganddi gymaint o empathi tuag at bobl. Rwy’n credu y bydd hi’n grêt.
Gan mai newydd ddechrau’r rôl yw hi, dydw i ddim yn gwybod pa newidiadau sydd angen i ni gwneud. Rydw i’n ddiolchgar iawn fy mod i’n gweithio i sefydliad cefnogol.
Ble nesaf?
Rwy’n gobeithio y bydd y nodiadau hyn yr un mor ddefnyddiol â rhai llynedd. Rwy’n teimlo fy mod i wedi datblygu llawer yn fy amser yma. Rydw i wedi gwella o ran hwyluso gwaith y tîm ac rydw i’n rheoli cyllideb yn llawer gwell nag oeddwn i. Rwy’n teimlo fy mod i wedi cyflawni lot yn y 18 fis diwethaf, ac rwy’n edrych ymlaen i weld sut y gallaf wneud defnydd gwell o ddata yn y dyfodol, sy’n anhygoel wrth feddwl mai dyma’r anrheg gadael y dderbynais wrth gadael Good Practice WAO achos roeddwn i’n casau Excel….
Ymlaen ac i fyny!